Dŵr Cymru yn Lansio Cynllun Cymorth Ariannol – y Cyntaf o’i Fath – ar gyfer Aelwydydd sy’n Gweithio Ledled Cymru


29 Awst 2023

Mae Dŵr Cymru, sef yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi lansio cynllun newydd gyda’r nod o ddarparu cymorth hanfodol i gwsmeriaid preswyl sy’n gweithio gyda’u biliau dŵr wrth i’r argyfwng costau byw barhau.

Hyd yma, mae cynlluniau cymorth ariannol Dŵr Cymru wedi targedu aelwydydd sy’n cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd yn bennaf, ac nid yw aelwydydd sy’n gweithio yn gymwys i gael y cymorth hwn fel arfer. Mae Cronfa Gymorth newydd y cwmni, sef ‘Cymuned’, yn cynnig cymorth byrdymor i aelwydydd sy’n gweithio sy’n eu cael eu hunain mewn sefyllfa lle mae eu biliau’n fwy na’u hincwm.

O dan y cynllun hwn, bydd yr aelwydydd sy’n gymwys yn cael cyfnod o dri mis ‘heb dâl’ a fydd yn gyfwerth â disgownt o tua £100-£120 ar y bil cyfartalog. Dylai’r rhai sy’n meddwl eu bod yn gymwys wneud cais i un o dri sefydliad partner, sef Cyngor ar Bopeth, Elusen Dyledion StepChange, neu Cymru Gynnes. Byddan nhw wedyn yn cynnal asesiad o incwm a gwariant i ddeall a ydynt yn gymwys, cyn gwneud cais i Dŵr Cymru ar eu rhan.

Mae'r lansiad yn dilyn treial llwyddiannus o’r cynllun yn Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych dros y chwe mis diwethaf, sydd wedi cefnogi cwsmeriaid cymwys i arbed cyfanswm o bron i 25% oddi ar eu biliau dŵr blynyddol.

Mae Maria yn gwsmer Dŵr Cymru o’r Rhyl a oedd ymhlith y cyntaf i fanteisio ar gymorth Cronfa Cymuned. Dywedodd: "Rwy'n gweithio i loches i’r digartref, felly does dim llawer o gymorth ariannol ar gael i mi fel arfer gan fod gen i incwm bach. Ces i wybod am Gronfa Cymuned gan fy nhîm Cyngor ar Bopeth lleol, gan fy mod i’n teimlo llawer o bwysau yn gwneud taliadau misol ar bethau hanfodion.

"Fe wnes i gais i Cymuned ac roeddwn i’n llwyddiannus ar ôl asesiad o incwm a gwariant – mae wedi bod o gymorth mawr a chymerodd lawer o bwysau oddi arnaf. Rydw i mor falch o weld y cymorth hwn sydd ei angen yn ddirfawr ar gyfer pobl sy’n gweithio, ac sy’n ei chael hi mor anodd ymdopi â’r costau cynyddol."

Mae'r cwmni eisoes yn cynnig amrywiaeth o gymorth ariannol i dros 147,000 o gwsmeriaid preswyl i’w helpu i dalu eu biliau – y nifer uchaf erioed. O fis Ebrill 2023, bydd cap o £291 yn cael ei osod ar filiau blynyddol cwsmeriaid ar y tariff HelpU, sef gostyngiad sylweddol ar fil blynyddol cyfartalog aelwyd, sef £499.

Mae Dŵr Cymru yn annog unrhyw gwsmer sy’n wynebu anawsterau i gysylltu â nhw cyn gynted â phosibl er mwyn trafod yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael, sy’n cynnwys cynlluniau talu hyblyg neu osod mesurydd dŵr, a allai fod o fudd i aelwydydd wrth iddyn nhw leihau eu defnydd o ddŵr. Drwy wneud hyn, gall cwsmeriaid gael cyngor ymarferol ar sut i atal dyledion rhag cronni, a allai fod yn broblem yn y dyfodol.

Dywedodd Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Preswyl Dŵr Cymru: "Rydym yn gwybod bod llawer o gwsmeriaid sy'n gweithio yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn ei chael hi'n anodd wrth iddyn nhw wynebu pwysau cynyddol oherwydd costau byw. Nod cynllun Cymuned, y cyntaf o'i fath yw darparu cymorth ariannol i aelwydydd cymwys sy'n gweithio.

"Hoffwn i ddiolch i’n sefydliadau partner, Cyngor ar Bopeth, StepChange a Cymru Gynnes, am weithio gyda ni i gynnig y cymorth hwn, a hoffwn i annog unrhyw gwsmer sy’n gweithio ond sy’n ei chael hi’n anodd yn ariannol i gysylltu ag un o’r sefydliadau hyn; rydyn ni yma i chi."

I gael rhagor o wybodaeth am sut i fanteisio ar Gronfa Gymorth Cymuned Dŵr Cymru, ewch i: dwrcymru.com/Cymuned.

I gael gwybodaeth am yr holl gymorth ariannol sydd ar gael gan Dŵr Cymru, ewch i: dwrcymru.com/cymorthgydabiliau.