Cydweithio dros ddyfodol mwy gwyrdd


5 Mai 2023

Dŵr Cymru a Morrisons Water Services yn cynorthwyo Prosiect Gardd Gynaliadwy ysgol yn Sir y Fflint

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn cydweithio â Morrisons Water Services i gyfrannu deunyddiau i Ysgol Uwchradd Elfed yn Sir y Fflint eu defnyddio yn eu prosiect i greu gardd gynaliadwy.

Nod prosiect yr ardd gynaliadwy dan arweiniad gweithiwr ieuenctid yr ysgol, Miss Gillian Smith, a’r cynorthwyydd dysgu, Mrs Julie Bennett, yw darparu lle diogel i fyfyrwyr ddangos eu doniau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth a hybu llesiant. Mae’r myfyrwyr yn dysgu am gynaliadwyedd hefyd wrth ddysgu sut i dyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, fel tomatos, moron, ciwcymbyrs a mefus.

Cafodd Dŵr Cymru gais anarferol gan weithiwr ieuenctid yr ysgol, Gillian Smith, oedd yn gofyn am ddarnau o bibellau ddŵr oedd dros ben ar ôl cwblhau gwaith - i gynorthwyo eu prosiect garddio a helpu gyda’u nod amgylcheddol o ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu.

Rhannwyd y cais â Rheolwr Prosiect Cynghrair Rhwydwaith Dŵr Cymru, Jonathan Davies, a gysylltodd â Rheolwr Cyflawni’r contractwr partner, Morrisons Water Services, Greg Phillips, i ofyn a oedden nhw mewn sefyllfa i helpu.

Cymerodd y peth ychydig wythnosau i’w drefnu, ond heddiw (dydd Gwener, 5 Mai) mae Rheolwr Morrisons Water Services, Alwyn Lane, wedi cyflwyno tua phum metr ar hugain o bibellau dros ben i’r ysgol, er mawr cyffro i’r myfyrwyr.

Dywedodd Miss Julie Bennett, sy’n Gynorthwyydd Dysgu yn Ysgol Uwchradd Elfed: “Dechreuodd prosiect yr ardd yn 2022, ond yn anffodus i ni, cafodd yr adar afael ar y cnydau cyn ni. Bydd y rhodd caredig yma o bibellau plastig yn caniatáu i’r myfyrwyr adeiladu ffrâm i amddiffyn y cnydau, a dal y rhwydi yn eu lle er mwyn atal yr adar rhag bwyta’r ffrwythau sy’n tyfu."

“Cawsom ni’r syniad yn wreiddiol o flog rhandiroedd lle’r oedd pobl wedi defnyddio pibellau wedi eu hailgylchu i adeiladu eu ffrâm. Mae’r myfyrwyr yn gobeithio rhoi’r rhwydi ffrwythau yn eu lle cyn pen y pythefnos nesaf."


Dywedodd Greg Phillips, Rheolwr Cyflawni Morrisons Water Services: “Roedd hi’n bleser gallu cyfrannu’r darnau o bibellau dŵr sydd dros ben, sy’n cael ei anfon i’w ailgylchu fel rheol. Mae eu rhoi nhw’n uniongyrchol i’r ysgol i’w hailgylchu a’u defnyddio yn eu prosiect gardd gynaliadwy yn cynnig mwy o fanteision amgylcheddol byth, ac rydyn ni mor falch bod y myfyrwyr yn elwa cymaint o’r prosiect.”

Nod hirdymor prosiect gardd Ysgol Uwchradd Elfed yw tyfu difon o fwyd i’r myfyrwyr fynd â pheth adref neu ei rannu o fewn y gymuned. Yn ogystal â dysgu sut i dyfu eu bwyd eu hunain, maen nhw’n cael gwersi ar sut i baratoi a choginio’r bwyd hefyd, sy’n datblygu eu set sgiliau.

Mae prosiect yr ardd yn rhywbeth i’r holl fyfyrwyr, ond mae’n cael ei gynnig hefyd fel ymyrraeth garddio i’r myfyrwyr sy’n ffeindio amgylchedd yr ystafell ddosbarth yn anodd ac sydd angen gwella eu llesiant. Nod y prosiect yw rhoi cyfle i fyfyrwyr edrych ymlaen at wneud amser i fyd natur a mwynhau’r amgylchedd. Ers dechrau’r prosiect, mae hi wedi mynd o nerth i nerth, gyda llawer mwy o fyfyrwyr yn awyddus i gymryd rhan.

Dywedodd Jonathan Davies, Rheolwr Prosiect Cynghrair Rhwydwaith Dŵr Cymru: “Mae Dŵr Cymru yn falch o allu gweithio gyda’n partneriaid, Morrisons Water Services i gynorthwyo Ysgol Uwchradd Elfed gyda Phrosiect yr Ardd a hybu cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn y gymuned.”