Dŵr Cymru fydd cyflogwr cyfeillgar i ffrwythlondeb cyntaf Cymru


19 Rhagfyr 2023

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i ddod yn gyflogwr cyfeillgar i ffrwythlondeb cyntaf Cymru trwy’r gwaith y mae’n ei wneud i osod esiampl wrth gynorthwyo cydweithwyr sy’n wynebu trafferthion beichiogi.

Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw, sy’n cyflogi tua 3,500 o bobl, yn gweithio mewn partneriaeth â Fertility Matters, corff sy’n codi ymwybyddiaeth sefydliadau am sut mae materion o ran ffrwythlondeb yn effeithio ar gydweithwyr a gweithleoedd. Mae magu teulu’n rhan annatod o fywydau llawer o bobl, ond i’r bobl hynny nad yw’r siwrnai mor hawdd iddynt, mae’r effaith yn gallu bod yn enbyd. Y gwir amdani yw nad yw cyflogwyr yn cydnabod y sialens yma, ac mae’n rhywbeth sy’n gallu cael ei gamddeall yn aml felly mae llawer o bobl yn dioddef yn dawel. Mae anhawster i feichiogi’n gallu effeithio ar gymaint ag un oedolyn ym mhob saith, ac ar un pâr ym mhob saith, o oedran gwaith.

Rhannodd Sâra, Rheolwr Perfformiad Cyfalaf Dŵr Cymru ei phrofiad: “Hyd yn oed heddiw, mae ffrwythlondeb yn bwnc tabŵ i lawer o bobl, yn y gwaith a’r tu hwnt. Mae ymrwymiad Dŵr Cymru i fod yn gyflogwr sy’n gyfeillgar i ffrwythlondeb wedi rhoi’r ffyrdd a’r hyder i mi wybod y byddaf i’n parhau i gael fy nghefnogi yn y gwaith trwy fy siwrnai i feichiogi.”

Dangosodd gwaith ymchwil gan Fertility Matters nad oedd 74% o’r unigolion a arolygwyd yn teimlo bod materion ffrwythlondeb yn rhywbeth oedd yn cael ei gydnabod yn eu sefydliad, ac nid oedd 61% yn teimlo’n hyderus am siarad â’u cyflogwyr am geisio beichiogi. Mae hyn yn bwysig am fod 68% o’r ymatebwyr, sy’n gyfran syfrdanol, yn teimlo bod eu triniaeth wedi cael effaith sylweddol ar eu lles meddyliol ac emosiynol, a bu angen i 69% gymryd cyfnod o absenoldeb salwch yn ystod eu triniaeth.

Mae triniaeth ffrwythlondeb yn gallu pwyso’n drwm iawn ar lefel gorfforol ac emosiynol. Nid oes gan weithwyr sydd angen triniaeth ffrwythlondeb fel yr unig ffordd o gael teulu unrhyw hawliau awtomatig yn y DU, sy’n golygu bod llawer o bobl yn teimlo bod angen iddynt gelu eu triniaeth wrth eu cyflogwr ac wynebu ofnau am eu swyddi.

Esboniodd Sâra bod ei siwrnai’n gofyn am dosturi, cymorth a dealltwriaeth gan ei rheolwr a’i thîm:

“Mae Dŵr Cymru wedi bod yn garedig ac yn hyblyg gyda fy siwrnai IVF, wrth adael i mi gymryd amser i fynychu apwyntiadau, cynaeafu wyau, cael triniaeth mewnblannu ac amser o’r gwaith ar ôl i mi gam-esgor. Maen nhw wedi creu fforwm ar gyfer pobl sy’n mynd trwy IVF yn y gwaith hefyd, sydd wedi ein cynorthwyo ni i ddatblygu cymuned lle’r ydym ni’n teimlo’n ddiogel yn siarad ac yn mynegi ein teimladau."

“Fe gynhalion nhw sesiwn agored ar gyfer ein holl gydweithwyr lle siaradais i am fy siwrnai a rhannu fy mhrofiad, a sbardunodd sgyrsiau pellach am ffrwythlondeb gyda gweithwyr eraill. Mae’r bobl sy’n gweithio gyda fi wedi bod yn gefnogol dros ben ac rwy’n ffodus o fod â thîm cefnogol o’m cwmpas.”

