Dŵr Cymru’n ymateb i Ymgynghoriad DEFRA ar Weips


18 Rhagfyr 2023

Cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ymgynghoriad ar wahardd cynhyrchu, cyflenwi a gwerthu weips sy’n cynnwys plastig ar draws Cymru a Lloegr yn ddiweddar.

Rydyn ni’n gwybod bod 84% o’n cwsmeriaid yn credu y dylid gwahardd defnyddio weips sy’n cynnwys plastig, ac rydyn ni’n gefnogol dros ben i’r cynigion.

Rydyn ni’n delio â bron i 2000 o garthffosydd sydd wedi blocio pob mis, a hynny ar gost o dros £7 miliwn y flwyddyn. Byddai gwaharddiad o’r fath yn gam gadarnhaol i gyfeiriad lleihau effaith weips ar yr amgylchedd a lleihau nifer y digwyddiadau llygru sy’n codi oherwydd tagfeydd. Gallwch ddarllen ein hymateb i ymgynghoriad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig isod.

Generic Document Thumbnail

Ymgynghoriad DEFRA ar Weips

PDF, 136.4kB

Ymgynghoriad ar y cynnig i wahardd cynhyrchu, cyflenwi a gwerthu weips sy’n cynnwys plastig yn y DU.