Buddsoddiad o £3.6 miliwn i wella ansawdd afon Gwy


10 Mawrth 2023

Mae disgwyl i'r afon Gwy yn Swydd Henffordd gael hwb, diolch i gynllun buddsoddi gwerth £3.6 miliwn sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Dŵr Cymru.

Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad Dŵr Cymru o £836 miliwn yn eu seilwaith dŵr gwastraff erbyn 2025.

Ym mis Ionawr 2023, dechreuodd y cwmni cyfleustodau dielw weithio ar brosiect i uwchraddio’r gwaith trin dŵr gwastraff y mae’n berchen arno ac yn gweithredu yn yr ardal.

Mae'r gwaith trin eisoes yn trin y dŵr gwastraff mae'n ei dderbyn o'r ardal gyfagos i safon uchel, ond bydd y gwaith uwchraddio arfaethedig yn gwella'r broses drin ymhellach fyth.

Y prif welliant fydd cyflwyno proses fydd yn tynnu ffosffadau o’r dŵr gwastraff fydd wedi’i drin. Gall ffosffadau achosi blodau algaidd, felly trwy eu tynnu o'r dŵr gwastraff sydd wedi'i drin, bydd hyn yn helpu i leihau lefelau yn yr afon Gwy gerllaw - a fydd yn ei dro o fudd i ansawdd yr afon a'i bywyd dyfrol.

Mae'r gwaith uwchraddio yn digwydd o fewn ffin y gwaith trin sydd wedi'i leoli yn Kingstone ger Coldstone Cross. Mae'r cwmni'n gobeithio cwblhau'r gwaith erbyn canol mis Gorffennaf 2024.

Dywedodd Uwch Reolwr Prosiect Dŵr Cymru, Daniel Purchase: “Fel cwmni, rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwarchod yr amgylchedd sydd o fewn ein gofal, ac mae hynny’n cynnwys y cyrsiau dŵr rydym yn rhyngweithio â nhw. Mae nifer o ffactorau yn cyfrannu at lefelau ffosffad mewn cyrsiau dŵr, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cyfraniad i’r isafswm. Mae ein buddsoddiad sylweddol yma yn Swydd Henffordd yn adlewyrchu hyn.”

“Rydym yn gwerthfawrogi y gall y math hwn o waith achosi rhywfaint o anghyfleustra, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw hyn i’r lleiafswm a hoffem ddiolch i bobl am fod yn amyneddgar gyda ni wrth i ni gyflawni'r gwaith hanfodol hwn.”