Dŵr Cymru’n cynllunio buddsoddi record o £3.5bn rhwng 2025 a 2030 gyda ffocws mawr ar amddiffyn yr amgylchedd
1 Hydref 2023
Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cyflwyno’i Gynllun Busnes arfaethedig (y ‘Cynllun’) ar gyfer 2025-30 i Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr.
Os bydd Ofwat yn cydsynio i’r Cynllun, hwn fydd rhaglen fuddsoddi fwyaf erioed y cwmni, gan gynnig gwerth £3.5 biliwn o fuddsoddiad dros gyfnod o bum mlynedd, sydd gyfwerth â chynnydd o 68% ar y buddsoddiad rhwng 2020 a 2025.
Ffocws allweddol yn y Cynllun yw mabwysiadu dull cydweithredol o leihau ei effaith ar yr amgylchedd, ac yn arbennig chwarae ei rhan wrth helpu i wella ansawdd dŵr afonydd. Mae Dŵr Cymru’n ymrwymo i fuddsoddi bron i £1.9 biliwn yn yr amgylchedd rhwng 2025 a 2030 – 84% yn fwy na 2020-25. Bydd hyn yn cynnwys lleihau’n sylweddol faint o ffosfforws sy’n cael ei ryddhau o brosesau trin dŵr gwastraff i afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, a dechrau rhaglen dros sawl AMP i atal ei rwydwaith o 2,300 o orlifoedd storm rhag achosi difrod amgylcheddol i afonydd yn ei ardal weithredu.
Yn seiliedig ar berfformiad cyfredol y cwmni (2022/23), ymhlith ei ymrwymiadau eraill erbyn 2030 mae:
- gwella cydymffurfiaeth dŵr yfed a chwtogi 57% ar y cysylltiadau gan gwsmeriaid ynghylch ansawdd dŵr tap;
- lleihau gollyngiadau ar ei rwydwaith o chwarter (yn erbyn meincnod 2019-20) a helpu cwsmeriaid i atal gollyngiadau yn eu cartrefi a’u busnesau;
- lleihau cyfanswm nifer y digwyddiadau o lygredd trwy 24%;
- gweithio tuag at ‘Gymru ddi-blwm’ trwy ddisodli pibellau plwm 7,500 o gwsmeriaid;
- cyflawni gwerth £42 miliwn o arbedion cost trwy ddarbodaeth a dulliau arloesol o weithio;
- cyfrannu £13 miliwn y flwyddyn rhwng 2025-30 i gynnal ei gynllun tariffau cymdeithasol a chreu’r capasiti i ddarparu ar gyfer cynnydd yn y galw am y tariffau cymdeithasol, gan gynyddu o 133,000 i 190,000
Trwy gyflawni’r cynllun yma, bydd Dŵr Cymru’n cyfrannu mwy fyth at economi Cymru, gan adeiladu ar yr £1 biliwn y mae’n ei gyfrannu bob blwyddyn, a chynnal mwy na 9,000 o swyddi llawn-amser. Mae’r Cynllun yn ategu ei fwriad i fod yn gwmni carbon niwtral erbyn 2040 hefyd, gan ddod o hyd i ffyrdd o gyflawni rhaglen fuddsoddi cyfalaf pwysig mewn ffyrdd carbon isel sy’n llesol i fyd natur.
Er mwyn cynnal y rhaglen eang ac uchelgeisiol yma, bydd y bil misol cyfartalog yn cynyddu £5 yn 2025, a fydd yn cynyddu i £10 yn fwy erbyn 2030. Mae gwaith ymchwil y cwmni wedi dangos bod y cynllun yn dderbyniol ym marn 84% o’i gwsmeriaid. Gan gydnabod y sialensiau parhaus sy’n wynebu cwsmeriaid o ran costau byw, mae Dŵr Cymru’n bwriadu cynyddu’r cymorth gorau yn y sector y mae’n ei gynnig i gwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus, gan ddefnyddio cyllid sydd ond yn bosibl diolch i’w statws nid-er-elw.
