Dŵr Cymru'n cynnal fforwm datblygwyr rhithiol


25 Ionawr 2022

Daeth dros 40 o ddatblygwyr cartrefi ac aelodau o gymdeithasau tai i fforwm datblygwyr Dŵr Cymru’r wythnos ddiwethaf.

Cyn y pandemig, roedd cynnal dau achlysur ffisegol y flwyddyn, sef y ffora datblygwyr, yn rhan allweddol o raglen gysylltu Dŵr Cymru â'i gwsmeriaid datblygu. Ers COVID-19, mae'r sesiynau hyn wedi symud i fod yn achlysuron rhithiol ar lein trwy Microsoft Teams.

Mae’r fforwm datblygwyr yn rhannu newyddion am feysydd o flaenoriaeth allweddol i gwsmeriaid, fel y rheoliadau newydd, a’r gwelliannau y mae Dŵr Cymru wedi eu gwneud i'w wasanaethau, ac mae’n casglu adborth gwerthfawr gan ddatblygwyr am y broses newydd ar gyfer cysylltiadau dŵr a charthffosiaeth hefyd.

Eleni, roedd y pynciau trafod yn amrywio o ddiweddariad ar ffosffadau a sut rydyn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid eraill i ystyried atebion hirdymor i'r broblem, adolygu sut y gall taliadau datblygwyr yng Nghymru gael eu cyfrif mewn ffordd wahanol yn y dyfodol, a diweddariad ar sut y mae Dŵr Cymru'n parhau i ddarparu ei wasanaethau er gwaethaf sialensiau COVID-19.

Yn ogystal, lansiodd Dŵr Cymru ei Banel Cwsmeriaid Datblygu newydd yn ystod yr achlysur, a chyhoeddodd ei fod yn chwilio am enwebiadau ar gyfer aelodaeth y panel. Bydd y panel yn cynnwys tua 10 o gwsmeriaid allweddol a fydd yn gweithredu fel postyn taro ar gyfer unrhyw syniadau newydd a newidiadau arfaethedig, ac yn clustnodi ffyrdd y gall Dŵr Cymru a'i gwsmeriaid gydweithio.

Bu'r adborth ar y fforwm yn gadarnhaol, gyda'r rhai fu'n bresennol yn rhoi marc o 4.4 allan o bump ar gyfartaledd. Rhoesant sgôr o 82% o ran pa mor fodlon oedden nhw â gwasanaeth adran gwasanaethau datblygu Dŵr Cymru yn gyffredinol hefyd.

Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n falch o'n record gadarn wrth ddelio â'n cwsmeriaid datblygu. Er y byddem ni'n dwlu dychwelyd i ddigwyddiadau ffisegol gyda'n datblygwyr, mae'r achlysuron rhithiol yma'n ffordd bwysig i ni gadw mewn cysylltiad yn y cyfnod COVID-19. Rydyn ni am ddatblygu ein cysylltiadau â datblygwyr eto fyth trwy lansio ein Panel Cwsmeriaid Datblygu, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at dderbyn yr enwebiadau maes o law. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth ac a wnaeth y fforwm yn llwyddiant."