Dŵr Cymru’n dyfarnu dros £30k i gynorthwyo 82 o elusennau a phrosiectau cymunedol lleol yn 2022


9 Ionawr 2023

Yn 2022, roedd Dŵr Cymru Welsh Water wrth ei fodd i ddyfarnu dros £30k i grwpiau a sefydliadau lleol sydd wedi eu cynorthwyo i gyflawni prosiectau arloesol yn eu cymuned.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water, sy’n darparu gwasanaethau hanfodol, wedi ymrwymo i roi rhywbeth nôl i gymunedau lleol. Mae 82 elusen a sefydliad o bob rhan o Gymru a Sir Henffordd wedi diogelu cyllid o Gronfa Gymunedol y cwmni nid-er-elw.

Mae llawer o brosiectau amgylcheddol a chymunedol wedi manteisio ar gyllid diolch i’r fenter gymunedol. Mae hyn yn rhan o ymrwymiad Dŵr Cymru i amddiffyn a chyfoethogi’r amgylchedd, ac ymdrechu i helpu cymunedau lleol.

Mae’r cyllid wedi helpu grwpiau cymunedol i lewyrchu, ac yn arbennig y rhai sydd wedi ffeindio pethau’n anodd ers y pandemig Covid-19. Mae hi wedi galluogi grwpiau cymunedol i brynu offer hanfodol newydd, mae ysgolion wedi gallu datblygu ardaloedd dysgu awyr agored ac mae grwpiau chwaraeon wedi prynu’r offer sydd ei angen arnynt i gadw eu clybiau’n rhedeg.

Dywedodd Ruth Mills, Rheolwr Codi Arian a Grantiau, Autistic Minds: “Mae cyllid gan Ddŵr Cymru wedi ein galluogi ni i brynu offer newydd i ehangu ein gwaith i ailddefnyddio’r papur a’r cerdyn y mae ein tîm yn ei falu i wneud cynnyrch i’w werthu i’r cyhoedd, gan gynnwys pethau cynnau tân a deunydd gwely i anifeiliaid anwes. Mae ein tîm yn dysgu sgiliau newydd oherwydd hyn, ac mae’r ffaith fod gennym offer ychwanegol yn golygu y gallwn gynnig mwy fyth o gyfleoedd am hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn ein cymuned. Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth!”

Mae Dŵr Cymru wedi cynorthwyo prosiectau sy’n helpu i amddiffyn a chyfoethogi’r amgylchedd hefyd, gyda dros 45 o grwpiau’n cael cymorth gyda’u mentrau bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys denu bywyd gwyllt i gymunedau lleol, adnewyddu gardd goffa a darparu cyllid i greu ardaloedd i ddysgu yn yr awyr agored.

Dywedodd Claire Roberts, Pennaeth Cysylltu Cymunedau Dŵr Cymru: Mae Cronfa Gymunedol Dŵr Cymru’n falch o gefnogi grwpiau a chymunedau lleol. Rydyn ni’n chwilio bob amser am gyfleoedd i helpu’r cymunedau a wasanaethwn, yn arbennig dros y blynyddoedd diwethaf yma sydd wedi bod mor anodd yn ariannol. Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn. Rydyn ni eisoes yn chwarae rôl allweddol yn ein cymunedau trwy ddarparu’r gwasanaethau mwyaf hanfodol – sef dŵr glân, a thrin a chael gwared ar ddŵr gwastraff yn ddiogel – ac mae’n bleser gennym gefnogi grwpiau lleol fel hyn.”

Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae gwaith yn cael ei wneud, gallech dderbyn gwerth hyd at £1000 o gyllid gan Ddŵr Cymru. Am fanylion ewch i Cronfa-Gymunedol.