Mae prosiect i fuddsoddi £5.5 miliwn er mwyn helpu i wella ansawdd dŵr afon Cleddau ar gychwyn.
Bydd Dŵr Cymru’n dechrau gwaith i uwchraddio Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Spittal (GTDG) yn Sir Benfro yn Ionawr 2024.
Mae’r gweithfeydd trin eisoes yn trin y dŵr gwastraff y mae’n ei dderbyn o’r ardal gyfagos i safon uchel, ond bydd y gwaith uwchraddio’n gweld gwelliannau pellach eto yn y broses drin.
Mae’r prosiect, a fydd yn gweld y gwaith paratoi yn dechrau cyn y Nadolig, yn cynnwys cyflwyno proses i dynnu’r ffosffadau o’r dŵr gwastraff wedi ei drin. Gall ffosffadau achosi gordyfiant o algâu, felly bydd eu tynnu o’r dŵr gwastraff wedi ei drin yn helpu i leihau’r lefelau yn afon Cleddau sydd gerllaw - a bydd hyn yn ei dro yn llesol i ansawdd yr afon a’i fywyd dyfrol.
Mae’r gwaith yma’n rhan o gynlluniau Dŵr Cymru i fuddsoddi £16 miliwn er mwyn gwella ansawdd dŵr yn afon Cleddau cyn diwedd Mawrth 2025. Mae’r gweithfeydd trin eraill y mae’r cwmni cyfleustod nid er elw yn bwriadu eu huwchraddio yn nalgylch ehangach Cleddau’n cynnwys Treletert (£3.9m), Rosemarket (£1m) a Chasblaidd (£6.5m).
Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru:“Fel cwmni, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n amddiffyn yr amgylchedd, ac mae hynny’n cynnwys y cyrsiau dŵr rydym yn rhyngweithio â nhw. Mae yna nifer o ffactorau sy’n cyfrannu at lefelau ffosffadau mewn cyrsiau dŵr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cyfraniad mor isel â phosibl. Mae ein buddsoddiad sylweddol yma yn Spittal yn adlewyrchu hyn.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod gwaith o’r math yma’n gallu achosi anghyfleustra, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i leihau hyn gymaint â phosibl, a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni gyflawni’r gwaith hanfodol yma.”