Mae Dŵr Cymru wedi cadw'r Nod Treth Deg ar ôl iddo fod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gael y dyfarniad hwnnw y llynedd.
Dŵr Cymru yw’r unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr. Mae ei fodel gweithredu unigryw yn golygu nad oes ganddo unrhyw gyfranddalwyr, ac felly mae’n buddsoddi unrhyw arian dros ben yn ôl i mewn i wasanaethau ac er budd cwsmeriaid.
Ardystiad annibynnol yw’r Nod Treth Deg, sy’n cydnabod sefydliadau sy’n dangos eu bod yn talu’r swm priodol o dreth yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.
Gyda gweledigaeth y cwmni i feithrin ymddiriedaeth ei gwsmeriaid bob dydd, mae Dŵr Cymru yn ymuno â dros 60 o sefydliadau sy’n cael eu cydnabod am reoli eu materion treth mewn ffordd gyfrifol a thryloyw.
Mae Dŵr Cymru eisoes yn cefnogi dros £1 biliwn o weithgarwch economaidd drwy fuddsoddiad uniongyrchol a’i gadwyn gyflenwi. Gan ei fod yn buddsoddi oddeutu £1 miliwn y dydd yn ei wasanaethau dŵr a dŵr gwastraff, buddsoddodd gyfanswm o £1.9 biliwn rhwng 2015-2020, a bwriedir buddsoddi £1.8 biliwn arall rhwng 2020 a 2025.
Daw'r achrediad diweddaraf hwn ar ôl i’r Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid gydnabod Dŵr Cymru fel y cwmni dŵr gorau o ran gwasanaethau cwsmeriaid yn y DU.
Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Mae ein sefyllfa unigryw fel yr unig gwmni dŵr heb gyfranddalwyr yng Nghymru a Lloegr yn golygu bod ein cwsmeriaid yn elwa ar ein model nid-er-elw wrth i ni fuddsoddi ein holl elw yn uniongyrchol yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn gwneud hyn drwy gyflymu'r broses fuddsoddi, cadw biliau’n fforddiadwy a chefnogi cwsmeriaid a allai fod yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr.
“Rydym wrth ein bodd o gael cadw’r Nod Treth Deg, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i reoli ein materion treth mewn ffordd gyfrifol. Fel cwmni moesegol a chymdeithasol gyfrifol, mae sicrhau tryloywder ym mhopeth a wnawn yn bwysig ac yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ein cwsmeriaid ynom ymhellach.”