Hysbysiad Berwi Dŵr - Datganiad gan Peter Perry


25 Tachwedd 2024

Ymddiheurwn yn fawr am yr effaith y mae’r ‘hysbysiad berwi dŵr’ rhagofalus yn ei gael ar ein cwsmeriaid mewn cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf.

Mae hyn oherwydd Storm Bert a’r llifogydd sy’n effeithio ar Waith Trin Dŵr Tynywaun yn Nhreherbert, sy’n gwasanaethu Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli a Thonypandy. Gall cwsmeriaid gadarnhau a ydynt yn cael eu heffeithio trwy ein gwiriwr cod post ar-lein.

Diogelu iechyd ein cwsmeriaid a darparu cyflenwad dŵr yfed glân, ffres ar eu cyfer yw ein prif flaenoriaeth ac ni fyddwn yn cymryd unrhyw risgiau o ran iechyd y cyhoedd. Dyma pam rydym yn gofyn i gwsmeriaid ferwi eu dŵr. Gall y gofyniad hwn fod yn ei le am hyd at 7 diwrnod ac roeddem am roi gwybod i chi beth i’w ddisgwyl dros y dyddiau nesaf.

Cyngor ar ddŵr berwedig

Mae’r holl gwsmeriaid y mae’r ‘hysbysiad berwi dŵr’ wedi effeithio arnynt wedi cael eu hysbysu drwy neges destun i ffonau a ffonau symudol. Mae cyngor hefyd ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol ond bydd cwsmeriaid yn derbyn yr un cyngor mewn taflen copi caled yfory yn y post.

Cwsmeriaid bregus ac ysgolion

Dros y 24 awr ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag ysbytai a chartrefi gofal ac yn dosbarthu dŵr potel i gwsmeriaid bregus sydd ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth. Rydym hefyd yn dosbarthu dŵr potel i ysgolion yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt fel y gallan nhw aros ar agor. Os oes gennych gyflwr meddygol a bod angen i ni ddanfon dŵr potel ato chi, gallwch gofrestru ar ein gwefan neu ein ffonio ar 0800 052 0145.

Gorsafoedd dŵr potel

Ar ôl blaenoriaethu’r cwsmeriaid mwyaf bregus a’r ysgolion, rydym yn awr yn y broses o sefydlu gorsafoedd dŵr potel a byddwn yn rhannu’r manylion cyn gynted â phosibl. Gofynnwn i gwsmeriaid sydd angen ymweld â’r gorsafoedd hyn gymryd yr hyn sydd ei angen arnynt yn unig, gan y gall cwsmeriaid barhau i ddefnyddio eu cyflenwadau eu hunain i’w yfed cyn belled â’i fod wedi’i ferwi a bod cwsmeriaid yn dilyn ein cyngor. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma.

Iawndal

I gydnabod yr anghyfleustra y mae cwsmeriaid yn ei brofi a chost berwi dŵr, bydd pob cartref sy’n gymwys yn cael £150 mewn iawndal dros y 10 diwrnod gwaith nesaf. Bydd hwn yn cael ei dalu’n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. Rhoddir sieciau dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. Byddwn yn cyhoeddi manylion ar ein gwefan yn fuan ar gyfer cwsmeriaid busnes y mae’r digwyddiad hwn wedi effeithio arnynt.

Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a hoffwn ddiolch i chi am eich cydweithrediad tra byddwn yn gweithio’n ddiflino i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl.

Yr eiddoch yn gywir

P. Perry

Prif Weithredwr, Dŵr Cymru