Dyw hi byth yn rhy hwyr i amddiffyn eich cartref rhag problemau dŵr dros y gaeaf Cymreig


1 Rhagfyr 2023

Gyda’r rhagolygon yn darogan tymheredd o -7°C wrth i’r tywydd oer barhau ar draws Cymru dros yr wythnos nesaf, mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i amddiffyn eu cartrefi.

Mewn tywydd oer iawn, gall y dŵr yn eich pibellau a’ch tapiau rewi. Mae dŵr yn ehangu wrth rewi, a gall gracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed. Efallai na fyddwch chi’n sylwi ar unwaith, a dim ond pan fydd y dŵr yn y bibell sydd wedi cracio’n dechrau dadmer a gollwng y byddwch chi’n ymwybodol fod problem.

Mae pibellau a thapiau sydd allan yn yr awyr agored neu mewn mannau oer iawn, fel yr atig neu’r garej, yn fwy tebygol o rewi a byrstio, a gallant adael cartrefi a busnesau heb ddŵr, heb wres neu dan ddilyw costus!

Y 3 Man Oed Mwyaf Problemus:

  • Pibellau dŵr a thapiau yn yr awyr agored
  • Pibellau mewn lle oer fel yr atig, y garej neu gypyrddau’r gegin.
  • Adeiladau a allai fod yn wag am ychydig ddiwrnodau, fel busnesau, ysgolion neu ail gartrefi.

Er mwyn atal pibellau rhag rhewi, mae Dŵr Cymru’n annog cwsmeriaid i weithredu nawr trwy ddilyn ein cynghorion a gweithredu nawr i lapio pibellau agored â phecyn lagio. Mae’r cwmni’n cynnig nifer gyfyngedig o becynnau lagio am ddim ar gyfer cwsmeriaid er mwyn amddiffyn pibellau a thapiau mewn mannau oer, gweler yma.

Dywedodd Ian Christie Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chyflawni Cyfalaf Dŵr Cymru: “Bu gaeaf y llynedd yn aeaf arwyddocaol i Ddŵr Cymru. Cafodd y rhew a’r dadmer sydyn ym mis Rhagfyr effaith aruthrol ar gwsmeriaid ar draws Cymru. Fel cwmni, rydyn ni wedi bod wrthi’n ddiwyd yn paratoi ar gyfer y misoedd oerach, gan gynnwys adolygu ein prosesau a’n gweithdrefnau, briffio staff am baratoi ar gyfer y tywydd oer, a pharatoi generaduron brys ar gyfer toriadau posibl yn y pŵer, rhag ofn bod yr angen yn codi.”

“Er mwyn cadw cyflenwadau’n llifo yn achos digwyddiad o’r fath, rydyn ni wedi paratoi tanciau dŵr ac mae gennym storfeydd dŵr potel mewn canolfannau allweddol. Rydyn ni wedi bod yn llwytho ein tanceri rhag ofn bod argyfwng hefyd, gan sicrhau bod manylion ein cwsmeriaid bregus yn gyfoes, ac yn allweddol, sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gwybod sut y gallant amddiffyn eu cartrefi hefyd.”

“Po fwyaf rhagweithiol y gallwn ni i gyd fod, fel busnes ac fel cwsmeriaid, po fwyaf parod y byddwn ni am y gaeaf a’r tywydd oer. Mae hi’n bwysig bod ein cwsmeriaid yn barod am fisoedd y gaeaf fel eu bod nhw’n gallu osgoi byrstiau a gollyngiadau costus, ac fel y gallwn ni reoli pwysau ar draws y rhwydwaith.”

“Dyna pam ein bod ni’n gofyn i bobl sicrhau bod eu cartrefi neu eu busnesau wedi eu lapio’n gynnes yn barod am y gaeaf trwy lagio unrhyw bibellau neu dapiau mewn mannau oed gan ddefnyddio’r pecyn. Gallai hyn atal llwyth o anghyfleustra a chost - ar adeg o’r flwyddyn pan dyna yw’r peth olaf sydd ei hangen arnoch. Rydyn ni’n cynnig pecynnau lagio i gwsmeriaid i’w cynorthwyo i baratoi trwy lapio eu pibellau rhag yr oerfel cyn iddi afael eto.”

Pan fo problem yn taro pibellau dŵr cartrefi, cyfrifoldeb perchennog yr eiddo neu’r landlord yw ei thrwsio, felly mae hi’n bwysig fod pobl yn paratoi eu cartrefi am dywydd oer ac yn sicrhau eu bod nhw’n barod am fisoedd oer y gaeaf. Mae’r cyngor yn berthnasol i fusnesau, ac yn benodol i unrhyw fath o eiddo, fel cartrefi gwyliau, carafanau, ysgolion neu ffatrïoedd, a allai fod yn wag am gyfnod dros y gaeaf.

Dywedodd Mike Thomson, Rheolwr Cynllunio Brys Dŵr Cymru: “Yn dilyn digwyddiad rhewi a dadmer sydyn y llynedd, fe ddysgon ni fod ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn gynnar, gan gynnwys cynghorau lleol, sefydliadau gofal iechyd a gwasanaethau brys, yn gallu bod yn fanteisiol dros ben. Rydyn ni wedi cyflawni nifer o ymarferion ar draws y flwyddyn i brofi ein cynlluniau brys yn erbyn amrywiaeth o senarios, gan gynnwys tywydd gaeafol a thoriadau mewn cyflenwadau dŵr.”

“Bydd ein timau’n parhau i weithio 24/7 i gadw pethau’n llifo, ond mae angen ychydig bach o gymorth gan ein cwsmeriaid hefyd er mwyn sicrhau bod eu cartrefi a’u busnesau’n barod am y gaeaf.”

Dywedodd Lucy, sy’n gwsmer i Ddŵr Cymru ac yn fam i ddau blentyn yng Nghaerdydd: "Torrodd ein bwyler am dridiau’r gaeaf diwethaf gan ein gadael ni heb wres na dŵr poeth. Roeddwn i’n feichiog ac yn gofalu am fy mhlentyn bach ar y pryd hefyd. Fe alwon ni blymiwr, a ddywedodd nad oedd dim y gallai ei wneud am fod ein pibellau wedi rhewi yn y tywydd oer, ac y byddai angen i ni aros i’r iâ ddadmer cyn y byddai’r bwyler yn gweithio eto. Byddwn i’n annog unrhyw un i baratoi eu cartref a lapio’u pibellau gan ddefnyddio pecyn lagio. Diolch i’r drefn, mae ein bwyler wedi gweithio’n iawn ers i’r iâ ddadmer, ond byddaf i’n fwy gofalus y gaeaf yma."