Gellir dadlau bod siarad am ffrwythlondeb yn fwy o dabŵ eto ymysg dynion. Dynion yw 70% o weithlu Dŵr Cymru, ac esboniodd Craig, sy’n Rheolwr Prosiect Cyfalaf gyda Dŵr Cymru, pam ei bod hi’n bwysig cynorthwyo dynion trwy eu siwrnai ffrwythlondeb: “Mae materion ffrwythlondeb yn bwnc tabŵ, ac nid yw hi’n rhywbeth rydych chi’n clywed dynion yn ei drafod yn agored yn aml iawn. Mae hi’n gallu bod yn beth mor bersonol i unigolyn a/neu bâr, sy’n ei gwneud hi’n anodd trafod y peth yn agored. Hyd yn oed gyda’r cyfleusterau diweddaraf, arbenigwyr yn y gwyddorau atgenhedlol, a’r amryw o opsiynau am driniaeth sydd ar gael - fy mhrofiad i hyd yn hyn yw nad oes modd gwarantu canlyniad llwyddiannus. Mae hyn wedi bod yn anodd ei derbyn, ac mae hi’n ddigon posibl taw dyna fydd y sefyllfa i ni ar ddiwedd ein siwrnai i geisio beichiogi. Mae hi’n brofiad emosiynol dros ben.”

Dywedodd Stephne Puddy, Partner Talent a Chynwysoldeb Dŵr Cymru, sy’n llywio’r newid diwylliannol yma: “Mae llwyth o adroddiadau ac ystadegau ar gael i ddangos nifer y bobl y mae ffrwythlondeb yn broblem iddynt yn y DU. Mae anawsterau wrth gael teulu yn gallu effeithio ar unrhyw un. Yn hanesyddol, mae anffrwythlondeb a’r problemau sy’n gysylltiedig â hynny (fel camesgoriadau niferus) wedi bod yn bwnc tabŵ, ac yn aml iawn nid yw pobl yn agored i drafod y peth. Mae hyn am nifer o resymau, ond cywilydd ac embaras yw dwy o’r rhai mwyaf cyffredin.”

“Lansiwyd ein canllawiau mewnol ar ffrwythlondeb mis diwethaf, ond roeddwn i eisiau gweld mwy. Ar ôl trafod y peth â’n grwpiau rhwydwaith dan arweiniad gweithwyr, roeddwn i am gynorthwyo cydweithwyr trwy godi ymwybyddiaeth am y pwnc tabŵ yma a rhannu adnoddau i gynorthwyo’r bobl y mae’n effeithio arnynt. Rydyn ni wrth ein bodd taw ni yw’r cwmni dŵr cyntaf yn y DU a’r cwmni cyntaf yng Nghymru i gofrestru gyda Fertility Matters, ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cyfeillgar i ffrwythlondeb.”

Ychwanegodd Natalie Silverman, cyd-sylfaenydd Fertility Matters at Work: “Rydyn ni wrth ein bodd i gael gweithio gyda Dŵr Cymru ar eu siwrnai i ddod yn gyflogwr Cyfeillgar i Ffrwythlondeb. Mae hi’n rhoi boddhad mawr gweld ymrwymiad y cwmni i gynorthwyo ei gydweithwyr ar eu llwybr i ddod yn rhieni. Bydd ein partneriaeth yn ymbweru Dŵr Cymru i greu gweithlu cynhwysol a charedig ar gyfer pobl sy’n wynebu sialensiau o ran ffrwythnlondeb neu wrth gynllunio teulu. Rydyn ni mor falch o fod yn rhan o’r broses drawsnewidiol yma, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol a gaiff ar gydweithwyr yn Dŵr Cymru.”

Mae Dŵr Cymru’n darparu amrywiaeth o gymorth i gydweithwyr sy’n wynebu sialensiau o ran ffrwythlondeb, gan gynnwys sesiynau e-ddysgu am Ffrwythlondeb i reolwyr er mwyn galluogi iddynt gynorthwyo eu timau, a phecyn e-ddysgu i godi ymwybyddiaeth yr holl weithwyr, ynghyd â chreu cymuned cymorth fewnol sy’n cyfarfod yn rheolaidd ac yn cyfnewid adnoddau.