Peidiwch â gadael i’ch bwyd Nadolig fod yn boen yn y draen


23 Rhagfyr 2023

Mae Dŵr Cymru’n rhybuddio aelwydydd a bwytai ar draws Cymru fod golchi braster twrci, grefi, a sbarion bwyd eraill i lawr y plwg dros y Nadolig yn gallu bod yn drychinebus.

Wrth i aelwydydd ar draws Cymru baratoi ar gyfer gwledd Nadolig arbennig, mae Dŵr Cymru’n annog pobl i aros a meddwl am beth maen nhw’n ei olchi i lawr y plwg, yn arbennig dros gyfnod yr Ŵyl pan mae’r cwmni’n dueddol o weld cynnydd yn nifer yr achosion o fraster, olew a saim yn tagu carthffosydd.

Mae bloc mewn pibell garthffosiaeth yn cynyddu’r risg o lifogydd carthion mewn cartrefi a busnesau. Yn ogystal, gall sbarion bwyd seimllyd flocio draeniau, gan adael perchennog yr eiddo â bil mawr am glirio’r llanast.

Dywedodd Pennaeth Rhwydweithiau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, Ed Bennett: “Mae braster, olew a saim o gartrefi a busnesau’n gallu achosi problemau mawr mewn draeniau a charthffosydd. Er nad ydyn nhw’n edrych yn niweidiol, maen nhw’n nhw’n ceulo ac yn caledu wrth fynd trwy’r system ddraenio, ac yn glynu wrth y pibellau gan greu bloc. Bob mis, rydyn ni’n delio â 2,000 o dagfeydd yn ein rhwydwaith sy’n costio dros £3 miliwn y flwyddyn i’w clirio.

“Cofiwch sychu eich sosbenni ac eitemau seimllyd eraill â darn o bapur cegin cyn eu golchi. Rhowch y papur cegin yn y bin ac arllwyswch unrhyw hen olew coginio i gynhwysydd i’w waredu - neu ailgylchwch e os yw’ch awdurdod lleol yn caniatáu.

“Os yw pawb yn gweithredu ac yn gwneud y peth cywir, byddwn ni yn Dŵr Cymru’n gallu lleihau’r tagfeydd, y llifogydd a’r llygredd sy’n achosi cymaint o drallod. Bydd lleihau’r tagfeydd hyn yn golygu bod ein cwmni nid-er-elw’n gallu buddsoddi mwy mewn gwelliannau eraill ar ran ein cwsmeriaid hefyd. Gyda’n gilydd, gallwn ni stopio’r bloc."

Ffeithiau am Fraster

  • Mae Dŵr Cymru’n gwario tua £3 miliwn y flwyddyn yn clirio tagfeydd y gellid eu hosgoi o garthffosydd - ac mae cost hynny’n trosglwyddo i gwsmeriaid trwy eu biliau carthffosiaeth.
  • Pethau amhriodol fel braster, olew a saim (FOG), weips, a nwyddau mislif yn cael eu fflysio i lawr y tŷ bach sy’n achosi tua un bloc ym mhob tri yn rhwydwaith carthffosydd Dŵr Cymru.
  • Mae braster, olew a saim sy’n cronni’n aml yn gyfrifol am achosi llifogydd carthion a llygredd mewn afonydd a nentydd.
  • Os cymerwn ni i gyd ofal i beidio ag arllwys sbarion seimllyd i’r carthffosydd, bydd hynny’n lleihau nifer y cwsmeriaid sy’n cael eu taro gan lifogydd, a’n heffaith ar yr amgylchedd, yn sylweddol.

Ffeithiau am lifogydd:

  • Mae draeniau domestig fel arfer yn llai na phedwar modfedd o led (100mm).
  • Os oes bloc neu nam ar eich draen preifat, bydd angen i chi ddod o hyd i gontractwr draenio i’w glirio neu ei drwsio. Mae’r cwmnïau carthffosiaeth yn gyfrifol am gynnal a chadw carthffosydd cyhoeddus yn unig.
  • Os yw carthion yn gorlifo i’ch eiddo o garthffos gyhoeddus, dylai’r cwmni anfon rhywun allan i’ch helpu chi i lanhau’ch cartref cyn gynted â phosibl.
  • Mae gennych yr hawl i ad-daliad ar eich bil carthffosiaeth blynyddol i dalu am ddifrod i’r tu fewn i’ch cartref oherwydd llifogydd o’r garthffos gyhoeddus.
  • Cofiwch ddilysu os yw difrod o lifogydd carthion yn dod o fewn cwmpas yswiriant eich cartref.