Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau y bydd y gwaith y bu disgwyl mawr amdano i drwsio Ceunant y Diafol yng Nghwm Elan yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.
Mae’r cwmni dŵr nid-er-elw wedi ymrwymo i drwsio’r Ceunant ers iddo gau am resymau diogelwch yn 2018 yn dilyn cwymp creigiau.
Oherwydd cyflwr ansefydlog iawn y clogwyn, galwyd ar beirianwyr arbenigol i asesu ei gyflwr a chynnig cyngor proffesiynol. Nawr bydd Rock Engineering, contractwyr arbenigol o’r gogledd, yn cyflawni’r gwaith trwsio ar y llwybr cerdded poblogaidd trwy Gwm Elan ar ran Dŵr Cymru.
Bydd y gwaith trwsio’n dechrau dydd Llun, 9 Ionawr 2023, a bydd yn cynnwys sgwrio’r graig, ei hangori a’i bollti, a gorchuddio’r clogwyn cyfan â rhwydi creigiau.
Dywedodd Alun Shurmer, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chysylltu Cwsmeriaid Dŵr Cymru: “Rydyn ni’n falch o gadarnhau dechrau’r gwaith i drwsio Ceunant y Diafol yn y Flwyddyn Newydd.
“Rydyn ni’n ffodus fod y contractwyr Cymreig arbenigol a phrofiadol, Rock Engineering, wedi cytuno i gyflawni’r gwaith trwsio cymhleth yma, ac rydyn ni’n disgwyl y bydd modd ailagor y Ceunant yng ngwanwyn 2023.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod cau’r Ceunant wedi achosi anghyfleustra i ddefnyddwyr rheolaidd y llwybr poblogaidd yma, a hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am eu hamynedd wrth i ni gyflawni’r gwaith, ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr nôl i’r lle prydferth yma yn 2023.”
Yn ystod y gwaith trwsio, er diogelwch ymwelwyr ac anifeiliaid, mae Llywodraeth Cymru wedi cydsynio i estyniad pellach ar gyfnod cau Llwybr Cwm Elan a’r llwybr ceffylau. Mae hyn eisoes mewn grym a bydd yn aros mewn grym nes bod modd i bobl basio trwy’r Ceunant yn ddiogel unwaith eto.