Dŵr Cymru yn amlygu ei ddull gweithredu rheoli dalgylchoedd dŵr yfed i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
22 Chwefror 2023
Gwahoddwyd Tîm Dalgylch Dŵr Cymru i ddigwyddiad arddangos untro a gynhaliwyd ar gyfer y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddangos sut mae sefydliadau partner yn gweithio gyda’i gilydd yn ardal Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ymdrin â materion yn ymwneud ag ansawdd dŵr a phryderon amgylcheddol eraill.
- Tîm Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog Dŵr Cymru yn cyflwyno yn Noson Arddangos Sêr Y Bannau i amlinellu cynllun rheoli newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
- Tîm Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog yn cynnig enghraifft allweddol o ymrwymiad Dŵr Cymru i weithio mewn partneriaeth ag eraill
- Y gweinidog yn croesawu dulliau ‘Tîm Cymru’ ac arweiniad gan ffermwr ac yn dweud bod angen mwy o ‘waith cyfunol’ yn y tymor hir
Mae rhaglen Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog Dŵr Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Awdurdod Parc Cenedlaethol i fynd i’r afael â phroblemau mewn ffyrdd sydd o fudd i’r ddau sefydliad. Mae hefyd yn gweithio’n agos gyda ffermwyr yn yr ardal, wedi sefydlu Grŵp Dŵr y Bannau. Mae’r clwstwr hwn o chwe ffermwr o ardal y Bannau yn chwilio am ffyrdd o wella effeithlonrwydd busnes ar ffermydd gan ddiogelu ansawdd dŵr ar yr un pryd.
Dywedodd Nigel Elgar, rheolwr prosiect Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog : "Mae ein rhan yn y grŵp hwn yn ddull gweithredu o’r gwaelod i fyny. Rydyn ni’n rhannu gyda nhw ddealltwriaeth o’r materion yr ydyn ni’n eu hwynebu ac yna’n gofyn iddyn nhw beth allan nhw ei wneud i helpu. Rydyn ni wedi sylweddoli o brofiad yn y gorffennol bod angen i ni fod yn hyblyg yn ein dull a chamu’n ôl ychydig i helpu ffermwyr i gynnig y datrysiadau sydd eu hangen arnon ni gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd."
Mae’n ddull gweithredu a gafodd croeso gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS. Ar ôl y digwyddiad, dywedodd hi: "Roedd hi’n wych cael cymryd rhan yn y digwyddiad arddangos hwn ym Mannau Brycheiniog a gweld drosof fy hun y datrysiadau gwirioneddol a all ddod o ddull weithredu Tîm Cymru.
“Roedd yn wych gweld ffermwyr a Dŵr Cymru yn rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd ac mae angen i ni weld mwy o’r gwaith cyfunol hwn wrth i ni geisio datblygu datrysiadau tymor hir, ar raddfa dalgylch ar gyfer materion yn ymwneud ag ansawdd dŵr."
Mae’r Tîm Dalgylch yn ceisio efelychu llwyddiant y grŵp hwn ar draws Cymru.
Ychwanegodd Nigel: "Rydyn ni eisiau sefydlu clystyrau eraill ar draws Cymru. Mae nodi ymyriadau syml y mae’n bosibl eu hefelychu am y gost leiaf nid yn unig yn darparu manteision i’r busnes fferm ond hefyd i ansawdd dŵr, felly mae pawb ar ei ennill."
Dywedwyd mwy wrth y Gweinidog hefyd am fenter PestSmart, Dŵr Cymru sy’n annog pobl i ystyried ffyrdd callach o reoli chwyn, plâu ac afiechydon nad ydyn nhw’n effeithio ar bobl, dŵr na bywyd gwyllt.
Mae rhagor o wybodaeth am y fenter hon yma.