Pont hanesyddol yn cael ei hailagor i’r cyhoedd yn dilyn buddsoddiad o £1.9 miliwn


6 Mehefin 2023

Yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth, mae Dŵr Cymru a’i bartneriaid yn falch o allu ail-agor pont hanesyddol sy’n croesi Afon Conwy. Mae’r bont, sy’n cysylltu pentref Dolgarrog â’r orsaf drenau leol a thu hwnt, wedi agor yn dilyn buddsoddiad sylweddol o £1.9 miliwn.

Mae Pont Pibau Dolgarrog yn gyswllt hollbwysig i Ddyffryn Conwy, gan gludo dwy bibell ddŵr sy’n cyflenwi dŵr yfed i dros 43,000 o gartrefi a busnesau lleol. Mae hefyd yn bont sy’n cael ei defnyddio gan bobl leol i fynd am dro, gan gysylltu pentref Dolgarrog â chymunedau cyfagos. Cafodd y bont eich chau dros dro ym mis Ionawr 2021 wedi pryderon sylweddol am gyflwr y bont. Ymrwymodd perchnogion y bont Dŵr Cymru i gydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid lleol i adfer diogelwch y strwythur er mwyn ei alluogi i ailagor.

Dechreuodd gwaith i gryfhau, atgyweirio a gwella’r bont ym mis Mai 2022 a chafodd ei chwblhau yn gynharach y mis hwn. Roedd yn rhaid i waith ar y prosiect heriol hwn gyd-fynd â lefelau dŵr isel yn yr afon ynghyd â sgaffaldiau crog ar gyfer gwaith cryfhau o dan y bont.

Mae’r buddsoddiad o £1.2 miliwn gan Dŵr Cymru ynghyd â grant o £735,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi sicrhau y bydd y bont hefyd yn y dyfodol yn rhan o lwybr teithio llesol.

Meddai Arwel Jones, Pennaeth Peirianneg, Comisiynu a Throsglwyddo Dŵr Cymru; “Yn dilyn cau’r bont yn 2021, rydym wedi gweithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatblygu pont a all wasanaethu fel gofod i’w rannu gan feicwyr a cherddwyr sydd hefyd yn gadael i ni gynnal a gwarchod ein asedau pwysig. Rwy’n falch iawn fod dyluniad newydd y bont yn cyflawni'r ddau amcan, ac yn ein galluogi i ailagor y bont i'r cyhoedd.

“Mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn y bont yn dangos ein hymrwymiad fel cwmni i ail-fuddsoddi’n uniongyrchol er budd ein cwsmeriaid a’n cymunedau lleol. Rwy’n falch y bydd ein gwaith i atgyweirio’r bont hon gyda’n partneriaid lleol yn dod â manteision a chyfleoedd eang i’r ardal leol.”

Meddai’r Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau – Seilwaith: “Rydym yn hapus i weithio gyda Dŵr Cymru i wella’r llwybr cerdded a beicio hwn, sy’n darparu cyswllt trafnidiaeth integredig pwysig i’r gymuned leol a’r ardal ehangach. Bydd y gwelliannau i’r bont yn golygu y gall pobl ddewis teithio’n gynaliadwy a pheidio â gorfod dibynnu ar gerbydau modur.”

I nodi’r ailagoriad swyddogol, cynhaliwyd digwyddiad wrth y bont ddydd Gwener, Mai 26ain gyda’r rhuban yn cael ei dorri gan yr Aelod lleol o’r Senedd, Janet Finch-Saunders. Mynychwyd y digwyddiad gan randdeiliaid a phartneriaid lleol sydd wedi chwarae rhan mewn sicrhau bod y bont wedi’i hailagor.

Wedi torri’r rhuban, dywedodd Janet Finch-Saunders AS; “Ar ôl bod ar gau am ychydig dros ddwy flynedd, mae’n wych gweld y cysylltiad hollbwysig hwn rhwng Dolgarrog a Dyffryn Conwy a thu hwnt, yn ôl ar agor i’r cyhoedd. Yn dilyn cydweithio rhwng Dŵr Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Trafnidiaeth Cymru ac eraill, rwy’n falch bod gennym bellach bont y gall y trigolion lleol yn ogystal â thwristiaid sy’n ymweld â’r ardal ei mwynhau.”

Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad roedd disgyblion o’r ysgol leol, Ysgol Dyffryn yr Enfys sydd, trwy rodd o bibellau dŵr gan Dŵr Cymru wedi creu draig 19 troedfedd. Yn ôl y chwedl leol cafodd Dolgarrog ei enwi ar ôl Garrog, draig chwedlonol oedd yn crwydro'r ardal. Mae’r ddraig wedi ei chreu fel rhan o waith paratoi’r pentref ar gyfer Gwŷl Garrog sydd i’w gynnal yn y pentref ym mis Medi.