Cynnal ffora datblygwyr Dŵr Cymru wyneb yn wyneb


30 Mehefin 2022

Mynychodd dros 65 o ddatblygwyr eiddo a darparwyr cartrefi cymdeithasol ffora cwsmeriaid datblygu Dŵr Cymru'r wythnos ddiwethaf.

Cyn y pandemig, rhan allweddol o raglen gysylltu Dŵr Cymru ar gyfer cwsmeriaid datblygu oedd cynnal dau achlysur wyneb yn wyneb y flwyddyn, sef y ffora datblygwyr. Yn ystod COVID-19, newidiodd y sesiynau hyn i fod yn achlysuron rhithiol ar lein trwy Microsoft Teams. Am y tro cyntaf ers 2019, yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd y ddau fforwm datblygwyr ar ffurf achlysuron wyneb yn wyneb, y naill yng Nghaerdydd a'r llall yng Nghaer.

Mae'r fforwm datblygwyr yn cynnig diweddariadau ar feysydd o flaenoriaeth allweddol i gwsmeriaid, fel rheoliadau newydd, y gwelliannau y mae Dŵr Cymru wedi eu gwneud i'w wasanaethau, a chasglu adborth gwerthfawr gan ddatblygwyr am y broses newydd ar gyfer cysylltiadau dŵr a charthffosiaeth.

Eleni roedd y pynciau trafod yn amrywio o ddiweddariad ar ffosffadau sy'n achosi oedi wrth gwblhau tai newydd, a sut rydyn ni'n gweithio mewn ffordd ragweithiol â rhanddeiliaid eraill i edrych ar atebion cynaliadwy tymor byr a thymor hir i’r broblem, sut y gall cwsmeriaid datblygu wneud eu cartrefi'n fwy effeithlon o ran dŵr, a sut i reoli draenio cynaliadwy ar safleoedd datblygu.

Yn yr achlysur yng Nghaer, croesawyd y siaradwr gwadd Stephen Beauchamp, cyfarwyddwr OTB, sef cwmni geodechnegol a pheirianneg sifil arbenigol a fu'n gweithio gyda Chyngor Gorllewin Caer a Chaer ar eu draeniau dŵr wyneb newydd.

Bu'r adborth ar y fforwm yn gadarnhaol, gyda 100% o'r rhai fu’n bresennol yn dyfarnu bod yn achlysur yn 'dda' neu'n 'rhagorol'.

Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n falch o'n record gadarn wrth ddelio â'n cwsmeriaid datblygu. Roedd hi'n braf iawn cael cynnal ein hachlysuron wyneb yn wyneb cyntaf i gwsmeriaid datblygu ers dwy flynedd a hanner, ac roedd hi'n hyfryd cael dal i fyny ag wynebau newydd a rhai cyfarwydd. Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth ac a wnaeth y fforwm yn llwyddiant."