Dŵr Cymru i fuddsoddi £3.9 miliwn i uwchraddio’r cyflenwad dŵr yn ardal Rasa, Glynebwy
11 Ebrill 2023
Mae Dŵr Cymru yn buddsoddi £3. 9 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yn Rasa o Ebrill 2023 tan Ebrill 2024.
Bydd y buddsoddiad gan y cwmni nid-er-elw yn golygu y bydd gwelliannau yn cael eu gwneud i’r rhwydwaith dŵr a fydd yn helpu i sicrhau bod y cwmni’n parhau i ddarparu cyflenwad diogel, dibynadwy o ddŵr yfed glân i gartrefi, ysgolion, busnesau a chwsmeriaid am ddegawdau i ddod.
Gan weithio gyda’r partneriaid contract, Morrisons Water Services, bydd Dŵr Cymru yn adnewyddu 2.1km o bibellau dŵr yn ystod y flwyddyn nesaf.
Byddan nhw’n gwneud hyn gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau traddodiadol ac arloesol i sicrhau eu bod yn cyflawni’r gwaith cyn gynted â phosibl gan darfu cyn lleied â phosibl ar breswylwyr lleol pryd bynnag fo modd.
Dywedodd Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru, Jonathan Davies: "Fel cwmni, rydyn ni’n buddsoddi £1.8 biliwn yn ein rhwydwaith dŵr a dŵr gwastraff rhwng 2020 a 2025 i sicrhau y gallwn ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cwsmeriaid. Fel rhan o hyn, rydyn ni’n buddsoddi £3.9 miliwn i uwchraddio’r rhwydwaith dŵr yn Rasa. Bydd hyn yn helpu i wella ansawdd ein dŵr yfed i gwsmeriaid yn yr ardal a hefyd yn helpu i sicrhau eu bod yn derbyn cyflenwad o ddŵr yfed glân, ffres am flynyddoedd i ddod.
"Rydyn ni’n gwerthfawrogi y gall y math hwn o waith achosi rhywfaint o anghyfleustra, ond byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni ymgymryd â’r gwaith hanfodol hwn yn eu cymuned."
Mae’r cwmni’n gwahodd preswylwyr lleol i gael gwybod mwy am y gwaith drwy eu digwyddiad gwybodaeth rhithwir yma.