Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi agor ei orsaf bwmpio dŵr newydd sbon ar gost o £34 miliwn yn Prioress Mill, Brynbuga.
Bydd yr orsaf newydd sbon yma’n helpu i sicrhau bod dros 300,000 o gwsmeriaid mewn rhannau o Sir Fynwy, ac mor bell i ffwrdd â Chasnewydd a Chaerdydd, yn parhau i gael cyflenwadau dŵr yfed o’r safon uchaf.
Bydd yr orsaf newydd sbon yn pwmpio dŵr o afon Wysg i Gronfa Ddŵr cyfagos Llandegfedd. Oddi yno, bydd y dŵr yn pasio trwy weithfeydd trin dŵr, ac ar ôl ei drin, bydd yn darparu cyflenwadau o ddŵr yfed ffres a glân ar gyfer cannoedd o filoedd o gwsmeriaid.
Adeiladwyd yr orsaf bwmpio wreiddiol ar y safle yn y 1960au, ac roedd hi wedi dod i ddiwedd ei hoes weithredol.
Dechreuodd gwaith y cwmni nid-er-elw ar yr orsaf newydd ym mis Tachwedd 2017. Cafodd yr hen orsaf bwmpio ei datgomisiynu ar ôl cwblhau’r orsaf newydd yn llwyddiannus.
Mae’r orsaf newydd hollol fodern yn defnyddio’r prosesau, yr offer a’r dechnoleg ddiweddaraf, oll mewn adeiladau sydd wedi cael eu dylunio’n benodol i asio i’w hamgylchoedd amaethyddol.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau’r cynllun buddsoddi pwysig yma yn Prioress Mill. Darparu cyflenwadau dŵr yfed diogel a dibynadwy yw un o’n prif flaenoriaethau, nawr ac yn y dyfodol.
Bydd yr orsaf bwmpio newydd yn defnyddio llai o ynni ac yn rhyddhau llai o allyriannau carbon. Caiff y drefn newydd o weithio lai o effaith ar afon Wysg hefyd. Buddsoddiad hirdymor y hwn sy’n cymryd effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol i ystyriaeth, a bydd yn ein helpu ni i gynnal cyflenwadau am flynyddoedd mawr i ddod.
“Rydyn ni wedi bod yn cydweithio’n agos â’r trigolion lleol i roi gwybod iddynt beth sy’n digwydd yma ac mewn ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl arnynt, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hamynedd.”
I nodi’r achlysur, cafodd yr orsaf bwmpio ei hagor yn swyddogol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Davies AS, a chafodd y rhai fu’n bresennol gyfle i fynd am dro o gwmpas yr orsaf newydd i weld y gwaith oedd wedi cael ei wneud.
Dywedodd David Davies AS: “Roedd hi’n bleser cael bod yn rhan o’r achlysur i nodi cwblhau’r buddsoddiad sylweddol yma yng ngorsaf bwmpio Prioress Mill.
“Mae hi’n bwysig bod pobl yn cael mwynhau cyflenwad diogel o ddŵr yfed y gallant ymddiried ynddo, ac mae’n sicr y bydd y buddsoddiad yma gan Ddŵr Cymru mynd ymhell tuag at gyflawni’r nod yma am ddegawdau i ddod.”
Yn ogystal â rhoi cyfle i’r cwmni ddangos y gwaith oedd wedi cael ei gyflawni yng ngorsaf bwmpio Prioress Mill, rhoddodd yr achlysur gyfle iddo dynnu sylw at y buddsoddiad o £10 miliwn sydd ar droed i wella’r rhwydwaith dŵr gwastraff ar gyfer y gymuned. Bydd y gwaith yma’n helpu i wella ein dulliau o drin dŵr gwastraff yn yr ardal, yn ogystal ag ansawdd y dŵr yn afon Wysg.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cyng. Mary Ann Brocklesby: “Mae’n falch gen i helpu i nodi agoriad gorsaf bwmpio newydd Prioress Mill Dŵr Cymru Welsh Water. Mae’r cyfleuster newydd yma ym Mrynbuga’n gam pwysig ymlaen i gynnal cyflenwadau dŵr yn ardal de Cymru. Mae’n gwneud cynnydd hefyd wrth amddiffyn ecoleg bwysig afon Wysg, sydd wedi ei dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig diolch i ychwanegiad sgriniau pysgod er mwyn atal y pysgod rhag mynd yn sownd.”