Bydd Dŵr Cymru Welsh Water yn rhoi taliad pellach o £100 i bob aelwyd sy’n dod o dan yr hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhag ofn ar draws rannau o Rhondda Cynon Taf.
Daw hyn wrth i’r cwmni rybuddio y bydd angen i gwsmeriaid barhau i ferwi eu dŵr yfed am saith diwrnod arall, tan ddydd Sul, 8 Rhagfyr. Cyhoeddwyd yr hysbysiad berwi cyntaf ddydd Sul, 24 Tachwedd ac mae'n para tan ddydd Sul, 1 Rhagfyr.
Mae’r hysbysiad mewn grym ar gyfer cwsmeriaid yn ardaloedd Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Ton Pentre, y Gelli, rhannau o’r Pentre, rhannau o Donypandy a rhannau o Ystrad.
Cyhoeddwyd yr hysbysiad yn sgil llifogydd yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Tyn-y-waun ger Treherbert. Dangosodd y mesurydd tywydd yn Nhyn-y-waun y lefelau glawiad uchaf ond un yn y DU y dydd Sadwrn a’r dydd Sul diwethaf yn sgil Storm Bert. Llifodd dŵr wyneb i lawr o’r bryn i’r tanc storio dŵr yfed gan niweidio’r tanc.
Mae’r gwaith i atal difrod rhag llifogydd pellach yn gofyn am osod pilenni anhydraidd o gwmpas y tanc storio. Mae angen gosod pilenni ar do’r tanciau hefyd, ac mae’r tîm yn wynebu cyfyngiadau o ran pwysau’r peiriannau y gellir eu defnyddio i gyflawni hyn.
Mae angen cyfnod o dywydd sych i gyflawni hyn yn llwyddiannus, felly mae’r tywydd gwlyb yr wythnos hon wedi amharu ar y gwaith, ac mae’r rhagolygon yn addo glaw eto dros y penwythnos.
Bydd y tîm yn parhau i weithio 24 awr y dydd er mwyn cwblhau’r gwaith cyn gynted â phosibl.
I gydnabod yr anghyfleustra estynedig, caiff cwsmeriaid daliad ychwanegol o £100 ar ben y taliad gwreiddiol o £150. Caiff busnesau £200 pellach ar ben y taliad gwreiddiol o £300. Bydd cwmnïau cymwys yn gallu gwneud cais ar gyfer cynllun £2,500 i’w digolledu am rai costau penodol/ colledion elw gros.
Mae yna dair gorsaf dŵr potel ar agor lle gall trigolion fynd i gasglu poteli o ddŵr, a dosbarthwyd dros 150,000 o boteli hyd yn hyn. Mae Dŵr Cymru wedi bod yn cludo poteli o ddŵr i gartrefi cwsmeriaid ac aelwydydd bregus, ysgolion, meithrinfeydd ac ysbytai.
Gall cwsmeriaid bregus gofrestru ar gyfer Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth Dŵr Cymru trwy ffonio’r tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0800 052 0130 - mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid yn yr ardaloedd o dan sylw yn Rhondda Cynon Taf am eu cydweithrediad a’u hamynedd, a hoffwn ymddiheuro am yr anghyfleustra.
“Rydyn ni’n wynebu nifer o sialensiau wrth geisio cwblhau’r gwaith trwsio ar y tanc dŵr, ac mae ein timau’n gweithio rownd y cloc.
"Hoffwn sicrhau pawb ein bod ni’n gwneud popeth y gallwn ni i geisio adfer gwasanaethau normal cyn gynted â phosibl.
“Amddiffyn iechyd ein cwsmeriaid a darparu cyflenwad o ddŵr yfed glân a ffres ar eu cyfer yw ein blaenoriaeth bennaf, ac ni fyddwn ni’n cymryd unrhyw risgiau o ran iechyd y cyhoedd.”