Dŵr Cymru'n anfon 55,200 litr o ddŵr potel i Wcráin.
Wrth i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan “argyfwng dyngarol” yn Wcráin, mae llawer o ddinasyddion y wlad yn byw heb fwyd, dŵr yfed a nwyddau hanfodol. Mae Dŵr Cymru, y cwmni cyfleustod nid-er-elw cyntaf yng Nghymru a Lloegr, a'r unig un hyd heddiw, yn anfon 55,200 o litrau o ddŵr potel i'r wlad.
Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod bod dŵr glân a glanweithdra'n hawliau dynol, sy'n dangos pa mor hanfodol yw’r pethau sylfaenol hyn ym mywydau pob un person. Ond wrth i'r rhyfel ddwysáu, mae rhagor o fanylion yn codi am yr argyfwng, gydag adroddiadau am bobl yn toddi eira i'w yfed. Mae llywodraeth Wcráin wedi gofyn am roddion ar ffurf dŵr potel i'w yfed ac at ddibenion hylendid personol.
Dywedodd Pete Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru: “Mae'r ffaith fod yna gynifer o bobl heb ddŵr yfed yn Wcráin yn dangos pa mor ddybryd yw'r sefyllfa. Fel cwmni, byddwn ni'n adeiladu ar y cymorth rydym eisoes yn ei gynnig i bobl fregus ar draws y byd trwy ein helusen ddethol, WaterAid, gan weithio gyda chwmnïau dŵr eraill i ddarparu cyflenwadau hanfodol o ddŵr yfed ar gyfer pobl yn Wcráin.”