Cynnal cymorthfeydd dyledion ‘Help gyda Biliau’wrth i gymunedau frwydro gyda costau byw
20 Ionawr 2023
Bu cynghorwyr dyledion Dŵr Cymru Welsh Water yn gweithio gyda chanolfannau cymunedol yng Nghasnewydd yn ddiweddar er mwyn helpu cwsmeriaid gyda phryderon ynghylch dyledion a thaliadau biliau dŵr.
Gyda’r wlad yn parhau i fod yng ngafael yr argyfwng costau byw, a gyda chostau uchel ynni’n brathu, mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi bod yn ymweld â chanolfannau ar draws Casnewydd gyda’u tîm cynghori dyledion arbenigol. Bu’r cynghorwyr, sy’n cynorthwyo cwsmeriaid dros y ffôn fel rheol, allan yn y gymuned yng Nghanolfan Gymunedol y Gaer a Chanolfan Gymunedol Betws ar 18 a 19 Ionawr.
Trwy gynnal cymorthfeydd ar ddyledion a rhoi’r cyfle i gwsmeriaid gyfarfod â chynghorwyr dyledion wyneb yn wyneb i drafod eu pryderon. Rhoddodd y sesiynau gyfle i gwsmeriaid i drafod ôl-ddyledion, canfod gwybodaeth am gymorth er mwyn ei reoli a sefydlu cynlluniau taliadau sy’n haws eu rheoli. Cyflawnwyd gwaith hyrwyddo i hysbysebu eu presenoldeb yn y gymuned, ac anfonwyd neges e-bost a neges destun bwrpasol at gwsmeriaid lleol sydd ag ôl-ddyledion ar eu cyfrifon er mwyn eu gwahodd i alw heibio.
Bu dull tebyg o weithredu yng Nghanolfan Mileniwm Pilgwenlli yn hydref 2022 yn werthfawr i’r rhai a ddaeth draw. Dywedodd un cwsmer:
“Fe ddes i lawr i sortio fy miliau. Rydw i ychydig bach yn nerfus wrth siarad ar y ffôn, felly roeddwn i’n meddwl ei bod hi’n syniad da. Rwy’n trio rhoi trefn ar bethau. Mae pethau’n galed arnom ni ac mae pob un geiniog yn helpu. Mae Dŵr Cymru wedi bod o help mawr i fi heddiw.”
Mae’r presenoldeb yn rhan o weithgarwch ehangach yn yr ardal yn rhan o brosiect parhaus yn y gymuned i feithrin gwytnwch. Mae’r prosiect yn gweld y cwmni’n gweithio’n ddwys gyda chymunedau lleol a phartneriaid trwy ddull o weithredu sy’n seiliedig ar le – er mwyn meithrin dealltwriaeth, dod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ac i gyflawni ar draws amrywiaeth o wasanaethau.
Yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn, gall cwsmeriaid ddisgwyl gweld y cwmni’n cynnig dyfeisiau arbed dŵr am ddim i gwsmeriaid, cydweithio’n agos ag ysgolion ar destunau allweddol, cynnig cymorth gyda tariffau a chynorthwyo pobl sy’n chwilio am waith.
Dywedodd Richard Vennard, Pennaeth Cyllid Cwsmeriaid i Ddŵr Cymru:
“O ystyried yr argyfwng costau byw sy’n ein hwynebu, mae hi’n arbennig o bwysig i gwsmeriaid weld ein bod ni yma i helpu. Mae yna nifer o fentrau a thariffau ar gael i gynorthwyo cwsmeriaid sy’n cael trafferth talu eu biliau dŵr, ac mae’r digwyddiadau yma wedi galluogi cwsmeriaid i weithio gyda ni i ddarganfod datrysiad i’w dyledion. Dylsai unrhywun sydd mewn dyled gyda ni ac sy’n ei chael hi’n anodd, ein galw ni’n syth. Rydym yma i helpu.”