Dŵr Cymru yn ennill gwobr iechyd a diogelwch a gydnabyddir yn rhyngwladol gan y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau
7 Awst 2023
Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi ennill Gwobr RoSPA fawreddog am y seithfed flwyddyn yn olynol, gan ddangos ei ymrwymiad i ragoriaeth ym maes iechyd a diogelwch. Dyfarnwyd Medal Aur i'r cwmni am berfformiad iechyd a diogelwch, gan ddangos ei ymroddiad i sicrhau bod ei bobl yn cyrraedd adref yn ddiogel ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.
Er mwyn ennill y wobr, cyflwynodd y cwmni wybodaeth a thystiolaeth ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â’i ddull o reoli a monitro iechyd, diogelwch a lles, ochr yn ochr â 5 mlynedd o ddata ar berfformiad diogelwch gweithwyr a chontractwyr.
Gwobrau Iechyd a Diogelwch RoSPA yw'r rhaglen gwobrau iechyd a diogelwch galwedigaethol fwyaf yn y DU. Bellach yn ei 67ain flwyddyn, mae’r Gwobrau’n derbyn bron i 2,000 o geisiadau bob blwyddyn o bron i 50 o wledydd, gyda chyrhaeddiad o dros saith miliwn o weithwyr. Mae'r rhaglen yn cydnabod ymrwymiad sefydliadau i wella'n barhaus o ran atal damweiniau a salwch yn y gwaith, gan edrych ar systemau rheoli iechyd a diogelwch cyffredinol ymgeiswyr, gan gynnwys arferion fel arweinyddiaeth a chyfranogiad y gweithlu.
Er nad yw'r rhan fwyaf o'r gwobrau yn rhai cystadleuol – fe’u rhoddir i gydnabod cyflawniadau sefydliadau unigol – cyflwynir gwobrau cystadleuol mewn 20 o sectorau diwydiant ac ar gyfer meysydd rheoli iechyd a diogelwch arbenigol.
Dywedodd Nikki Kemmery, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch Dŵr Cymru:
“Mae pawb yn gyfrifol am ddiogelwch. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o'r holl waith caled ar draws y busnes, gan gadw'r ffocws ar iechyd, diogelwch a lles a dod o hyd i ffyrdd o wella ein systemau’n barhaus er mwyn atal anafiadau a salwch. Diolch i bawb sy'n gwneud i hyn ddigwydd yn Dŵr Cymru”.
Dywedodd Julia Small, Cyfarwyddwr Cyflawniadau RoSPA:
“Mae damweiniau yn y gwaith a salwch sy’n gysylltiedig â gwaith nid yn unig yn cael goblygiadau ariannol enfawr ac yn achosi aflonyddwch mawr – maen nhw hefyd yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn. Dyna pam mae perfformiad da o ran diogelwch yn haeddu cael ei gydnabod a'i wobrwyo.
“Rydym wrth ein bodd bod Dŵr Cymru wedi ennill Gwobr RoSPA a hoffem eu llongyfarch ar ddangos ymrwymiad diwyro i gadw eu gweithwyr, eu cleientiaid a'u cwsmeriaid yn ddiogel rhag niwed ac anafiadau damweiniol.”
Wedi ei noddi gan Croner-i, cynllun Gwobrau RoSPA yw'r cynllun mwyaf hirsefydledig o’i fath yn y DU, ac mae'n derbyn ceisiadau gan sefydliadau ledled y byd, sy’n golygu ei fod yn un o'r gwobrau mwyaf poblogaidd i'r diwydiant iechyd a diogelwch.