Cynlluniau Dŵr Cymru i ailadeiladu gweithfeydd trin dŵr gwastraff Aberteifi a buddsoddi £42m pellach mewn asedau dŵr gwastraff ar draws Ceredigion


19 Hydref 2023

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu cyflymu buddsoddiad yn ei rwydwaith o asedau dŵr gwastraff ar draws Ceredigion er mwyn gwella ansawdd dŵr afonol yn afon Teifi a helpu i amddiffyn yr amgylchedd ehangach.

Mae’r buddsoddiadau’n cynnwys:

  • Buddsoddiad o £20m mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff newydd yn Aberteifi
  • Buddsoddi £9m mewn 4 gweithfeydd trin dŵr gwastraff arall yng Ngheredigion
  • £10.5m i leihau effaith gorlifoedd storm allweddol ar draws y sir

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu cyflymu buddsoddiad yn ei rwydwaith o asedau dŵr gwastraff ar draws Ceredigion er mwyn gwella ansawdd dŵr afonol yn afon Teifi a helpu i amddiffyn yr amgylchedd ehangach.

Ffocws allweddol ei gynlluniau buddsoddi fydd disodli Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Aberteifi yn llwyr. Mae hyn yn dilyn gwaith helaeth mewn blynyddoedd diweddar ar ôl canfod bod dŵr y môr yn dod i mewn i’r safle o’r afon lanwol, ac yn arbennig adeg penllanw mawr. Mae’r broses hon, a elwir yn ymdreiddiad dŵr hallt, yn effeithio ar y prosesau trin ar y safle, a gall olygu nad oes gan weithfeydd Aberteifi’r capasiti angenrheidiol i ddelio â’r dŵr gwastraff sy’n dod i mewn i’r safle. Mae hyn yn gallu peri i’r gorlifoedd storm lleol ryddhau mwy nag y dylent i’r aber, ond dylid nodi bod ansawdd dŵr yn y dyfroedd ymdrochi lleol (ar Draeth Poppit) yn dal i gyflawni safonau “rhagorol” yn ôl gwaith monitro Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chontractwyr arbenigol i ddod o hyd i’r ffordd orau o daclo’r ymdreiddiad dŵr hallt. Mae hyn wedi cynnwys cyflwyno technegau a mesurau lliniaru i leihau effaith dŵr y môr. Ond cyfyngedig fu llwyddiant yr ymdrechion i dynnu dŵr y môr o’r system hyd yn hyn, ac felly mae angen disodli’r gweithfeydd yn llwyr.

Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw’n bwriadu buddsoddi £20m mewn gwaith i newid y broses yn GTDG Aberteifi er mwyn sicrhau bod y safle’n gallu ymdopi’n well â’r mewnlifiad o ddŵr hallt, gan helpu i leihau amledd y gollyngiadau y mae angen eu rhyddhau o’r safle.

Ar ôl cyflawni treialon helaeth a gosod dau beiriant trin peilot yn Aberteifi, mae Dŵr Cymru wedi clustnodi proses sy’n defnyddio bio-adweithydd â gwely symudol. Profwyd taw hon yw’r broses fwyaf effeithiol wrth leihau effaith y dŵr môr sy’n dod i mewn, gan helpu i leihau niwed a gwella gwytnwch y gweithfeydd.

Y bwriad yw dechrau’r gwaith o osod y gweithfeydd trin newydd yn Hydref 2025, a disgwylir ei gwblhau erbyn Ebrill 2027. Yn y cyfamser, mae Dŵr Cymru’n bwriadu gosod peiriannau parod dros dro y mis yma er mwyn helpu i drin rhywfaint o’r dŵr storm sy’n dod i mewn i’r gweithfeydd, a bydd hyn yn ei le nes bod y gwaith i ddisodli gweithfeydd trin Aberteifi wedi ei gwblhau.

Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i daclo’r sialensiau sydd wedi codi yng ngweithfeydd trin dŵr gwastraff Aberteifi, sy’n rhywbeth nad ydym yn eu profi ar yr un lefel ar unrhyw un o’n safleoedd eraill ar draws Cymru. Mae hyn wedi cynnwys ymchwiliadau hirfaith a chymhleth, ac rydyn ni’n flin ei bod hi wedi cymryd gyhyd. Ar ôl ystyried sut mae cwmnïau a gwledydd eraill yn taclo ymdreiddiad dŵr y môr i weithfeydd trin, sy’n dod yn fwyfwy cyffredin wrth i lefelau’r môr godi yn sgil newid hinsawdd, rydyn ni wedi dod i’r casgliad taw’r unig ateb cynaliadwy yw buddsoddi £20 miliwn mewn gwaith i ddisodli gweithfeydd trin Aberteifi.

“Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gennym ni’r capasiti ar y safle i daclo’r dŵr gwastraff ac i roi mesurau ar waith i atal mewnlifiad y dŵr hallt. Bydd hyn yn ei dro yn sicrhau ein bod ni’n trin dŵr gwastraff yn effeithlon ac yn lleihau nifer y gorlifoedd o’r safle hwn i’r aber. Mae dyluniad manwl y cynlluniau ar y gweill a chânt eu cyflawni o 2025 ymlaen. Mae hi’n fuddsoddiad mawr, ond ar ôl i bob opsiwn arall i ddatrys y mater fethu, rydyn ni’n benderfynol o gyflawni hyn ar gyfer Aberteifi a’r cymunedau cyfagos.”

Mae Dŵr Cymru’n rheoli rhwydwaith eang ar draws dalgylch afon Teifi, gyda 33 o weithfeydd trin dŵr gwastraff, 66 o orsafoedd pwmpio carthion a 204km o garthffosydd sy’n helpu i drin y dŵr gwastraff o bron i 14,000 o aelwydydd a busnesau yn ddiogel.

Mae’r cwmni wedi cadarnhau buddsoddiad yn ei rwydwaith ehangach ar draws dalgylch Teifi hefyd, a fydd yn cynnwys buddsoddi bron i £9 miliwn mewn 4 o’i weithfeydd trin allweddol erbyn diwedd Mawrth 2025, sef Llanybydder (£3.5m), Pencader (£2.8m), Llanbedr Pont Steffan (£1.3m) a Chwrtnewydd (£1.2m).

Caiff yr ymrwymiad hwn ei ategu gan raglen ymchwilio ar wahân sy’n edrych ar effaith gorlifoedd storm sy’n chwarae rhan allweddol fel pwyntiau rhyddhau er mwyn amddiffyn cartrefi a busnesau ar draws Cymru rhag llifogydd. Bydd yr ymchwiliadau hyn yn golygu buddsoddiad o £10.5m yn nalgylch afon Teifi er mwyn blaenoriaethu a gwella’r gorlifoedd allweddol sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd yn yr ardal.

Ychwanegodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru: “Amddiffyn ansawdd dŵr ein dyfroedd arfordirol ac afonol yw un o’n prif flaenoriaethau yn Dŵr Cymru. Gyda hinsawdd sy’n newid, does yna ddim ateb cyflym i’r sialensiau a wynebwn, ond mae ein cynlluniau buddsoddi diweddaraf ar gyfer Ceredigion yn adlewyrchu’r ffaith ein bod ni’n benderfynol o sicrhau bod ein hasedau."