£201 miliwn wedi’i wario i wella gwasanaethau yn ystod chwe mis cyntaf 2022/23


13 Tachwedd 2023

Rhwng Ebrill a Medi 2023, gwnaeth Dŵr Cymru gwario £201 miliwn mewn prosiectau cyfalaf i wella gwasanaethau a chynnal cadernid ei rwydwaith dŵr a dŵr gwastraff sy'n ymestyn dros y rhan fwyaf o Gymru a Swydd Henffordd - £32 miliwn yn fwy na'r un cyfnod y llynedd.

Mae hyn yn cynnwys cynlluniau lleihau ffosffad i wella ansawdd dŵr afonydd yn Aberhonddu (Afon Wysg) a Henffordd (Afon Gwy) a chynlluniau i liniaru risg newid hinsawdd, megis dechrau adeiladu'r gorlifan newydd yn argae Llyn Celyn, yng ngogledd Cymru.

Yn ei adroddiad hanner blwyddyn, adroddodd y cwmni berfformiad ariannol cryf ond nododd hefyd rai meysydd gweithredol allweddol lle mae ei berfformiad ar ei hôl hi o ran y targed, gan gynnwys yr amser y mae cwsmeriaid yn wynebu toriadau yn eu cyflenwadau dŵr, lefelau gollyngiadau a nifer y digwyddiadau llygredd. Cadarnhaodd y cwmni hefyd fod ei gynllun 'Cymuned', sydd â'r nod o gefnogi cwsmeriaid sy'n gweithio, sy’n ei chael hi'n anodd yn ariannol ac sydd angen cymorth tymor byr i dalu eu bil, wedi'i gyflwyno ar draws ei ardal weithredu erbyn hyn, y cynllun cyntaf o'i fath yn y diwydiant dŵr.

Mae Dŵr Cymru eisoes wedi cadarnhau, gan fod ei fodel perchnogaeth "nid er elw" yn golygu nad oes rhaid iddo dalu difidendau i gyfranddalwyr, ei fod yn gallu sicrhau bod cyllid o £13 miliwn ar gael eleni i gefnogi ei gwsmeriaid mwyaf agored i niwed trwy ei dariffau cymdeithasol.

Daw'r adroddiad hanner blwyddyn ar ôl i'r cwmni gyflwyno ei Gynllun Busnes uchelgeisiol ar gyfer 2025-30 i Ofwat ddechrau mis Hydref. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cynllun hwn yn arwain at raglen gwariant cyfalaf fwyaf erioed y cwmni, sy'n werth £3.5 biliwn dros y pum mlynedd, sy'n cyfateb i gynnydd o 68% ar y gwariant cyfalaf sydd ar y gweill rhwng 2020 a 2025.

Canolbwynt allweddol y Cynllun yw mabwysiadu dull cydweithredol o leihau ei effaith ar yr amgylchedd, yn enwedig chwarae ei ran wrth helpu i wella ansawdd dŵr afonydd, gydag ymrwymiad i fuddsoddi bron i £2 biliwn yn yr amgylchedd rhwng 2025 a 2030 – 84% yn fwy nag yn ystod 2020-25. Mae'r cwmni hefyd yn derbyn y nifer fwyaf o bobl dalentog newydd i'r busnes gyda dros 50 o brentisiaid, graddedigion a hyfforddeion yn ymuno yn y chwe mis nesaf.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: "Rydyn ni wedi cynnal ein sefyllfa ariannol gref yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn, gan roi sylfaen sefydlog i ni wella ein perfformiad gweithredol ac ar gyfer cyflawni ein Cynllun Busnes tymor hwy. Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio'n llwyr ar ddarparu gwasanaeth da i'n cwsmeriaid a'r amgylchedd, ac ni fyddwn ni’n cilio rhag yr heriau sy'n ein hwynebu ni. Mae gwaith eisoes ar y gweill i ymdrin â'r meysydd hynny lle yr ydym ar ei hôl hi, gyda chefnogaeth cynlluniau buddsoddi manwl yn y cylch rheoleiddio cyfredol hwn yn ogystal ag yn 2025-30. Bydd angen buddsoddiad parhaus i adeiladu’r seilwaith y mae ein cwsmeriaid yn ei haeddu."

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Yn ystod y 6 mis diwethaf, mae ein rhaglen fuddsoddi wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed ac fel cwmni angori yma yng Nghymru, rydyn ni’n falch ein bod ni’n buddsoddi’n sylweddol mewn seilwaith a fydd yn helpu i ddiogelu a chryfhau ein gwasanaethau allweddol am flynyddoedd i ddod gan hefyd gefnogi dros 9,000 o swyddi, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

“Ar yr un pryd, rydyn ni hefyd yn parhau i ganolbwyntio'n ddwys, mewn cydweithrediad â sectorau eraill, ar gyflawni gwelliannau amgylcheddol. Fel cwmni, mae ein perfformiad yn parhau i fod yn destun craffu gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid a hynny’n gwbl briodol. Mae'n fraint i ni ddarparu gwasanaeth hanfodol sy'n diogelu iechyd y cyhoedd ac er gwaethaf yr heriau sy'n ein hwynebu ni, mae ein sylfeini, ethos ein cwmni a’n pobl dal yn gryf ac wedi ymrwymo'n llwyr i amddiffyn a chefnogi'r cymunedau yr ydyn ni’n eu gwasanaethu."

