Mam-gu o Aberdâr yn galw ar bobl i roi’r gorau i fflysio weips ar ôl dilyw erchyll yn ei gardd


11 Ebrill 2024

Mae mam-gu o Aberdâr yn galw ar bobl i fod yn gyfrifol ac i beidio â fflysio weips, nwyddau mislif ac eitemau eraill ddylai fynd i’r bin ar ôl i garthion orlifo i’w gardd annwyl.

Roedd Christine, sy’n 73 oed, wedi ffieiddio o weld bod ei gardd dan ddilyw oherwydd bloc yn y system garthffosiaeth yn yr ardal, a oedd wedi cael ei achosi gan bobl yn fflysio pethau fel weips a chadachau mislif i’r tŷ bach. Roedd hyn wedi gwneud i’r system orlifo, gyda Christine yn cael ei tharo'r gwaethaf wrth i’r carthion ddianc trwy’r twll archwilio yn ei gardd.

Dywedodd Christine: “Fe ddeffrais i yn y bore i weld dinistr y carthion dros yr ardd. Roedd hi’n sioc gweld faint o lanast oedd yna, roedd hi’n gorchuddio’r ardd i gyd.

“Roeddwn i’n ypset ac yn grac a doeddwn i ddim yn credu faint o garthion crai oedd wedi gorlifo ar fy eiddo. Ymysg y carthion, fe welais i weips a chadachau mislif hefyd.”

Galwodd Christine Ddŵr Cymru a anfonodd dîm allan i’r eiddo i archwilio’r tyllau archwilio a’r carthffosydd, a ffeindiwyd taw cam-drin carthffosydd oedd wedi achosi’r broblem.

Ar ôl clirio’r bloc, aethon nhw ati i lanhau’r prif lwybrau i’r tŷ a’r patio.

Fe gymerodd hi ryw wythnos i adfer yr ardd i’w hen ogoniant ar ôl i’r contractwyr godi’r graean halogedig a gosod graean newydd yn ei le, a chafodd y ffens oedd wedi cael ei difrodi ei glanhau a’i pheintio hefyd.

Dywedodd Christine: “Rwy’n falch iawn o fy ngardd ac mae’n rhoi hapusrwydd i mi, rwy’n treulio llawer o amser yn garddio ac yn mwynhau’r lle, yn arbennig ar ddiwrnodau braf.

“Pan sylweddolais i taw pobl yn fflysio pethau na ddylai gael eu fflysio oedd wedi achosi’r dilyw, roeddwn i’n grac yn ac yn rhwystredig – mae hi’n anodd i mi gredu eu bod nhw’n meddwl ei bod hi’n iawn gwneud hyn.”

Nod ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc Dŵr Cymru yw addysgu pobl yng Nghymru am y problemau y gall fflysio’r pethau anghywir i’r tŷ bach eu hachosi, a’u hysbrydoli i gael gwared ar nwyddau mewn ffordd briodol er mwyn osgoi bloc erchyll sy’n niweidio cartrefi a’r amgylchedd.

Ychwanegodd Christine, sy’n llwyr gefnogi’r ymgyrch: I unrhyw un sy’n dal i fod yn fflysio weips - stopiwch hi! Peidiwch â fflysio dim heblaw’r tri P - sef pi-pi, pŵ a phapur (tŷ bach) - i lawr y tŷ bach.

“Y bin yw’r lle i gadachau mislif, weips a chewynnau.”

Dywedodd Ed Bennett, Pennaeth Rhwydweithiau Dŵr Dŵr Cymru: “Yn anffodus, mae’r pethau hyn yn digwydd pob dydd i ni yn Dŵr Cymru. Mae ein cydweithwyr yn gweithio rownd y cloc i glirio pethau sy’n blocio ein systemau carthffosiaeth, pethau sy’n hawdd eu hatal os yw ein cwsmeriaid yn rhoi’r gorau i drin eu tai bach fel bin.

“Mae un weip yn ddigon i achosi bloc ych-a-fi sy’n gallu golygu bod carthion yn llifo nôl i mewn i’ch cartref. Mae hi’n gallu achosi trallod a diflastod mawr, ac mae’r gwaith adfer yn ddrud. Rydyn ni’n annog i’n holl gwsmeriaid fflysio dim ond y tri P i’r tŷ bach – sef pi-pi, pŵ a phapur.”

I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc, ewch i yma.