Dŵr Cymru yn cyhoeddi cynlluniau hirdymor i helpu i ddiogelu Afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)


14 Chwefror 2023

Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i gynlluniau hirdymor a fydd yn helpu i ddiogelu ansawdd afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

O dan ei gynlluniau, mae'r cwmni wedi nodi mannau y mae angen naill ai buddsoddiad neu addasiadau yn ei safleoedd ar hyd yr afonydd a fydd yn lleihau neu'n cyfyngu ar faint o ffosfforws sy'n mynd i mewn i'r afonydd o'i broses trin dŵr gwastraff.

Caiff y cynlluniau eu rhyddhau wrth i adroddiadau wedi'u dilysu'n annibynnol sy’n nodi ffynonellau a lefelau ffosfforws yn afonydd ACA gael eu cyhoeddi hefyd. Mae ffynonellau ffosfforws sy'n mynd i mewn i afonydd yn gymhleth ac mae hefyd yn amrywio o ranbarth i ranbarth. Mae'r adroddiad ar gyfer Afon Gwy er enghraifft yn dangos mai asedau Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am 23% o'r ffosfforws yn y prif gyrff dŵr, a Gorlifoedd Storm Cyfun yn gyfrifol am ddim ond 2%. Daw'r gweddill o ffynonellau fel dŵr ffo trefol, diwydiant, defnydd tir gwledig a thanciau septig preifat.

Yr afonydd ACA sy'n cael eu targedu ar gyfer y mesurau gwella yw afon Teifi ac afon Cleddau yn y gorllewin, afon Gwy ac afon Wysg yn y de ac afon Dyfrdwy yn y gogledd.

Mae Dŵr Cymru wastad wedi dweud yn glir y bydd yn chwarae ei ran wrth helpu i wella ansawdd dŵr afonydd a chymryd cyfrifoldeb am ei gyfran o lefelau ffosfforws. Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd yn yr adroddiadau yn golygu y bu modd nodi lle mae angen buddsoddi neu addasiadau i brosesau er mwyn cyflawni hyn.

Gyda'r buddsoddiad gofynnol yn costio mwy na £100 miliwn, mae angen i Dŵr Cymru gydbwyso hyn gyda chadw biliau'n fforddiadwy i gwsmeriaid a chyflawni buddsoddiad mewn rhannau eraill o'r busnes. Dyna pam y bydd y rhaglen ffosfforws yn cynnwys holl gyfnod buddsoddi nesaf y cwmni (2025-2030) ac i mewn i ran gynnar yr un canlynol (2030-2035).

Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: "Diogelu ansawdd dŵr afonydd yw un o'n prif flaenoriaethau yn Dŵr Cymru ac mae cyhoeddi ein cynlluniau hirdymor yn arwydd clir o hyn. Ein strategaeth bob amser fu datblygu cynlluniau buddsoddi sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac mae'r adroddiadau pennu ffynhonnell wedi ein galluogi i gyflawni hyn.

"Rydym eisoes wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn gwella ansawdd dŵr afonydd, a bydd angen lefel debyg o fuddsoddiad ar ein cynlluniau hirdymor. Ac er y gallwn chwarae ein rhan a lleihau ein cyfraniad at ffosfforws, mae'n hanfodol i bawb sy'n gofalu am ein hafonydd – gan gynnwys ffermwyr, Llywodraeth, rheoleiddwyr ac aelwydydd unigol – weithio gyda'n gilydd i gyflawni'r nod tymor hir o sicrhau afonydd y gallwn oll fod yn wirioneddol falch ohonynt".

Ochr yn ochr â'r rhaglen ffosfforws, mae Dŵr Cymru hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i ddatblygwyr ac awdurdodau lleol ddechrau cydweithio ar wlyptiroedd gwrthbwyso maeth sy'n cael eu hadeiladu y tu ôl i weithfeydd trin dŵr gwastraff. Mae’r rhain yn atebion sy'n seiliedig ar natur a all leihau faint o ffosfforws sy'n mynd i mewn i afon. Yn dilyn creu gwlyptiroedd gwrthbwyso yn Luston yn Swydd Henffordd yn llwyddiannus, bydd y canllawiau newydd yn helpu i gyflwyno'r dull hwn sy'n seiliedig ar natur i’r holl afonydd ACA yn ardal weithredu Dŵr Cymru.

Mae'r holl gyrsiau dŵr sy'n bwydo i mewn i afonydd ACA hefyd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau sy'n golygu y bydd y llednentydd llai yn cael eu gwarchod yn ogystal â’r prif afonydd.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Dŵr Cymru £60 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau i gael gwared â ffosfforws, ar ben y cynlluniau a oedd eisoes ar waith ar gyfer y cyfnod o 2020 i 2025.

Isod ma tabl yn dangos y cyfraniadau yn yr afonydd ACA: