Dŵr Cymru’n cefnogi Bore Coffi Macmillan


13 Hydref 2023

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cefnogi Bore Coffi Macmillan a drefnwyd gan Aelod o’r Senedd yn ei Ganolfan Ymwelwyr newydd yng Nghronfeydd Llys-faen a Llanisien.

Yn ogystal â’r lleoliad, darparodd Dŵr Cymru’r lluniaeth ar gyfer y bore a drefnwyd gan Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fel y bydd pob ceiniog a godwyd ar y diwrnod yn mynd i helpu pobl sy’n brwydro yn erbyn canser.

Cododd yr achlysur ar ddydd Gwener, 29 Medi, £689.70 ar gyfer Gofal Canser Macmillan, a hwn yw’r 23ain fore coffi blynyddol i Julie ei drefnu. Bydd yr arian a godwyd yn ychwanegu at yr £20,000 a mwy y mae hi wedi codi ar gyfer yr elusen dros y blynyddoedd.

Dywedodd Julie Morgan, Aelod Senedd Cymru dros Ogledd Caerdydd: “Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb yn Dŵr Cymru a chanolfan ymwelwyr cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien am gynnal fy 23ain fore coffi blynyddol dros Macmillan. Diolch i’w rhodd hael o’r holl luniaeth, mae pob un geiniog a godwyd wedi mynd yn syth at Macmillan.

“Roedd cynnal y bore coffi â’r cronfeydd bendigedig yn gefndir iddo’n ychwanegu rhywbeth arbennig at achlysur eleni, ac roedd hi’n gyfle i’r rhai oedd heb gael cyfle i ymweld â’r cronfeydd eto i’w gweld nhw yn eu holl ogoniant.

“Dros y 23 mlynedd diwethaf, rydw i wedi llwyddo i godi bron i £21,000 dros Macmillan. Bydd canser yn effeithio ar bob un person yn ystod eu bywydau, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, felly mae gwaith Macmillan yn hynod o werthfawr.”

Cynhaliwyd y bore coffi yn y ganolfan ymwelwyr ar Ffordd Llys-faen, Llys-faen, Caerdydd, gan roi cyfle i’r bobl a ddaeth i gefnogi fwynhau’r golygfeydd godidog dros y cronfeydd a gweld y cyfleusterau sydd ar gael iddynt ar y safle newydd drostyn nhw eu hunain.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: “Roeddem ni wrth ein bodd i gefnogi Bore Coffi Macmillan i godi arian y mae mawr angen amdano at achos mor bwysig. Mae’r achlysur yn esiampl wych o sut y gellir defnyddio’r cyfleuster newydd yma i gynnal digwyddiadau cymunedol, ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

“Rhoddodd gyfle hefyd i ni groesawu rhagor o bobl i’r cronfeydd i weld y cyfleusterau bendigedig sydd ar gael, o’r caffi a’r ystafelloedd cynadledda i guddfannau adarydda hygyrch a’r llwybr natur, heb sôn am y gweithgareddau dŵr fel rhwyf-fyrddio.”