Cymuned a dwy afon i elwa ar brosiect gwyrdd £13m Dŵr Cymru


8 Gorffennaf 2024

Cynllun buddsoddi gwyrdd arloesol ar gost o £13m fydd y cyntaf o’i fath yn y DU, a bydd yn darparu cyfleuster cymunedol yn seiliedig ar natur wrth helpu i wella ansawdd dŵr mewn dwy afon yng Nghymru yr un pryd.

Bydd prosiect Dŵr Cymru’n creu gwlyptir 1.8 hectar ar gyfer y gymuned leol yn Lôn Pont-y-felin yn y Dafarn Newydd ger Pont-y-pŵl a fydd yn gwasanaethu fel system hidlo werdd ar gyfer y dŵr sy’n gallu dod allan o’r gorlif storm cyfagos mewn cyfnodau o law trwm. Bydd y dŵr storm yma’n pasio trwy’r gwlyptir cyn cael ei ryddhau i Afon Lwyd. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd yr afon a’r prif gorff dŵr y mae’n llifo iddo, sef afon Wysg.

Mae’r cynlluniau ar gyfer y prosiect wedi cymryd nifer o flynyddoedd i’w datblygu, ond bellach mae’r gwaith wedi dechrau i greu gwelyau brwyn, gwlyptiroedd, llwybrau cerdded, gwelliannau amgylcheddol ac ardaloedd addysgol er budd bioamrywiaeth leol, ynghyd ag ardal i’r gymuned ei mwynhau hefyd.

Mae gorlifoedd storm yn rhan hanfodol o’r system dŵr gwastraff ac maent yn gweithredu fel falfiau rhyddhau sy’n helpu i atal llifogydd rhag taro cartrefi a chymunedau mewn cyfnodau o law trwm. Er na fyddai’n fforddiadwy dileu’r holl orlifoedd storm o’r rhwydwaith, mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i daclo’r rhai sy’n cael yr effaith ecolegol fwyaf yn gyntaf. Mae’r ateb gwyrdd yn y Dafarn Newydd yn golygu y caiff unrhyw orlif o’r system ei hidlo, gan dynnu llawer o’r sylweddau sy’n gallu achosi niwed ecolegol, fel ffosffadau.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Steve Wilson: “Rydyn ni wrth ein bodd i greu’r safle arloesol yma a fydd yn lliniaru effeithiau dŵr gwastraff y gorlif storm. Mae gwlyptiroedd yn gweithio trwy gymryd dŵr gwastraff sydd wedi cael ei drin yn rhannol a’i basio trwy gyfres o byllau rhyng-gysylltiedig. Caiff rhywogaethau dyfrol brodorol, fel gellesg, brwyn, melyn y gors a berwr y dŵr eu plannu yn yr holl byllau. Mae’r gwlyptiroedd yn tynnu sylweddau fel ffosffadau, sy’n cael effaith ar ansawdd dŵr afonol.

“Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y prosiect wedi cymryd blynyddoedd, ac mae’n dyst i’n hymrwymiad i weithio i wneud y peth iawn dros ein cwsmeriaid a’r amgylchedd bob tro.

“Yn unol â pholisi CNC a Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n targedu ein buddsoddiad ar y gorlifoedd storm sy’n achosi difrod amgylcheddol yn gyntaf, yn hytrach na’r rhai sy’n rhyddhau amlaf.”

“Mae ein buddsoddiad yn ein system dŵr gwastraff wedi dwyn ffrwyth gyda gwelliannau go iawn, ac wedi helpu i sicrhau fod gan Gymru dros chwarter traethau Banner Las y DU er taw cwta 15% o’r arfordir sydd yma, a bod 44% o’n hafonydd a’n cyrff dŵr yn cyflawni statws ecolegol da o gymharu ag 14% yn Lloegr.

“Fodd bynnag, rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan wrth wneud beth gallwn ni i leihau ein heffaith ar ein hafonydd, a gweithio gydag eraill i yrru’r gwelliannau mewn ansawdd dŵr afonol rydyn ni i gyd am eu gweld.”

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Fay Jones, a ddaeth i ymweld â’r safle’n ddiweddar: “Mae ansawdd y dŵr yn ein hafonydd yn fater hanfodol bwysig, ac mae llawer o bobl ar draws Cymru am ein gweld ni’n cymryd camau i amddiffyn ein dyfrffyrdd rhag llygredd.

“Roedd hi’n hyfryd felly gweld buddsoddiad Dŵr Cymru yn ei gyfleuster ym Mhont-y-pŵl a fydd, yn ogystal â helpu i wella ansawdd y dŵr yn yr afonydd cyfagos, yn creu cyfleuster naturiol i’r gymuned leol ei fwynhau.

Yn ystod y cyfnod cynllunio, cydweithiodd Dŵr Cymru â’r gymuned a rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth fanwl am y cynlluniau wrth iddynt ddatblygu.

Bwriedir cwblhau’r gwaith ar y prosiect erbyn Mawrth 2025.

Mae Gorlifoedd Storm - fel yr un yn y Dafarn Newydd - yn chwarae rhan annatod wrth atal llifogydd rhag taro cartrefi yn sgil glaw a stormydd, am fod y rhan fwyaf o’r rhwydwaith gwastraff yn gweithredu ar sail system gyfunol sy’n casglu dŵr wyneb yn ogystal â dŵr gwastraff. Mae gweithrediad y gorlifoedd - sy’n rhyddhau’r dŵr wyneb sy’n llifo i garthffosydd yn sgil glaw yn bennaf - yn cael ei reoleiddio’n dynn.