Mae Dŵr Cymru wedi lansio gronfa gymunedol newydd i gynorthwyo grwpiau lleol sydd am wella eu cymunedau. Mae hyn yn rhan o fenter £100,000 i gynorthwyo fenter cymunedol ar draws Cymru a Sir Henffordd.
- Gronfa ar gael i helpu grwpiau nid-er-elw sydd am gyfoethogi eu cymunedau.
- Bydd grantiau o £5,000 ar gael
Mae Dŵr Cymru wedi lansio gronfa gymunedol newydd i gynorthwyo grwpiau lleol sydd am wella eu cymunedau. Mae hyn yn rhan o fenter £100,000 i gynorthwyo fenter cymunedol ar draws Cymru a Sir Henffordd.
Bydd y gronfa, sy’n agored i grwpiau nid-er-elw, yn agor tair gwaith y flwyddyn, a bydd yna gyfle i grwpiau dderbyn gwerth hyd at £5,000 o gyllid.
Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer grantiau’r gronfa gymunedol ddangos sut y bydd eu prosiectau o fudd i’r gymuned, a sut maen nhw’n gyson â gwerthoedd Dŵr Cymru. Bydd y gronfa’n rhoi cyfle i grwpiau gyfoethogi’r ardal lle maen nhw’n byw, gan wella’r amgylchedd neu gynorthwyo addysg.
Mae Dŵr Cymru eisoes wedi cael effaith sylweddol trwy’r gronfa gymunedol ers 2017. Yn 2022, cafodd dros 252 o elusennau a sefydliadau o bob rhan o Gymru a Sir Henffordd wedi diogelu cyllid trwy Gronfa Gymunedol y cwmni nid-er-elw.
Cafodd Usk Food Kitchen gwerth £500 o gymorth trwy’r gronfa gymunedol ac meddai: “Mae’r arian a gawsom trwy’r Gronfa Gymunedol wedi helpu gyda chostau bwyd, deunyddiau glanhau a chynnal-a-chadw’r offer coginio.”
Mae Usk Food Kitchen yn rhedeg dwywaith yr wythnos, gan ddarparu bwyd poeth ar gyfer dros 40 o gartrefi yn yr ardal. Gwirfoddolwyr lleol sy’n rhedeg y fenter, ac maen nhw’n dibynnu ar gyfraniadau bwyd ac ariannol i sicrhau bod unrhyw un sydd angen pryd poeth yn cael un.
Mae’r gronfa newydd yma’n rhan o fenter dibenion cymdeithasol £100,000 ehangach y bydd Dŵr Cymru’n parhau i’w weithredu yn 2023. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid cyfatebol i gyd-fynd ag ymdrechion cydweithwyr i godi arian, cydweithio’n agos ag elusennau dethol mwy fel Wateraid, a chynorthwyo’r cymunedau y mae eu gwaith buddsoddi’n effeithio arnynt.
Dywedodd Claire Roberts, y Pennaeth Cysylltu Cymunedau:“Lansiwyd ein cronfa gymunedol yn 2017, a hyd yn hyn wedi cyfrannu cannoedd o filoedd o bunnoedd i achosion da prosiectau lleol. Rydyn ni’n falch o allu parhau i gynorthwyo ein cwsmeriaid a chymunedau trwy helpu’r grwpiau yma sy’n gweithio’n ddiflino i wella eu cymunedau.
Wrth galon ein cenhadaeth mae’r ymrwymiad i gynorthwyo’r cwsmeriaid a wasanaethwn trwy ariannu prosiectau sy’n gwneud gwaith pwysig, fel y gallant wneud gwahaniaeth go iawn yn eu hardal leol.”
.
Am fanylon, ewch i www.dwrcymru.com/cronfagymunedol