Dŵr Cymru'n Gweithredu dros Gwsmeriaid Bregus


29 Mawrth 2022

Mae effeithiau Covid a'r argyfwng costau byw sydd ar y gorwel yn codi sialensiau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen i aelwydydd a busnesau.

Dyna pam fod Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, wedi cynnal ei 3edd gynhadledd cwsmeriaid bregus er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r sialensiau hyn, ac i annog cyrff i rannu arferion da.

Cynhadledd gyfeillgar a rhyngweithiol oedd yr achlysur a gynhaliwyd yng Nghonwy ddoe, a rhoddodd lwyfan i lu o anerchwyr arbenigol sydd wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn cynorthwyo pobl sy'n byw dan amgylchiadau bregus. Ymhlith yr anerchwyr roedd cyrff fel grŵp Pobl, Cyngor Ar Bopeth, National Energy Action a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Sam James, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Domestig Dŵr Cymru: "Mae bregustra'n beth cymhleth sy'n aml yn aml-haenog, ac rydyn ni'n ymwybodol y bydd ein cwsmeriaid yn wynebu sialensiau sylweddol yn y flwyddyn sydd i ddod wrth i lawer o'u biliau domestig godi. Fel cwmni sy'n rhan mor gynhenid o'r cymunedau a wasanaethwn, nid ar chwarae bach ydyn ni'n addo cynorthwyo ein cwsmeriaid bregus; y gwir amdani yw taw dyna yw ein blaenoriaeth bennaf. Mae'r ffaith fod y digwyddiad wedi denu niferoedd mor dda yn destament i ymrwymiad sefydliadau ar draws Cymru i feithrin perthnasau a rhannu arferion gorau a bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at weithredu ystyrlon sy’n fanteisiol i'r bobl yn ein cymunedau sydd angen ein gwasanaethau’r mwyaf.

"Yn Dŵr Cymru, rydyn ni'n gwneud gwaith bendigedig i gynorthwyo cwsmeriaid, trwy ein hymgyrch Yma i Helpu, ymdrechion ein tîm cymorth arbenigol, gorchestion ein prosiectau Cymunedau Gwydn o ran Dŵr, a'r gwaith gwych y mae'r tîm Cartref yn ei gyflawni i arbed dŵr."

Dywedodd Nick Batt, Cyfarwyddwr Profiadau Cwsmeriaid grŵp Pobl: "Mae hi'n amser ymestynnol i'n holl gwsmeriaid ac yn arbennig y rhai mwyaf bregus. Trwy gydol y pandemig ac wrth i gostau byw gynyddu, rydyn ni wedi bod yn cynnig cyngor, cymorth a gwybodaeth sydd wedi gwneud gwahaniaeth ymarferol i gwsmeriaid.

“Mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda phartneriaid nid-er-elw fel Dŵr Cymru i sicrhau fod bywyd gartref yn fforddiadwy ac yn hydrin i gwsmeriaid a chymunedau ar draws Cymru. Mae'r achlysur hwn yn caniatáu i ni rannu dysg a syniadau a dod o hyd i atebion newydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth i gwsmeriaid bregus mewn cyfnod o angen mawr."

Lansiwyd ymgyrch Yma i Helpu Dŵr Cymru yn Rhagfyr 2021 ac mae 26,613 o gwsmeriaid ychwanegol eisoes wedi manteisio gan ddod o hyd i gymorth sydd wedi ei deilwra at eu hanghenion. Mae hyn yn cynnwys cael eu derbyn i'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, a manteisio ar dariffau cymdeithasol a chynlluniau dyledion. Hyd yn hyn, mae 23,335 o gwsmeriaid ychwanegol wedi cael eu derbyn i'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, sy'n mynd â'r cyfanswm i 113,421. I gael rhagor o fanylion am y cynlluniau hyn, ewch i yma.