Mae cynllun sy'n helpu i warchod yr amgylchedd, a gwella ansawdd dŵr y Fenai yn ardal Bangor ar fin cychwyn gan Dŵr Cymru.
Bydd y cynllun buddsoddi £19 miliwn, sy’n dechrau ganol mis Chwefror, yn cynyddu’n sylweddol faint o ddŵr gwastraff sy’n cael ei storio yn y rhwydwaith dŵr gwastraff a fydd yn helpu i wella ansawdd dŵr y Fenai.
Bydd y prosiect, gan y cwmni nid-er elw, yn cynnwys gosod tanc storio tanddaearol newydd a fydd yn galluogi’r rhwydwaith dŵr gwastraff i berfformio’n fwy effeithiol yn ystod glaw trwm. Mae'r rhwydwaith gwastraff ym Mangor yn system gyfunol, sy'n golygu bod dŵr gwastraff o geginau a thoiledau'n cael ei gymysgu â dŵr o doeau a ffyrdd. Yn ystod glaw trwm, weithiau gall y dŵr glaw ychwanegol orlwytho’r rhwydwaith, gan achosi llifogydd, bydd y buddsoddiad hanfodol hwn yn helpu’r system i ymdopi’n well â’r llifau ychwanegol hyn.
Fel rhan o'r gwaith, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn canol 2025, bydd tanc storio newydd a phibellau tanddaearol yn cael eu gosod. Y bwriad yw, pan fydd hi'n bwrw glaw yn drwm, bydd y tanc yn storio llawer o'r dŵr storm ac yna'n ei ryddhau'n araf yn ôl i'r rhwydwaith dŵr gwastraff pan fydd y lefelau wedi gostwng a’r glaw fynd heibio. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau'r perygl o lifogydd o'r rhwydwaith, ac yn lleihau'r nifer o weithiau y mae'r gorlif gerllaw yn gweithredu.
Bydd y gwaith yn digwydd ar gae pêl-droed Lon Glan Môr, sydd wedi ei leoli yn Hirael, Bangor, ble bydd y tanc storio tanddaearol yn cael ei osod. Ar ôl gorffen y gwaith, bydd y tir yn cael ei ddychwelyd i'w ardal laswelltog wreiddiol a bydd y cae pêl-droed yn cael ei adfer.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru, Angela Meadows: “Mae ein buddsoddiad mawr yn ardal Hirael ym Mangor yn adlewyrchu ein hymrwymiad i chwarae ein rhan i helpu i wella a diogelu ansawdd y dyfroedd o amgylch Cymru.
“Bydd y prosiect mawr hwn, sy’n werth £19 miliwn, yn sicrhau bod gan Fangor system dŵr gwastraff llawer mwy pwerus a bydd mewn gwell sefyllfa i ymdrin â chyfnodau o law trwm – sy'n digwydd yn amlach oherwydd effeithiau newid hinsawdd.”
Meddai Cynghorydd Cyngor Dinas Bangor a Gwynedd, Nigel Pickavance, “Mae hwn yn fuddsoddiad mawr sydd i’w groesawu yn isadeiledd Bangor a bydd yn helpu i ddiogelu eiddo rhag llifogydd yn ogystal â’r amgylchedd. Bydd y prosiect hwn yn gorgyffwrdd â’r cynllun amddiffyn rhag llifogydd yn yr ardal ac mae’n wych gweld yr holl bartïon yn cydweithio i geisio tarfu cyn lleied â phosibl ar drigolion lleol drwy wneud y gwaith ar yr un pryd.”
Meddai Cynghorydd Cyngor Dinas Bangor a Gwynedd, Dylan Fernley, “Rwy’n hapus i weld Dŵr ’Cymru'n buddsoddi yn ardal Hirael ym Mangor. Er y bydd ychydig aflonyddwch yn lleol yn y tymor byr tra bod y gwaith yn cael ei wneud, bydd y prosiect yn dod â nifer o fanteision hirdymor i’r ardal.”
Ychwanegodd Angela Meadows; “Fel gydag unrhyw waith adeiladu mawr bydd rhywfaint o aflonyddwch, ond rydym wedi cynllunio’r gwaith yn ofalus i leihau aflonyddwch ac ni fydd unrhyw effaith ar y gwasanaethau dŵr gwastraff i gwsmeriaid. Hoffwn ddiolch i drigolion lleol ymlaen llaw am eu hamynedd a’u dealltwriaeth wrth i ni wneud y gwaith hwn.
“Cynhaliom ddigwyddiad gwybodaeth galw heibio ym mis Ionawr er mwyn i drigolion lleol, rhanddeiliaid, a busnesau gwrdd â ni a gofyn cwestiynau, mi fynychodd nifer dda o bobl ac oedd yn ddigwyddiad hynod fuddiol. Gall trigolion ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwaith, diweddariadau ac unrhyw wybodaeth arall y gallai fod ei hangen arnynt drwy fynd i’r dudalen 'Yn Eich Ardal’ ar ein gwefan. Rydym yn annog grwpiau cymunedol lleol i gadw llygad ar ein gwefan a’n tudalen Facebook am fwy o wybodaeth am ein Cronfa Gymunedol sy’n darparu cyllid i grwpiau sydd eisiau gwella eu hardal a’u cymuned.”