Mae'r canlyniadau allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Cynyddodd y refeniw 8% i £464 miliwn (2022: £428 miliwn), gan adlewyrchu’n bennaf gynnydd mewn biliau, mwy o ddefnydd, a thwf yn nifer y cwsmeriaid yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Cynyddodd gwariant gweithredu (ac eithrio amhariad ar fasnach a symiau derbyniadwy eraill, gwariant adnewyddu seilwaith, a dibrisiant) 2% i £182 miliwn (2022: £179 miliwn) gan adlewyrchu costau cyflogaeth uwch a phrisiau cemegau.
  • Cynyddodd elw gweithredu 12% i £37 miliwn (2022: £33 miliwn).
  • Cyfanswm y buddsoddiad cyfalaf net oedd £201 miliwn (2022: £167 miliwn) ac mae ar y trywydd iawn i gyflawni rhaglen fuddsoddi £2.0 biliwn AMP7 (2020 i 2025) o welliannau i'r amgylchedd a gwasanaeth cwsmeriaid.
  • Y golled sylfaenol (ac eithrio symudiadau gwerth teg) am y cyfnod oedd £86 miliwn (2023: £93 miliwn) sy’n adlewyrchu'r symudiadau a nodwyd uchod, yn ogystal â chost cyllid net o £124 miliwn yr aethpwyd iddi yn ystod y cyfnod.
  • Mae cydymffurfio cyffredinol â Mynegai Risg Cydymffurfio yr Arolygiaeth Dŵr Yfed y flwyddyn galendr hon, sef 6.33, yn groes i’r targed (3.38) (2022: 4.12), yn bennaf oherwydd methiant yn ein gwaith trin mwyaf yn Felindre lle yr ydym yn cynnal gwaith cynnal a chadw cymhleth gwerth £16 miliwn i sicrhau ein bod yn cynnal safonau ansawdd dŵr da.
  • Roedd cydymffurfiaeth gweithfeydd trin gwastraff cyffredinol ar 98.16% ychydig yn is na'r targed (99.16%) oherwydd dechrau heriol i'r flwyddyn, gyda nifer o weithfeydd yn wynebu problemau gweithredu yn y gwanwyn sych. Mae'r perfformiad wedi sefydlogi yn ystod yr haf a’r hydref.
  • O ran gollyngiadau, mae hyn yn parhau i fod ar ei hôl hi o ran y targed sy'n cael ei fynegi fel cyfartaledd o 3 blynedd: ar y sail hon, nododd Dŵr Cymru gynnydd o ran alldro o 14.3% mewn gollyngiadau o gymharu â'i darged o gynnydd o 10.4%. Wynebodd nifer o fethiannau mawr yn y prif bibellau cyflenwi a hefyd fethiannau cyson yn y prif gyflenwad mewn lleoliadau gwledig, yn enwedig yn ne-orllewin Cymru, lle gall fod yn anodd dod o hyd i brif bibellau sydd wedi byrstio a chael mynediad atynt. Mae'r cwmni'n parhau i fod yn optimistaidd y bydd ei Gynllun Adfer Gollyngiadau yn darparu gwell perfformiad ac mae wedi cynnig rhaglen fawr o waith adnewyddu prif bibellau cyflenwi fel rhan o'n cyflwyniad PR24.
  • Cynhyrchodd Dŵr Cymru 25% o'i anghenion ynni ei hun gan ddefnyddio gwynt, dŵr, solar a threulio anaerobig uwch (AAD) gyda'r gweddill yn dod o adnoddau ynni adnewyddadwy 100%. Erbyn 2025, nod y cwmni yw ei bod yn cynhyrchu 35% o’i ynni, wrth iddo barhau i newid i hunan-gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ei ymgyrch i fod yn 100% erbyn 2050.
  • O dan ein Prosiect Cymunedau Cadarn o ran Dŵr (dull sy'n seiliedig ar leoedd, gyda'r nod o ddwyn ynghyd gydweithwyr o wahanol dimau – cwsmeriaid sy’n agored i niwed, addysg, gyrfaoedd, dyled, effeithlonrwydd dŵr a rhwydwaith dŵr gwastraff – i roi cymorth wedi'i dargedu mewn man penodol), ymunodd ein Tîm Addysg â'r Ymddiriedolaeth Llythrennedd a Chanolfan Eden Gate i gefnogi oedolion ag anawsterau dysgu i wella’u darllen a'u sillafu, ac felly, ei gwneud hi’n haws iddynt fanteisio ar wasanaethau cymorth eraill.

Mae adroddiad a chyfrifon interim llawn Glas Cymru i'w gweld yma.