Dŵr Cymru'n rhoi hwb o £3.5 miliwn i amgylchedd dŵr Weobley


27 Ebrill 2022

Rhoddir hwb i'r amgylchedd dŵr yn Weobly a'r cyffiniau diolch i gynllun buddsoddi gwerth £3.5 miliwn gan Ddŵr Cymru.

Bydd y cwmni cyfleustod nid-er-elw’n dechrau gwaith ar brosiect a fydd yn uwchraddio'r gweithfeydd trin dŵr gwastraff y mae'n berchen arno ac yn ei weithredu yn yr ardal.

Mae'r gweithfeydd trin eisoes yn trin y dŵr gwastraff y mae'n ei dderbyn o'r ardal gyfagos i safon uchel, ond bydd y gwaith uwchraddio yma'n gweld y broses drin yn cael ei gwella eto fyth.

Y prif welliant fydd cyflwyno proses sy'n tynnu'r ffosffadau o'r dŵr gwastraff wedi ei drin. Mae ffosffadau'n gallu achosi gordyfiant algâu, felly bydd eu tynnu o'r dŵr gwastraff wedi ei drin yn helpu i leihau'r lefelau yn Nant Newbridge gerllaw - a bydd hyn, yn ei dro, yn llesol i fywyd dyfrol y nant.

Caiff y gwaith uwchraddio ei gyflawni o fewn ffiniau'r gweithfeydd trin ger Kington Road yn Weobley. Bydd y gwaith yn dechrau yn gynnar ym mis Mai 2022 a nod y cwmni yw ei gwblhau erbyn diwedd Chwefror 2023.

Dywedodd Uwch Reolwr Prosiect Dŵr Cymru, Andrew Davies: "Fel cwmni, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn yr amgylchedd sydd yn ein gofal, ac mae hynny'n cynnwys y cyrsiau dŵr rydym yn cysylltu â nhw. Mae yna nifer o ffactorau sy'n cyfrannu at lefelau'r ffosffadau mewn cyrsiau dŵr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i gadw ein cyfraniad i'r lefel isaf bosibl. Mae’r buddsoddiad sylweddol yma yn Weobly yn adlewyrchu hyn.”

Am resymau diogelwch, bydd goleuadau traffig tair ffordd a therfyn cyflymdra'n gweithredu ar hyd Kington Road yn ystod y gwaith. Mae'r awdurdod lleol wedi rhoi sêl bendith i’r gwaith.

Ychwanegodd Mr Davies: “Rydyn ni am sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud wrth i ni weithio yn eu cymuned bob tro, felly rydyn ni wedi ysgrifennu at drigolion lleol i rannu gwybodaeth am y gwaith, ac wedi diweddaru ein gwefan gyda'r manylion diweddaraf.

“Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gwaith o'r math yma'n gallu achosi anghyfleustra, ond fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned, a hoffem ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni gyflawni'r gwaith hanfodol yma."