Ymestyn yr Hysbysiad Berwi Dŵr - Llythyr agored oddi wrth Peter Perry
29 Tachwedd 2024
Hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn Rhondda Cynon Taf am eu cydweithrediad a’u hamynedd ar ôl i ni gyhoeddi hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhagofalus ddydd Sul diwethaf.
Pwrpas y llythyr hwn yw cadarnhau bod angen i ni ymestyn yr ‘hysbysiad berwi dŵr’ am hyd at wythnos.
Dechreuodd yr hysbysiad gwreiddiol ar ddydd Sul 24ain Tachwedd ac felly rydym yn gofyn i gwsmeriaid barhau i ferwi eu dŵr yfed am 7 diwrnod arall (tan ddydd Sul, 8fed Rhagfyr).
Pam mae angen i ni wneud hyn?
Gwnaeth y mesurydd tywydd yn Nhynywaun fesur yr ail lawiad uchaf yn y DU ddydd Sadwrn a dydd Sul diwethaf.
Arweiniodd hyn at lawer iawn o lifogydd ar y safle a dŵr wyneb yn rhedeg o’r bryn i’r tanc storio dŵr yfed gan effeithio ar y tanc. Dyma pam y gwnaethom gyhoeddi hysbysiad berwi dŵr rhagofalus ar unwaith wrth i ni weithio i ddiogelu’r tanc.
Rydym yn wynebu nifer o heriau wrth i ni geisio cwblhau hyn er gwaethaf gweithio bob awr o’r dydd a’r nos.
Yn gyntaf oll, mae peth o’r gwaith i atal difrod rhag llifogydd yn y dyfodol yn cynnwys gosod pilenni dal dŵr o amgylch y tanc storio. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, mae angen cyfnod o dywydd sych. Mae’r glaw ysbeidiol yr wythnos hon, fel y byddwch wedi ei brofi’n lleol, wedi arafu ein hymdrechion i wneud hyn ac mae perygl o law ysbeidiol dros y dyddiau nesaf. Mae angen i ni hefyd osod y pilenni hyn ar do’r tanciau, ac i wneud hyn yn ddiogel, rydym yn gyfyngedig o ran pwysau peiriannau y gallwn eu defnyddio wrth i ni weithio i gyflawni hyn. Mae hyn i gyd wrth sicrhau diogelwch ein tîm ar y safle hefyd yn golygu bod angen i ni gymryd rhagor o amser i weithio’n ofalus ar gyfer y rhan hon o’r gwaith hanfodol.
Iawndal
I gydnabod yr anghyfleustra estynedig hwn, bydd taliad pellach o £100 yn cael ei wneud i bob aelwyd yr effeithir arnynt. Mae hyn ar ben y taliad gwreiddiol o £150 a roddwyd i gwsmeriaid. Ar gyfer busnesau, byddwn yn gwneud taliad ychwanegol o £200. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad o £300 a roddwyd i fusnesau ynghyd â’n cynllun ar gyfer cyfrannu tuag at rai costau/colli elw gros.
Mae tair gorsaf poteli dŵr ar agor i breswylwyr gasglu dŵr potel, ac mae tua 150,000 o boteli wedi’u dosbarthu hyd yma i gwsmeriaid bregus, aelwydydd, ysgolion a meithrinfeydd. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw gwsmeriaid bregus nad ydynt wedi cofrestru eto ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, anogwch nhw i gysylltu â ni a chofrestru er mwyn i ni allu trefnu danfon dŵr atynt. Os oes gennych ymholiadau neu os oes angen i chi gofrestru ar gyfer ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, ffoniwch ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 0800 052 0130 – mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos.
Hoffwn ymddiheuro eto am yr anghyfleustra a diolch i chi am weithio gyda ni wrth i ni geisio sicrhau bod popeth yn ôl i’r drefn arferol cyn gynted â phosibl.
Yn gywir,
P. Perry
Prif Weithredwr,
Dŵr Cymru