Buddsoddiad Dŵr Cymru i gefnogi cwsmeriaid a gwelliannau amgylcheddol


11 Tachwedd 2022

Mae cwsmeriaid a'r amgylchedd ar fin elwa ar fentrau mawr gan Dŵr Cymru, a wnaed yn bosibl gan ei fodel busnes nid-er-elw.

Wrth i bwysau costau byw gynyddu a gyda phwyslais ar leihau unrhyw effaith andwyol ar yr amgylchedd, mae'r cwmni'n cymryd camau i fanteisio'n llawn ar ei fodel gweithredu unigryw i gefnogi ei gwsmeriaid domestig a'r amgylchedd.

Mae Dŵr Cymru, sydd eisoes yn darparu cymorth ariannol i nifer mwy o gwsmeriaid nag unrhyw gwmni dŵr arall yng Nghymru a Lloegr, yn gymesur â maint y cwmni, wedi cadarnhau y bydd yn:

  • cynnal ei amrywiaeth o fesurau cefnogi i helpu cwsmeriaid i reoli eu biliau, er enghraifft gwyliau talu, cynlluniau talu hyblyg, a chyngor ar ffyrdd syml o leihau defnydd dŵr
  • buddsoddi £12 miliwn i ehangu'r cymorth ariannol i 50,000 o aelwydydd ychwanegol naill ai drwy ei gynllun "tariffau cymdeithasol" neu drwy gronfa gymunedol newydd
  • lansio cynllun treialu'r gronfa gymunedol ym mis Ionawr 2023 i dargedu cwsmeriaid sy'n cael trafferth gyda biliau domestig ond sy'n anghymwys ar gyfer budd-daliadau, ac felly tariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.

Mae'r pwyslais ar y rhan y mae'r cwmni'n ei chwarae i amddiffyn ansawdd dŵr afonydd wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Dŵr Cymru eisoes yn buddsoddi'n helaeth i leihau faint o ffosffad y mae’n ei roi i mewn i afonydd. Mae'r cwmni eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £833 miliwn i wella’i asedau dŵr gwastraff, yn enwedig Gorlifoedd Storm Cyfun (CSOs) ar afonydd sensitif rhwng 2020 a 2025, ac mae hefyd wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £100 miliwn i helpu i amddiffyn ansawdd dŵr afonydd.

Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu i'r cwmni gyflymu cynlluniau i osod mwy o blanhigion tynnu ffosffad mewn gwaith trin dŵr gwastraff (£60 miliwn) a lleihau effaith CSOs – yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli ar hyd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) (£40 miliwn). Bydd hyn yn golygu buddsoddi yn ei brif asedau ar safleoedd fel Afon Menai (£10 miliwn), Aberhonddu (£6 miliwn), Trefynwy (£2 miliwn), Trebanos (£2 miliwn), yn ogystal â Llanybydder, Llanbedr Pont Steffan, Casblaidd, Corwen, Llan-ffwyst a Threletert (£20 miliwn). Bydd hefyd yn ei gwneud yn bosibl datblygu mwy o atebion sy'n seiliedig ar natur i helpu i wella ansawdd afonydd. Er enghraifft ar afon Gwy mae'r cwmni’n gweithio gyda Sefydliad Gwy ac Wysg a Chyngor Henffordd i gefnogi’r gwaith o dynnu ffosfforws ychwanegol gan ddefnyddio triniaeth naturiol drwy system wlyptir carbon isel a fydd hefyd yn gwella bioamrywiaeth leol.

Dywedodd y Cyng. Liz Harveu, Dirprwy Arweinydd Cyngor Swydd Henffordd: “Mae’r gwaith cydweithredol gyda Dŵr Cymru a Sefydliad Gwy ac Wysg yn dechrau symud y gwaith o adeiladu tai yn y sir unwaith eto yn raddol ac yn cyfrannu at wella’n hafonydd hefyd.”

Mae’r cyhoeddiad hwn am gyllid i gefnogi cwsmeriaid agored i niwed ac i amddiffyn yr amgylchedd yn dod wrth i'r cwmni adrodd ar ei ganlyniadau hanner blwyddyn. Er gwaethaf yr heriau ehangach y mae’r economi’n eu hwynebu, mae'r cwmni wedi cynnal perfformiad cryf. Mae hyn wedi cynnwys parhau i fuddsoddi ychydig dros £1 miliwn y dydd ar welliannau i'w rhwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff.

Mae'r cwmni hefyd wedi cadarnhau ei fod yn gweithio ar gynllun i gefnogi ei weithwyr trwy'r argyfwng costau byw ac eisoes wedi gweithredu'r cynnydd i'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'r holl weithwyr dan sylw.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: “Mae ein model busnes nad yw’n cynnwys cyfranddalwyr yn ein gosod ar wahân i'r cwmnïau dŵr eraill yng Nghymru a Lloegr ac mae'n bwysig ein bod yn dangos sut y mae'n darparu budd diriaethol i'n cwsmeriaid. Felly rwy’n falch iawn, oherwydd nad oes angen gwobrwyo cyfranddalwyr, ei bod yn bosibl i ni gyhoeddi'r buddsoddiad ychwanegol hwn er budd ein cwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae hyn yn adeiladu ar y miliynau o bunnoedd y mae ein model eisoes wedi ein galluogi i’w buddsoddi i helpu i gadw biliau cwsmeriaid yn fforddiadwy a chyflawni cynllun buddsoddi hanfodol i wella gwasanaethau i gwsmeriaid a lliniaru effaith ein gweithrediadau ar yr amgylchedd.”.

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: “Mae'n ddealladwy bod yr argyfwng ariannol presennol yn gyfnod pryderus a bydd yn golygu y bydd mwy o gwsmeriaid yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Gyda’r nod o ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid, rydym yn gwybod bod gennym ran bwysig i'w chwarae yma a dyna pam y byddwn yn cefnogi hyd yn oed mwy o gwsmeriaid yn y cyfnod hwn o angen. Ein cyngor i gwsmeriaid yw cysylltu â ni'r foment y mae’r bil yn achosi pryder fel y gallwn edrych i weld sut y gallwn roi cefnogaeth i leddfu'r pryder hwn.

“Yr un mor bwysig yw ein bod ni'n ymdrechu’n galetach i ddiogelu'r amgylchedd, yn enwedig ansawdd dŵr afonydd. Wrth i ddisgwyliadau newid, mae angen gwneud mwy, yn enwedig i leihau effaith CSOs. Nid yw eu tynnu o'n system garthffosiaeth yn gyfan gwbl yn opsiwn ond yr hyn sydd o fewn ein rheolaeth ni yw'r gallu i gyfeirio buddsoddiad at y CSOs hynny sy'n cael yr effaith fwyaf fel y gallwn wella’u perfformiad. Bydd y £100 miliwn ychwanegol yn ein galluogi i gyflwyno cynlluniau buddsoddi er mwyn helpu i gyflawni hyn a bydd yn adeiladu ar yr £833 miliwn yr ydym eisoes yn ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith dŵr gwastraff hyd at 2025.”