Mae datblygiad y Cynllun pum mlynedd wedi cael ei lywio gan gwsmeriaid domestig a busnes a chan y canllawiau strategol a bennwyd gan Fforwm PR24 dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae’n blaenoriaethu gwella ansawdd dŵr afonol a mynd i’r afael â sialens gorlifoedd storm, gwella gwasanaethau allweddol, a chryfhau gwytnwch yn wyneb y sialensiau sy’n wynebu’r cwmni, a newid hinsawdd yn arbennig.
Mae Dŵr Cymru’n gwasanaethu mwy na thair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer. Ers 2001, y cwmni yw’r unig gwmni cyfleustodau heb gyfranddeiliaid yng Nghymru a Lloegr - sy’n golygu bod unrhyw elw y mae’n ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi er budd ei gwsmeriaid. Mae hyn wedi galluogi’r cwmni i fuddsoddi cronfeydd ychwanegol o dros £570 miliwn trwy gyflymu buddsoddiad er mwyn gwella gwasanaethau a thariffau cymdeithasol i gynorthwyo’r cwsmeriaid â’r incwm isaf.
Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Dyma ein Cynllun Busnes mwyaf uchelgeisiol erioed, ac fel cwmni nid-er-cyfranddeiliaid, buddiannau a blaenoriaethau ein cwsmeriaid sydd wrth wraidd ein cynllun a phopeth a wnawn. Er ei bod hi’n dipyn o her, rydyn ni’n hyderus bod modd cyflawni ac ariannu’r gwaith yma, a bydd yn helpu i sbarduno newid sylweddol yn ein perfformiad dros y blynyddoedd sydd i ddod.
“Rydyn ni wedi gallu cadw biliau’n wastad neu’n is mewn termau go iawn dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae angen i ni fuddsoddi yn ein systemau dŵr a dŵr gwastraff er mwyn mynd i’r afael â sialensiau newid hinsawdd, amddiffyn ein hafonydd, a chryfhau gwytnwch ein cyflenwadau dŵr. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod y mwyafrif o’n cwsmeriaid yn derbyn bod y buddsoddiad yma’n angenrheidiol ac na ddylid ei ohirio. O’n rhan ni, byddwn ni’n parhau i arloesi a datblygu effeithlonrwydd ein gweithrediadau er mwyn lleihau costau lle bynnag y gallwn ni.
“Rydyn ni ond yn rhy ymwybodol pa mor anodd y mae’r blynyddoedd diwethaf yma wedi bod i’n cwsmeriaid, a dyna pam mae’r Cynllun yn cynnwys cymorth ychwanegol sylweddol i gwsmeriaid sy’n ei chael hi’n anodd tynnu dau ben llinyn ynghyd.”
Dywedodd Alistair Lyons, Cadeirydd Glas Cymru: “Mae’r Cynllun Busnes yn dechrau strategaeth dros sawl AMP i daclo ein heffaith ar yr amgylchedd, ac yn benodol ansawdd y dŵr yn ein hafonydd. Ei nod hefyd yw cryfhau gwytnwch ein gweithrediadau er mwyn cynorthwyo’r rhaglenni rydyn ni eisoes y gweithio arnynt er mwyn gwella ein perfformiad lle nad ydym yn taro’r nod ar hyn o bryd. Rydyn ni eisoes yn gweld sut y mae newid hinsawdd yn mynd i fod yn sialens i ni yn y ddau faes yma.
“Rydyn ni’n credu bod y Cynllun yma’n ddatblygiad uchelgeisiol i gyflawni amcanion strategaeth hirdymor Dŵr Cymru 2050, a hynny wrth ddarparu gwerth da i gwsmeriaid yn nhermau beth gaiff ei gyflawni. Daw ein rhaglen fuddsoddi gwerth £3.5bn â chyfleoedd sylweddol i gynyddu ein cyfraniad at economi Cymru, gan gynnal miloedd o swyddi ar draws Cymru.”
Mae Cynllun Busnes Dŵr Cymru 2025-2030 eisoes wedi cael ei archwilio gan y Grŵp Her Annibynnol (ICG) i sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau’r cwsmeriaid yn ogystal â rhai’r rheoleiddwyr a’r rhanddeiliaid eraill.