Anturiaethau gyda Bwystfilod Bychan: Dŵr Cymru a Chadwch Gymru'n Daclus yn cydweithio i gynnal sesiwn addysg, ar-lein, gyda gwahaniaeth


17 Gorffennaf 2023

Mae Dŵr Cymru a thîm Eco-Sgolion Cymru o Cadwch Gymru'n Daclus wedi dod â rhyfeddodau'r awyr agored i fewn i’r ystafell ddosbarth gyda sesiwn addysg rhyngweithiol, ar-lein yn canolbwyntio ar ficroanifeiliaid, eu nodweddion a’u cynefinoedd. Cynhaliwyd y sesiwn yng Nghanolfan Addysg Amgylcheddol Cilfynydd a bu disgyblion ysgol gynradd Cyfnod Allweddol 2 yn ran o’r profiad dysgu unigryw.

Mae'r fenter yn rhan o strategaeth addysg arloesol Dŵr Cymru, sydd wedi cyrraedd dros 600,000 o ddisgyblion hyd yma. Mae'r cwmni nid-er-elw wedi ymrwymo i ysbrydoli cenhedlaethau’r dyfodol am ddŵr, gan ddefnyddio dull unigryw o secondio athrawon yn flynyddol i gyflwyno ei rhaglen addysg.

Tynnodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu â'r Gymuned yn Dŵr Cymru, sylw at bwysigrwydd y cydweithrediad: “Rydym yn aml yn cydweithio i ddarparu sesiynau addysg cydweithredol, ac yn meithrin manteision cymdeithasol ehangach. Rydym yn falch iawn o weithio gyda Cadwch Gymru'n Daclus ar y sesiwn cyffrous hwn. Mae gweld y plant yn ymgysylltu ac yn ymroi’n frwdfrydig yn ystod y sesiynau hyn yn dod â llawer o lawenydd. Mae hefyd yn helpu cwsmeriaid y dyfodol i ddeall ein gwaith wrth gynnal ein gwasanaethau hanfodol ac amddiffyn yr amgylchedd."

Cynhwysodd y sesiwn 40-munud gwîs, ymchwiliad meicrosgop, gwybodaeth ar amrywiaeth o rywiogaethau – o Berdys y Nant i Nymffau Mursennod, gwaith cartref, a thrafodaethau. Yn unol a holl ddarpariaeth Dŵr Cymru a Chadw Cymru’n Daclus, mae’r cynnwys yn cael ei arwain gan y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru, ac yn cysylltu’n gryf gyda’r pedwar pwrpas craidd – dysgwyr galluog, cyfranwyr menturus, dinasyddion gwybodus, ac unigolion hyderus.

Daeth cyffro a rhyfeddodau byd y microanifeiliaid yn syth i mewn i'r ystafell ddosbarth. Mae'r dull arloesol hwn o ddarparu addysg amgylcheddol yn caniatáu i'r dysgwyr ifanc gael mewnwelediadau i nodweddion amrywiol y creaduriaid bach a’u cynefinoedd, heb adael eu hysgol. Mae'n ffordd creadigol o feithrin ymdeimlad o berthyn gyda’r amgylchedd ymhlith y genhedlaeth ifanc, waeth beth yw'r tywydd neu gyfyngiadau lleoliad.

Canmolodd Tim Wort, Rheolwr Addysg Cadwch Gymru'n Daclus, y fenter: "Roeddem yn falch iawn o bartneriaethu â Dŵr Cymru ar gyfer y digwyddiad rhyngweithiol a chyffrous hwn. Mae'r niferoedd a gofrestrodd yn rhagorol, gan adlewyrchu awydd gwirioneddol gan ysgolion a disgyblion i ddysgu am y ffyrdd y gallant gweithredu a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’n berthnasol i gynllun gwobrwyo Eco-Sgolion hefyd."

Mynychodd cyfanswm o 3,264 o ddisgyblion ar draws 121 o ddobarthiadau yn y sesiwn, gydag adborth bositif yn cael ei dderbyn o’r cyfranogwyr.

Mae ymrwymiad Dŵr Cymru a Cadwch Gymru'n Daclus i ddod â addysg amgylcheddol awyr agored i fewn i'r ystafell ddosbarth ar raddfa eang yn werthfawr i ddisgyblion, yn enwedig i ddisgyblion efallai na fyddant fel arfer yn cael y math yma o brofiad. Mae’r dull yma o ymgysylltu ar-lein yn caniatau disgyblion i ymchwilio a chysylltu gyda natur gan helpu creu ceidwadwyr gwybodus i’n planed.