Mae Dŵr Cymru, yr unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, yn gweithio gyda Future Valleys Construction ar y gwelliannau i Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.
Bydd prosiect 'adran 5 a 6' yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yn trawsnewid y ffordd rhwng Dowlais Top a Hirwaun gan greu dwy lôn gerbydau i bob cyfeiriad trwy brosiect adeiladu sylweddol a fydd yn cymryd rhai blynyddoedd i'w gwblhau. Future Valleys yw'r sefydliad sy'n cyflawni'r gwaith yma ar ran Llywodraeth Cymru.
Ar ran Future Valleys Construction, a chan weithio gyda'i gontractwyr partner, Lewis Civil Engineering, Alun Griffiths a Morrison Utilities, bydd Dŵr Cymru'n gwyro 18 o brif bibellau dŵr a 7 carthffos o lwybr newydd yr A465.
Er mwyn i Dŵr Cymru a Future Valleys Construction gyflawni eu gwaith yn ddiogel, bydd llwybr y Dramffordd ar gau dros dro rhwng 8 Awst a mis Ionawr. Mae'r Dramffordd yn rhan o Lwybr Cynon / Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol rhif 46, sy’n defnyddio Llwybrau Cerdded rhif 23 Hirwaun, a rhif 3 Penywaun.
Mae Dŵr Cymru a Future Valleys Construction wedi cyd-gynllunio’u gwaith er mwyn ei gyflawni tra bod y llwybr ar gau er mwyn cyfyngu cymaint â phosibl ar yr effaith ar y gymuned leol. Bydd tri gwyriad yn gweithredu yn ystod gwahanol rannau o'r gwaith:
Bydd Dŵr Cymru'n hysbysebu'r gwyriad a'r ffaith bod y llwybr ar gau ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf gan ddefnyddio arwyddion ffordd, dosbarthu llythyrau yn yr ardal leol, trwy gysylltiadau â grwpiau o ddefnyddwyr a rhanddeiliaid allweddol, negeseuon wedi eu targedu ar y cyfryngau cymdeithasol a'i wasanaeth Yn Eich Ardal chi ar-lein.
Dywedodd Gwyn Jones, Uwch Reolwr y Prosiect dros Ddŵr Cymru: "Bydd yr A465 newydd yn rhan hanfodol o rwydwaith ffyrdd strategol Cymru, felly rydyn ni'n fwy na bodlon chwarae ein rhan wrth wireddu'r prosiect adeiladu uchelgeisiol yma.
"Diogelwch ein cydweithwyr, contractwyr a'r cyhoedd yw ein blaenoriaeth bennaf, a dyna pam ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda'r awdurdod priffyrdd lleol i gau'r llwybr wrth i ni weithio yn yr ardal.
"Rydyn ni'n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra – rydyn ni wir yn gwerthfawrogi amynedd y trigolion lleol a hoffem ddiolch iddynt am eu cydweithrediad wrth i ni gyflawni ein gwaith."