Cwrdd â’r bobl a fydd yn gweithio dydd Nadolig i gadw ein dŵr yn llifo


24 Rhagfyr 2023

Wrth i lawer ohonom ni fwynhau brecwast hwyr, glasiad o fybls ac edrych ymlaen at seibiant haeddiannol o’r gwaith dydd Nadolig, meddyliwch am y rhai a fydd yn treulio 25 Rhagfyr wrth eu gwaith.

Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod o’r flwyddyn er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer tua 3.1 miliwn o gwsmeriaid. Er mwyn cadw’r gwasanaethau hanfodol yma’n rhedeg dros yr Ŵyl, bydd llawer o gydweithwyr Dŵr Cymru’n cofrestru am sifft lawn fel arfer dydd Nadolig.

I rai, mae hwn yn gyfle i ddarparu gwasanaeth neu i gyflenwi ar gyfer staff sydd am dreulio dydd Nadolig gyda’u plant, ond i eraill mae’n ffordd o lenwi’r amser wrth iddynt aros i ddathlu eu Nadolig eu hunain gyda’u plant ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach.

Dyma ambell un o ‘Arwyr Nadolig’ y cwmni:

Adam Davies, Technegydd Logisteg Dŵr o Ben-y-bont ar Ogwr: “Technegydd Logisteg Dŵr ydw i ac rydw i wedi bod yn rôl ers tair blynedd. Rwy’n gweithio yn y tîm Logisteg Dŵr yng Nghlydach.

“Byddaf i’n gweithio rhwng 6am a 6pm dydd Nadolig. Adran ymatebol ydyn ni’n sy’n delio ag unrhyw broblemau o ran dŵr ar y rhwydwaith; felly gallem ni fod allan ar y safle’n helpu gyda thanceri er mwyn sicrhau bod cyflenwadau’r cwsmeriaid yn parhau os oes digwyddiad yn codi. Bydd gennym ni ddyletswyddau cynnal a chadw i’w cyflawni yn nepo Clydach hefyd.”

“Rydw i wastad wedi rhoi’r cwsmer yn gyntaf. Rydw i eisiau sicrhau bod dŵr gan y cwsmeriaid a gwneud yn siŵr nad yw dydd Nadolig teuluoedd eraill yn cael ei ddifetha am nad oes dŵr ganddynt. Mae hi’n bosibl y bydd angen i mi helpu i sicrhau bod cyflenwadau dŵr cwsmeriaid yn cael eu cynnal neu eu hadfer cyn gynted â phosibl.”

“Amser y plant yw’r Nadolig. Mae dau fachgen gen i – sy’n 7 ac yn 12 oed – a chyhyd ag y caf i eu gweld nhw’n agor eu hanrhegion byddaf i’n hapus. Caiff y bwyta a’r yfed aros nes bod y gwaith wedi ei wneud.”

Cathryn Pond, Rheolwr y Tîm Cwsmeriaid Bregus, Abertawe: “Rwy’n gweithio yng Nghaerdydd ac wedi bod yn y rôl ers 10 mis, ond rydw i wedi bod gyda Dŵr Cymru ers saith mlynedd. Rwy’n gweithio wrth gefn dydd Nadolig a Gŵyl Sant Steffan - felly o 8am dydd Nadolig tan 8am ar 27 Rhagfyr.”

“Byddaf i’n cydweithio’n agos â’r tîm 24 awr i fod yno i gwsmeriaid sydd angen siarad â ni. Byddaf i’n cadw llygad ar unrhyw ddigwyddiadau sy’n codi ac ar nifer y galwadau sy’n dod i mewn gan gwsmeriaid a allai awgrymu bod problem. A byddaf i’n cadw golwg ar lesiant ein timau sydd i mewn yn gweithio hefyd.”

“Hwn fydd fy nydd Nadolig cyntaf yn gweithio, felly rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan. Mae gan fy mhartner, sy’n gweithio fel Arolygydd Dosbarthu yn nepo Clydach ddau fab. Rydyn ni’n cymryd troeon i’w cael nhw dros y Nadolig ond yn anffodus nid ein tro ni yw hi eleni, ond mae hynny’n cyd-fynd yn dda â’r ffaith ein bod ni’n gweithio. Byddwn ni’n dathlu ein dydd Nadolig gyda’r bechgyn ar 30 Rhagfyr.”

Dywedodd Jack Price, aelod o’r tîm 24 awr o Gasnewydd: “Byddaf i’n gweithio rhwng 1pm ac 8pm dydd Nadolig. Rwy’n gweithio ar ymateb i argyfyngau, yn codi unrhyw gysylltiadau brys gan gwsmeriaid, yn eu cyfeirio ymlaen ac yn ymateb i unrhyw ddigwyddiadau mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.

“Rwy’n hapus i weithio dydd Nadolig am y bydd yn golygu bod yr aelodau o fy nhîm sydd â phlant yn gallu dathlu’r diwrnod yn iawn, a byddwn ni’n gallu darparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer ein cwsmeriaid sydd mewn angen o hyd. Bydd gen i’r bore i weld fy nheulu a gwylio fy nith a’m nai yn agor eu hanrhegion, ac fe gaf i ginio Nadolig clou cyn dechrau fy sifft.

Gemma Walsh, Technegydd y Rhwydwaith Dŵr Gwastraff, Tre-gŵyr:“Dydd Nadolig, byddaf i’n gweithio 10am-6pm. Ateb y ffôn fyddaf i’n bennaf yn fwy na thebyg os oes unrhyw broblem yn codi, a byddaf i’n bwrw ymlaen â gwaith gweinyddol hefyd. Dwi ddim yn poeni gormod am weithio dydd Nadolig, gobeithio y caf i wylio fy merch yn agor ei hanrhegion, a byddaf i’n ceisio coginio cinio dipyn wrth dipyn ymlaen llaw! Mae fy rhieni yng nghyfraith yn dod ataf i eleni felly gallan nhw helpu gyda’r coginio a’r gofal plant!”

Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: "Mae darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer dros dair miliwn o bobl ar draws Cymru a Sir Henffordd yn waith pwysig dros ben. Mae darparu gwasanaeth hanfodol yn gyfrifoldeb aruthrol, ac yn un rydyn ni’n ei weld yn fraint i’w gyflawni ar ran ein cwsmeriaid.

“Mae angen i’n busnes weithredu rownd y cloc, bob diwrnod o’r flwyddyn – mae hi’n rhan o ddarparu gwasanaeth mor hanfodol. Hoffwn estyn fy niolch i bawb sy’n rhoi eu dydd Nadolig i gynorthwyo ein cwsmeriaid, a dymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i’n holl gydweithwyr a chwsmeriaid.”