Dŵr Cymru’n cyhoeddi Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru â’i gynlluniau i fuddsoddi mwy nag erioed yn yr amgylchedd
18 Mai 2023
Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyhoeddi ‘maniffesto’ sy’n amlinellu ei gynlluniau buddsoddi er mwyn gwella ansawdd dŵr afonol yn ei ardal weithredu wrth gydnabod pryderon cynyddol y cyhoedd am iechyd afonydd ac ymddiheuro am unrhyw ddifrod sy’n cael ei achosi gan ei waith, ac mae’n addo peidio â chuddio rhag y sialensiau.
O dan y cynlluniau, bydd y cwmni’n buddsoddi £840m dros y pum mlynedd i 2025 (AMP7) ac £1.4 bn pellach rhwng 2025 a 2030 (AMP8) er mwyn amddiffyn yr amgylchedd, a bydd yn parhau i sicrhau bod yr holl refeniw y mae’r cwmni’n ei godi’n cael ei gadw i sicrhau buddsoddiad pellach. Mae model perchnogaeth y cwmni eri cael ei ddefnyddio i ariannu gwerth £144m o welliannau amgylcheddol yn AMP7.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry:
“Mae’n ddrwg iawn gennym bob tro am unrhyw niwed amgylcheddol rydyn ni’n ei achosi wrth ddarparu ein gwasanaethau dŵr gwastraff. Rydyn ni’n llwyr ddeall a derbyn pryderon y cyhoedd am lygredd carthion yn effeithio ar ein hafonydd a’n dyfroedd arfordirol yng Nghymru, felly gwella ansawdd dŵr afonol yw ein blaenoriaeth bennaf. Fe wnawn ni bopeth y gallwn ni cyn gynted ag y gallwn ni gan daclo’r mannau lle gellir wneud y gwahaniaeth mwyaf yn gyntaf. Ni fyddwn ni’n cuddio wrth y broblem.”
Mae’r Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru’n ymateb yn uniongyrchol i alwadau Prif Weinidog Cymru yn Uwchgynhadledd Ffosffadau’r llynedd am i bob sector gymryd perchnogaeth dros eu cyfraniad at y pwysau sydd ar afonydd Cymru, gan ymrwymo buddsoddiad ychwanegol yn benodol i leihau ffosfforws yn y pump afon sydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) sy’n methu â chyflawni’r safonau – sef afonydd Gwy, Wysg, Teifi, Cleddau a Dyfrdwy.
Mae Dŵr Cymru’n ymrwymo i gyflawni’r canlynol:
- Cyflymu’r gwaith o wella ansawdd dŵr afonol yn faterol trwy:
- fuddsoddi £133m er mwyn atal 90% o’r niwed sy’n cael ei achosi gan ffosfforws o all-lif gweithfeydd trin dŵr gwastraff mewn dalgylchoedd ACA erbyn 2030, a 100% erbyn 2032.
- taclo’r CSOs sy’n cael yr effaith waethaf ar yr amgylchedd, gan symud 100% i’r categori ‘braidd dim neu dim niwed’ erbyn 2040 – amcangyfrifir taw £4bn fydd cost y rhaglen hon.
- Datblygu system o hawlenni dalgylch ac atebion sy’n seiliedig ar natur (e.e. ein cynllun GlawLif arloesol yn Llanelli) er mwyn cyflawni’r hyn sydd ei angen ar safleoedd llai a mwy gwledig lle mae’r broses gonfensiynol o ddileu ffosfforws mewn GTDG sy’n ddwys o ran carbon yn debygol o fod yn anymarferol.
- Datblygu ymhellach y mynediad agored a ddarparwn i ddata monitro trwy:
- darparu, erbyn Ionawr 2024, rhybuddion sy’n agos at fod mewn amser-real (o fewn un awr) i nodi bod CSOs yn gweithredu lle maent yn effeithio ar ddyfroedd ymdrochi a safleoedd amwynder uchel lle mae pobl yn nofio, a bydd yr holl CSOs sy’n weddill ar gael erbyn 2025 (noder: mae dros 99.5% o’n holl CSOs eisoes yn cael eu monitro).
- rhyddhau’r holl waith ymchwil “Priodoli Ffynonellau” i’r cyhoedd gan ddangos yr holl ffactorau sy’n cyfrannu at fethiant yr afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) i gyflawni statws ecolegol da.
- gweithio gyda chyrff partner perthnasol [gan gynnwys gwyddonwyr gwyddor dinasyddion] yng Nghymru i greu Hyb Data Dŵr Afonol ffynhonnell agored sy’n tynnu’r holl wybodaeth berthnasol am ansawdd dŵr afonol ynghyd mewn un lle er hwylustod cwsmeriaid a rhanddeiliaid.
- Cofleidio dull o weithredu mewn partneriaeth sy’n ymgorffori’r holl randdeiliaid yn ein hardal weithredu trwy:
- ymrwymo i allbynnau ac argymhellion Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd Cymru Llywodraeth Cymru sy’n tynnu rheoleiddwyr, y llywodraeth a chwmnïau dŵr ynghyd er mwyn gwella ansawdd dŵr afonol.
- gweithio gyda’n Panel Ymgynghorol Annibynnol ar yr Amgylchedd i gysoni ein cynlluniau gwella bioamrywiaeth, ecolegol ac amgylcheddol â chyngor annibynnol ac arferion gorau.
- parhau i gefnogi’r Byrddau Rheoli Maetholion a gweithio gyda nhw ar afonydd ACA.
- efelychu’r model gweithio cydweithredol sy’n bodoli gyda Sefydliad Gwy ac Wysg a Chyngor Henffordd ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith ychwanegol i ddileu ffosfforws gan ddefnyddio triniaeth naturiol fel systemau gwlyptir carbon isel.
- gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i gynorthwyo Cynllun Peilot ar Ddyfroedd Ymdrochi Mewndirol.
- Sicrhau bod y buddsoddiad angenrheidiol yn dal i fod yn fforddiadwy i gwsmeriaid trwy:
- barhau i ddarparu cymorth sydd gyda’r gorau yn y sector i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau dŵr
- parhau i ddefnyddio cyllid a fyddai’n mynd i gyfranddalwyr mewn cwmnïau eraill i ariannu tariffau cymdeithasol (2020-2025: talwyd £60m gan y cwmni ar ffurf taliadau dychwelyd gwerth) yn ogystal ag amddiffyn yr amgylchedd (2020-2025: £144m).
Mae’r cwmni eisoes wedi cadarnhau na fydd ei Gyfarwyddwyr Gweithredol - Peter Perry (Y Prif Weithredwr) a Mike Davis (Y Prif Swyddog Cyllid) - yn derbyn unrhyw “daliadau amrywiol” (bonws) ar gyfer blwyddyn 2022/23.