Dŵr Cymru’n dathlu canlyniadau ei Ymrwymiad i Gwsmeriaid yn ei ffora datblygwyr
28 Mehefin 2023
Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cynnal cyfres arall o ddigwyddiadau fforwm datblygwyr ar gyfer ei gwsmeriaid gwasanaethau datblygu. Yno, cyhoeddodd y cwmni ganlyniadau ei berfformiad mewn perthynas â’i Ymrwymiad i Gwsmeriaid Gwasanaethau Datblygu, sy’n golygu gwneud taliadau ewyllys da i gwsmeriaid yn awtomatig os yw’n methu â darparu gwasanaethau’n brydlon. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2022/23) cyflawnodd y cwmni bron i 23,000 o drafodion, gyda chwta 0.002% (58) o’r rheiny’n methu â chyflawni’r gofynion o ran yr amserlen. Talwyd cyfanswm o £5,560 i gwsmeriaid ar ffurf taliadau ewyllys da.
Mae’r term gwasanaethau datblygu’n cynnwys hwyluso cysylltiadau newydd â rhwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff Dŵr Cymru fel bod cartrefi a busnesau’n cael cyflenwad hanfodol a diogel o ddŵr glân a gwasanaethau dŵr gwastraff am flynyddoedd mawr i ddod.
Mae’r ffora datblygwyr yn eu deuddegfed flwyddyn erbyn hyn, ac maent yn elfen allweddol o raglen waith Dŵr Cymru wrth ymgysylltu â datblygwyr tai ac eiddo. Daeth tua 60 o ddatblygwyr eiddo a thai cymdeithasol i ffora cwsmeriaid datblygu Dŵr Cymru yn Wrecsam a Chaerdydd, lle rhannwyd diweddariadau ar y pynciau allweddol sy’n flaenoriaeth i’r cwsmeriaid.
Bu’r ffora’n edrych ar bynciau fel sut mae Dŵr Cymru wedi gwneud gwelliannau allweddol o fewn ei broses cysylltiadau dŵr newydd, trafodaeth o gylch y posibilrwydd o osod mesuryddion mewnol ar gartrefi newydd, sut mae Dŵr Cymru’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar y broblem ffosffadau, a golwg yn ôl ar y ddegawd ers cyflwyno’r gofyniad gorfodol i fabwysiadu carthffosydd.
Bu’r adborth ar y fforwm yn gadarnhaol, gyda 97.3% o’r rhai a ddaeth yn dweud ei fod yn ‘dda’ neu’n ‘rhagorol’.
Os oes diddordeb gennych ddod i ffora datblygwyr y dyfodol, e-bostiwch developer.services@dwrcymru.com a byddwn ni’n eich ychwanegu at ein rhestr bostio.
Daw’r ffora ar ôl i Ddŵr Cymru gyhoeddi ei fod yn cyfrannu £1bn y flwyddyn at economi Cymru. Casgliad gwaith ymchwil, a gyflawnwyd gan Uned Ymchwil i Economi Cymru Prifysgol Caerdydd yw bod Dŵr Cymru’n cynnal mwy na 9,100 o swyddi ar draws Cymru.
Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n falch o’n hanes hir a chadarn o gefnogi ac ymgysylltu â’n cwsmeriaid datblygu. Roedd hi’n braf cael cynnal ein ffora datblygwyr, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn, sy’n rhoi cyfle gwych i ni amlinellu beth rydyn ni’n ei wneud i’ch cefnogi chi, a sut rydyn ni’n parhau i hwyluso datblygiadau newydd.
“Rydyn ni’n chwarae rhan greiddiol wrth sicrhau bod cartrefi a busnesau newydd yn cael seilwaith a gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol, ac rydyn ni’n cydnabod y rôl bwysig sydd gennym i’w chwarae o fewn yr economi ehangach. Dyma gyfle delfrydol i gael golwg ar sut y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r deilliannau hyn, a hynny wrth reoli ein cyfrifoldebau eraill o ran y gymuned a’r amgylchedd hefyd. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi dod a gwneud cyfraniad am wneud y ffora’n llwyddiant parhaus dros y 12 mlynedd diwethaf.”