Hwb £9 miliwn i gwsmeriaid dŵr ym Merthyr


3 Mai 2023

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cwblhau ei waith ar gynllun buddsoddi £9 miliwn a fydd yn sicrhau bod tua 25,000 o gwsmeriaid ym Merthyr Tudful a’r cyffiniau’n parhau i gael cyflenwadau dŵr o’r safon uchaf.

  • Buddsoddiad o £9 miliwn i adeiladu cronfa ddŵr newydd sbon ym Mhengarnddu wedi ei gwblhau.
  • Bydd y storfa ddŵr ychwanegol yn lleihau’r tebygolrwydd o orfod rhoi cyfyngiadau ar waith mewn cyfnodau o dywydd sych yn y dyfodol.
  • Bydd yn sicrhau bod tua 25,000 o gwsmeriaid ym Merthyr Tudful a’r cyffiniau yn parhau i gael cyflenwadau dŵr yfed o’r safon uchaf.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cwblhau ei waith ar gynllun buddsoddi £9 miliwn a fydd yn sicrhau bod tua 25,000 o gwsmeriaid ym Merthyr Tudful a’r cyffiniau’n parhau i gael cyflenwadau dŵr o’r safon uchaf.

Adeiladodd y cwmni gronfa ddŵr newydd sbon ar dir ger y gronfa ddŵr gyfredol ym Mhengarnddu, sydd ger Ystâd Ddiwydiannol Pengarnddu wrth ymyl yr A465.

A brand new water reservoir at Pengarnddu

Mae gan y gronfa newydd, sydd wedi ei hadeiladu’n rhannol o dan y ddaear, y capasiti i storio 9 megalitr ychwanegol o ddŵr yfed wedi ei drin – sy’n ddigon i lenwi tri phwll nofio maint Olympaidd a hanner! Bydd y storfa ychwanegol yn helpu i gryfhau gwytnwch rhwydwaith dŵr y cwmni yn ardal Merthyr, gan leihau’r tebygolrwydd o orfod rhoi cyfyngiadau ar waith mewn cyfnodau o dywydd sych yn y dyfodol.

Dechreuodd y gwaith yn Ebrill 2021, a chymerodd tua dwy flynedd i’w gwblhau. Trwy gydol yr haf, bydd y cwmni’n parhau â’i waith i adfer yn yr ardal er mwyn sicrhau bod y gronfa newydd yn asio i’w hamgylchedd.

Dywedodd Brendan Hansen, Rheolwr Prosiect Dŵr Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cwblhau’r prosiect buddsoddi £9 miliwn yma ym Merthyr Tudful. Yn ogystal â helpu i gryfhau gwytnwch rhwydwaith dŵr Merthyr Tudful, bydd yn cryfhau ein gallu i ymateb i amrywiadau yn y galw fel y gallwn barhau i ddarparu adnoddau dŵr diogel a dibynadwy ar gyfer ein 25,000 o gwsmeriaid yn ardal Merthyr.”

Mae’r gwaith yma’n rhan o fuddsoddiad o £1.8 biliwn gan y cwmni nid-er-elw rhwng 2020 a 2025 er mwyn gwella’r gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ac amddiffyn yr amgylchedd.

Yn ogystal â buddsoddi yn ei seilwaith, mae gan y cwmni dimau penodol sydd allan yn canfod ac yn trwsio tua 120 o ollyngiadau y dydd er mwyn helpu i leihau gollyngiadau a gwastraff ar y rhwydwaith. Os gwelwch chi ddŵr yn gollwng a bod angen ymchwilio i’r broblem, rhowch alwad i ni ar 0800 052 130 neu cofnodwch y manylion ar wefan Dwr Cymru.