Awdurdodau cynllunio lleol yn cymeradwyo fforymau Dŵr Cymru


17 Mawrth 2023

Roedd y fforymau a gynhaliwyd gan Dŵr Cymru yn ymchwilio i ffyrdd o gefnogi’r economi drwy ddatblygiadau newydd a thwf, a nodi cyfleoedd i oresgyn yr heriau datblygu presennol a wynebir, wedi cael derbyniad cadarnhaol gan y bobl a oedd yn bresennol.

Gwnaeth y fforymau, a gynhaliwyd gan y cwmni nid-er-elw, hwyluso trafodaethau adeiladol am sut y gallwn gydweithio yn fwy, yn ogystal â sut y gall Dŵr Cymru – fel rhan o’i rôl fel ymgynghorai statudol – weithio i helpu gyda rhai o’r heriau y mae’r Awdurdodau Cynllunio Lleol yn eu hwynebu wrth ystyried cynigion cynllunio newydd.

Aeth ryw 55 o unigolion o Awdurdodau Cynllunio Lleol o bob rhan o ogledd a de Cymru, a rhai ardaloedd o Loegr, i fforymau Awdurdodau Cynllunio Lleol Dŵr Cymru yn Llanelwy a Chaerdydd. Rhoddodd y fforymau hyn y wybodaeth ddiweddaraf am bynciau allweddol, megis esbonio sut mae Dŵr Cymru yn cydweithio â rhanddeiliaid eraill i nodi cyfleoedd i helpu i ysgogi a chynnal datblygiadau yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol ledled Cymru a Swydd Henffordd.

Rhoddodd y cwmni y wybodaeth ddiweddaraf am bynciau allweddol eraill, gan gynnwys sut y mae’n mynd ati i nodi atebion cynaliadwy tymor byr a thymor hir i reoli dŵr wyneb, a sut y gall gefnogi ymhellach y gwaith o weithredu systemau draenio cynaliadwy ar safleoedd datblygu, yn ogystal â’r potensial i atal dŵr wyneb rhag mynd i mewn i garthffosydd dŵr gwastraff Dŵr Cymru.

Cafwyd adborth cadarnhaol ar y fforwm, ac roedd 100% o’r bobl a oedd yn bresennol yn ei ystyried yn ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’.

Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes yn Dŵr Cymru: "Rydym yn falch o'n hanes cryf o ymgysylltu â'n cwsmeriaid. Roedd yn wych cynnal ein Fforymau Awdurdodau Cynllunio Lleol, ochr yn ochr â’n Fforymau Datblygwyr chwe-misol rheolaidd, gan fod angen i ni sicrhau ein cefnogaeth ar y cyd ar gyfer datblygiadau, a hynny wrth barhau i ddiogelu ein cwsmeriaid a’r amgylchedd ar yr un pryd. Gan fod hyn yn chwarae rhan mor bwysig mewn cysylltiad â’r economi ehangach, a’r heriau presennol a wynebir o ran Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cydweithio, ac mae hwn yn gyfle delfrydol i gael syniad o’r ffordd orau o weithio gydag Awdurdodau Lleol i gyflawni’r canlyniadau y mae pawb yn chwilio amdanynt. Hoffem ddiolch i bawb a oedd yn bresennol a phawb a gyfrannodd at lwyddiant y fforymau."