Barbara Moorhouse i ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Anweithredol Glas Cymru


1 Hydref 2024

Bydd Barbara Moorhouse yn ymddiswyddo o’i rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol Glas Cymru, y cwmni nid-er-elw sy’n berchen ar Ddŵr Cymru, ar ddiwedd y flwyddyn (31 Rhagfyr 2024).

Mae Barbara yn ymadael â’i rôl gyda Glas Cymru i fynd ar drywydd cyfleoedd newydd. Mae ganddi nifer o benodiadau anweithredol eisoes, gan gynnwys rôl Cadeirydd Agility Trains Group (cwmni gwasanaethau trên sydd mewn perchnogaeth breifat), mae’n Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ac yn Gadeirydd ar Bwyllgor Taliadau Aptitude Software Group plc, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Balfour Beatty plc.

Dywedodd Barbara Moorhouse: “Rydw i wedi gwerthfawrogi’r cyfle i ddychwelyd i’r diwydiant dŵr ac i ddeall y sialensiau sy’n wynebu’r sector ar hyn o bryd. Rydw i wedi mwynhau gweithio gydag Alistair Lyons fel Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd wrth fframio ymateb Dŵr Cymru i’r sialensiau hynny. Gobeithio y bydd gweddill fy amser ar y Bwrdd yn gweld setliad a fydd yn caniatáu i’r cwmni gyflawni ar ei gynlluniau’n llwyddiannus dros y blynyddoedd nesaf yn yr adolygiad o brisiau.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alistair Lyons: “Gyda Phenderfyniad Terfynol Ofwat ar yr Adolygiad o Brisiau ar gyfer 2025-30 (PR24) i ddod ddiwedd Rhagfyr, mae Barbara wedi darparu mewnbwn, her ac arweiniad cadarn i’r busnes mewn cyfnod ymestynnol i’r sector. Rwy’n ddiolchgar iddi am ei chymorth a’i chyngor craff fel aelod o’r Bwrdd ac fel Cadeirydd y Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch.”

Mae’r broses i recriwtio ei holynydd wedi dechrau.