Dŵr Cymru’n cyhoeddi cynllun peilot i helpu aelwydydd sy’n gweithio ynghyd â lefelau biliau 2023/24


2 Chwefror 2023

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn cyflwyno cynllun peilot newydd â’r nod o ddarparu cymorth hanfodol dros dro i helpu cwsmeriaid domestig gyda’u biliau dŵr wrth i’r argyfwng costau byw barhau.

Mae’r cwmni wedi cyhoeddi hefyd y bydd biliau dŵr a dŵr gwastraff cyfunol y rhan fwyaf o’i gwsmeriaid domestig yn cynyddu rhwng 8% a 9.4% o fis Ebrill ymlaen.

Daw’r codiad hwn yn sgil cynnydd sylweddol yn y gyfradd chwyddiant, sy’n uwch nag y bu ers 40 mlynedd ar hyn o bryd, sy’n effeithio’n benodol ar bris ynni a chemegolion, ac sy’n adlewyrchu effaith ffactorau byd-eang a chenedlaethol ar yr economi.

Hyd yn hyn, nid yw aelwydydd sy’n gweithio wedi bod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru, ond bydd cynllun peilot newydd y cwmni’n galluogi iddynt ymgeisio am gymorth o’r Gronfa Cymorth ‘Cymuned’ newydd. Mae’r cynllun peilot yn cynnig cymorth tymor byr i aelwydydd sy’n gweithio sy’n eu ffeindio’u hunain mewn sefyllfa lle mae eu biliau’n drech na’u hincwm.

O dan y cynllun, gallai’r aelwydydd fod yn gymwys i gael cyfnod o dri mis ‘heb dâl’ a fydd gyfwerth â disgownt o tua £100 - £120 ar y bil cyfartalog. Bydd angen asesu sefyllfa ariannol y rhai sy’n gymwys i gael cymorth trwy gyflawni asesiad o Incwm a Gwariant, a sefydliadau y mae pobl yn ymddiried ynddynt, fel Cyngor Ar Bopeth, fydd yn cyflawni’r asesiadau hyn.

Mae’r cynllun peilot yn cael ei dreialu ar draws Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych tan fis Mehefin, pan gwneir penderfyniad o ran a ddylid ei gyflwyno ar raddfa ehangach ai peidio.

Mae’r cwmni eisoes yn darparu cymorth ariannol mewn sawl ffurf ar gyfer dros 144,000 o gwsmeriaid domestig - y nifer uchaf erioed - i’w cynorthwyo i dalu eu biliau. O fis Ebrill 2023 ymlaen, gosodir cap o £291 ar filiau blynyddol cwsmeriaid ar y tariff HelpU, sef gostyngiad sylweddol ar fil blynyddol yr aelwyd gyfartalog, sef £499.

TMae’r cwmni’n rhagweithiol wrth hyrwyddo’r cymorth y mae’n ei gynnig, ac mae’n mynychu digwyddiadau fforddadwyedd yn y gymuned ar draws ei ardal weithredol yn rheolaidd.

Mae Dŵr Cymru’n annog unrhyw gwsmer sy’n wynebu anawsterau i gysylltu â’r cwmni cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn caniatáu i gwsmeriaid drafod yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael, sy’n cynnwys cynlluniau talu hyblyg neu osod mesurydd dŵr, a allai fod o fudd i aelwydydd am y gallai leihau eu defnydd o ddŵr.

Dywedodd Prif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru, Mike Davis:

"Rydyn ni’n gwybod bod llawer o gwsmeriaid sy’n gweithio yn ein cymunedau’n wynebu trafferthion am fod mwy o bwysau ar gyllidebau domestig. Nod ein cynllun peilot yw rhoi seibiant ariannol i aelwydydd cymwys. Bydden i’n cynghori unrhyw un sy’n byw yn ardaloedd Sir Ddinbych neu Rhondda Cynon Taf sy’n credu y gallent elwa ar y cynllun i gysylltu â ni.

“Mae’r cynnydd yn ein biliau domestig yn 2023-24 yn uniongyrchol gysylltiedig â chwyddiant, sy’n uwch nag y mae hi wedi bod ers 40 mlynedd ar hyn o bryd. Er ein bod ni wedi amsugno cynifer o’r costau hyn â phosibl, mae pethau’n dynn arnom ni hefyd."

Dywedodd Rhodri WIlliams, Cadeirydd Cyngor y Defnyddwyr Dŵr yng Nghymru:

"Mae mwy a mwy o bobl yn cael trafferth ymestyn eu hincwm i dalu cost hanfodion fel dŵr, felly mae’n falch gennym weld Dŵr Cymru Welsh Water yn chwilio am ffyrdd newydd o ysgafnhau’r baich ariannol sydd ar aelwydydd sy’n gweithio. Mae diffyg ymwybyddiaeth am y cymorth sydd ar gael yn dal i fod yn faen tramgwydd, a dyna pam ein bod ni’n rhoi blaenoriaeth i weithio gyda’r cwmni a chynorthwyo asiantaethau yng Nghymru i sicrhau bod y cymorth yn cyrraedd y bobl fwyaf anghenus.

"I rai aelwydydd, y ffordd hawsaf o arbed arian yw newid i fesurydd dŵr, ac mae’r ffaith y gallwch dreialu mesurydd am ddwy flynedd yn golygu nad oes dim byd i’w golli mewn gwirionedd."