Yn ddiweddar, croesawodd Dŵr Cymru Aelod Seneddol Delyn, Hannah Blythyn ac Aelod Rhanbarthol Gogledd Cymru, Carolyn Thomas i’w safle yng Nghilcain i weld sut mae’r cwmni’n adfer rhan o dirwedd naturiol yr ardal.
Mae gwaith ar y gweill yng Nghilcain i ddychwelyd dwy o'r pedair cronfa ddŵr leol yn ôl i'w cyflwr naturiol fel rhan o Afon Nant Gain. Wedi'u lleoli ychydig y tu allan i bentref Cilcain ar odre dwyreiniol Bryniau Clwyd, adeiladwyd y pedair cronfa ddŵr yn wreiddiol ar ddiwedd y 19eg ganrif i gyflenwi dŵr yfed i'r ardal leol. Fodd bynnag, ers blynyddoedd bellach, nid ydynt yn rhan o'r rhwydwaith dŵr yfed, gyda chwsmeriaid nawr yn cael eu cyflenwi o gronfa ddŵr Alwen.
Mae'r broses adfer yn cynnwys cael gwared ar strwythurau'r argae yng nghronfeydd dŵr Cilcain 1 a 2, er mwyn adeiladu sianel newydd. Bydd y sianel newydd yma’n caniatáu i'r afon lifo ar hyd ei chwrs naturiol, fel sut y byddai wedi bod cyn adeiladu'r argaeau. Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Mawrth a dylai fod wedi'i orffen erbyn diwedd y flwyddyn.
Gyda’r ddwy gronfa bellach wedi’u draenio a gwaith i adfer sianel yr afon ar y gweill, gwelodd Hannah Blythyn AS a Carolyn Thomas AS sut mae’r cwmni dŵr nid-er-elw yn gweithio i adfer a gwella ecoleg yr ardal.
Dywedodd Tudur Ellis, Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru ar gyfer y cynllun; "Roedd yn wych croesawu Aelodau’r Senedd i’r safle i weld ein gwaith i ddychwelyd y cronfeydd dŵr hyn yn ôl i’w cyflwr naturiol. Gyda newidiadau i ddeddfwriaeth diogelwch cronfeydd dŵr, nid oedd cadw’r cronfeydd dŵr fel ag yr oeddent yn opsiwn gan y byddai angen buddsoddiad mawr a gwaith adeiladu sylweddol arnynt i ddod â nhw i fyny i’r rheoliadau presennol, dyma pam mae Dŵr Cymru yn dychwelyd yr ardal yn nôl i’w dirwedd naturiol.
"Trwy ddylunio’r broses adfer yn ofalus, ein nod yw gwella bioamrywiaeth yr ardal drwy adfer coridor naturiol yr afon, gan greu cynefin ffyniannus i fywyd gwyllt. Mae'r cronfeydd dŵr wedi eu lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ger Moel Famau ac mae adfer y safle i'w gyflwr naturiol yn gweddu i'r dirwedd o'i amgylch."
Mae’r buddsoddiad hwn o dros £2 filiwn yng Nghilcain gan Dŵr Cymru yn dilyn buddsoddiad pellach o £3 miliwn i ddychwelyd Llyn Brân yn Sir Ddinbych a Llyn Anafon yng Ngwynedd i lynnoedd naturiol.
Dywedodd yr Aelod Seneddol lleol, Hannah Blythyn; "Roedd yn ddefnyddiol ymweld â’r safle a gweld â’m llygaid fy hun sut a pham y mae Dŵr Cymru’n mynd ati i ddadgomisiynu cronfa ddŵr a’r cynllunio gofalus sy’n mynd rhagddo i ail-greu sianel naturiol yr afon i sut yr oedd cyn iddi gael ei throi’n gronfa ddŵr. Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, y gobaith yw y bydd yn ymdoddi unwaith eto i dirwedd naturiol yr ardal yn union fel y gwnaeth cyn i’r cronfeydd dŵr gael eu hadeiladu."
Ychwanegodd Carolyn Thomas, Aelod Cynulliad Rhanbarthol Gogledd Cymru; "Rwy’n croesawu’r fenter hon i adfer cronfeydd dŵr Cilcain i’w cyflwr naturiol. Mae nid yn unig yn hybu cadwraeth ein hamgylchedd ond hefyd yn gwella cydbwysedd ecolegol yr ardal. Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd yr ardal unwaith eto’n dychwelyd i fod yn ardal wyrddlas o amgylch Afon Nant Gain sydd wedi’i hadfer."
Pan fydd coridor newydd yr afon wedi’i gwblhau, bydd yr ardal o amgylch yr afon yn cael ei gadael i natur gyflawni ei gwaith ac ymhen ychydig flynyddoedd dylai’r tirwedd ffynnu a dychwelyd yn ôl i dir gwyrdd naturiol.