Dŵr Cymru i greu mwy o gyfleoedd i raddedigion nag erioed


28 Medi 2023

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cyhoeddi ei fod yn creu mwy o gyfleoedd nag erioed i raddedigion yn 2024.

Mae’r cwmni’n gwahodd ceisiadau ar gyfer ei garfan nesaf o dalent newydd, gyda’r cyfleoedd sydd ar gael yn cael eu rhannu ar draws amrywiaeth eang o rolau.

Mae’r 30 o wahanol rolau’n amrywio ar draws meysydd cyllid, TG, rheolaeth, peirianneg, gwyddoniaeth ac arolygu meintiau. Ers ei chychwyn yn 2009, mae’r rhaglen dwy flynedd wedi gweld tua 99 o raddedigion yn dod trwy’r system, ac mae llawer o’r rhain wedi aros gyda’r cwmni gan ddatblygu gyrfaoedd llewyrchus.

Roedd un o’r graddedigion, Rana Al-Yanai, yn llawn canmoliaeth i’r rhaglen:  "Rydw i wedi dysgu mwy o lawer nag y gallwn fod wedi ei ddychmygu am ddŵr, gwastraff a strategaeth fusnes. Mae pob diwrnod yn wahanol a thrwy’r profiadau a ddarparwyd, rydw i wedi dysgu sgiliau arwain a hyfforddi, sydd wedi fy ngwneud i’n unigolyn mwy hyderus o lawer."

Dywedodd Martin Driscoll, Cyfarwyddwr Pobl Dŵr Cymru: "Yn Dŵr Cymru rydyn ni’n angerddol am greu cyfleoedd bywyd a chyfleoedd gwaith ystyrlon. Mae ein rhaglen graddedigion yn ffordd wych o ddenu unigolion dawnus i’n sefydliad a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnom i gyflawni ein haddewidion i gwsmeriaid a darparu ein gwasanaeth hanfodol.

"Rydyn ni’n llawn cyffro i lansio ein harlwy mwyaf erioed o raglenni talent newydd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at asesu’r ceisiadau."

Dywedodd Harri Moncrieffe, sydd ym mlwyddyn olaf y rhaglen graddedigion: "Y cynllun graddedigion yw’r platfform perffaith i chi ddechrau eich gyrfa mewn diwydiant ymestynnol a deinamig. Yn ystod fy amser hyd yn hyn, rydw i wedi chwarae rhan mewn gwahanol dimau sy’n gweithio ar amrywiaeth o raglenni ymestynnol graddfa fach, a phrosiectau ar gost o filiynau, sydd oll wedi bod yn werthfawr iawn i fy natblygiad."

Er mwyn cyflwyno cais ar gyfer rhaglen graddedigion Dŵr Cymru, bydd yr ymgeiswyr wedi ennill gradd neu’n disgwyl gwneud hynny erbyn dechrau’r rhaglen, a bydd ganddynt angerdd clir dros y maes sydd ganddynt mewn golwg. Am ragor o fanylion ewch i Dwrcymru.com/Graddedigion.