Cyber College Cymru’n Gosod Cymru ar Flaen y Gad o ran Cyfleoedd Seiber-ddiogelwch


30 Tachwedd 2023

Mae partneriaid sy’n cynnwys Dŵr Cymru, Bridewell, Admiral a Thales wedi dod ynghyd i gefnogi rhaglen sgiliau uchelgeisiol sy’n helpu i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ym maes seiber-ddiogelwch.

Sefydlwyd Cyber College Cymru yn 2019, fel rhaglen seiber-sgiliau allgwricwlaidd arloesol â’r nod o baratoi gweithlu sy’n barod ar gyfer sialensiau’r dyfodol. Colegau ar draws de-ddwyrain Cymru sydd wedi bod yn darparu’r rhaglen, gan gynnwys Coleg Pen-y-bont, Coleg Gwent, a Choleg Merthyr Tudful.

Mewn achlysur arddangos yr wythnos hon, dathlodd Cyber College Cymru ei orchestion hyd yn hyn wrth gynorthwyo 140 o fyfyrwyr y flwyddyn ac wrth ddenu cefnogaeth rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru, gan alw ar ragor o golegau a phartneriaid o’r diwydiant i ymuno â’r fenter sydd ar dwf yng Nghymru.

Mae’r cyfle i ehangu’n aruthrol, gyda’r ymchwil ddiweddaraf gan yr Adroddiad ar Farchnad Lafur Sgiliau Seiber-ddiogelwch y DU yn nodi fod gan 50% holl fusnesau’r DU fwlch yn eu sgiliau seiber-ddiogelwch sylfaenol. Hysbysebwyd 160,035 o swyddi seiber-ddiogelwch dros y flwyddyn ddiwethaf, sy’n gynnydd o 30% ar y flwyddyn flaenorol. Dywedodd recriwtwyr y diwydiant y bu 37% o’r swyddi hyn yn rhai oedd yn anodd eu llenwi.

Mae gan Gymru ecosystem dechnoleg lewyrchus - yn ôl ffigurau’r llywodraeth, amcangyfrifir fod sector technoleg y genedl gwerth £8.5bn i economi Cymru, ac mae’n parhau i dyfu. Mae bron i 45,000 o bobl yn gweithio o fewn yr Economi Digidol yng Nghymru, sy’n dyst i rôl hanfodol seiber-ddiogelwch wrth amddiffyn yr ecosystem ddigidol lewyrchus yma.

Dywedodd Rob Norris, Prif Swyddog Technegol Dŵr Cymru a chyd-sylfaenydd Cyber College Cymru: “Mae seiber-gadernid yn flaenoriaeth strategol allweddol ar gyfer ein cenedl, ein heconomi a’n cymunedau, ac nid yw’r galw am weithwyr seiberddiogelwch medrus erioed wedi bod yn uwch. Bydd hyn yn parhau i dyfu, ac rydyn ni am gynyddu hygyrchedd y cyfle unigryw yma i bobl ifanc yng Nghymru syrthio mewn cariad â’r proffesiwn. Rydyn ni yn ein pedwaredd flwyddyn erbyn hyn, ac yn hyfforddi dros 100 o fyfyrwyr y flwyddyn gyda chymorth byd diwydiant. Rydyn ni wedi creu ecosystem yng Nghymru sy’n gweithio ac yn addasu ar garlam er mwyn cyfoethogi’r siwrnai dysgu ar gyfer myfyrwyr.”

Dywedodd Nick Smith AS: “Mae hi’n hyfryd cael dathlu llwyddiant Cyber College Cymru yma heddiw. Roeddwn i eisiau helpu i ddarparu cwrs seiber o safon ryngwladol ar gyfer pobl ifanc ar stepen y drws yma yng Nghymru, ac erbyn hyn, dyna’r union beth sydd gennym ni. Rwy’n credu y gall Cyber College Cymru ddenu pobl ifanc o’n trefi diwydiannol ar draws Cymru a’u taclu â’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer swyddi’r dyfodol, a darparu ein diwydiannau digidol â’r dalent brodorol sydd ei angen arnynt.”

Dywedodd Mike Halliday, o Cyber College Cymru: “Mae Cyber College Cymru bellach yn hyfforddi myfyrwyr, gyda chymorth partneriaid, i ddatblygu a chyflymu eu sgiliau seiber-ddiogelwch er mwyn iddynt fod yn barod ar gyfer y byd gwaith, ac ehangu sgiliau seiber-ddiogelwch y genedl. Ymgysylltodd y Diwrnod Arddangos gyda phartneriaid o amryw o sectorau’r diwydiant i ymuno yn y rhaglen a gwneud gwahaniaeth, wrth ddathlu popeth y mae’r rhaglen wedi ei gyflawni hyd yn hyn.”

Ychwanegodd Scott Nicholson, Cyd-brif Weithredwr Bridewell: “Bu dydd Gwener yn ddiwrnod bendigedig, yn gweld cyn-fyfyrwyr o’r gwahanol golegau yng Nghymru sydd bellach yn gweithio yn y diwydiant, a’r myfyrwyr cyfredol sydd â dyfodol disglair o’u blaenau. Yma yn Bridewell rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r rhaglen yma, a byddem yn annog sefydliadau eraill i wneud yr un peth.”

Dywedodd Leanne Connor, Rheolwr Busnes, Thales Cymru: "Mae Cyber College Cymru’n gam allweddol i bobl ifanc ar y llwybr o’n rhaglen ysgolion i addysg uwch a’r byd diwydiant. Rydyn ni’n falch o fod ymysg sylfaenwyr y rhaglen. Mae gweithio gyda cholegau i ddarparu sesiynau’r cyrsiau’n cynnig cyfleoedd datblygu gwych i’n staff. Mae hi’n fuddsoddiad hirdymor mewn cenhedlaeth newydd o ddawn technolegol, ac rydyn ni eisoes wrth ein boddau â’r bobl ifanc sydd wedi dod o’r rhaglen i ymuno â’n tîm fel prentisiaid."