Parhaodd Dŵr Cymru, yr unig gwmni cyfleustod nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, i ddarparu cefnogaeth ddi-dor i bob math o ddatblygiadau a phrosiectau seilwaith mawr newydd trwy gydol y pandemig Covid-19, gan gynnwys dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi bod yn brysur dros ben.
Mae gan y tîm Gwasanaethau Datblygu gyfrifoldeb pwysig i weithio gyda’i holl gwsmeriaid datblygu, bach a mawr, er mwyn hwyluso cysylltiadau newydd â’i rwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff, fel y gall y cartrefi a’r busnesau newydd gael cyflenwadau hanfodol a diogel o ddŵr glân a gwasanaethau dŵr gwastraff ymhell i’r dyfodol.
Yn 2021-22:
- Cysylltodd dros 6,000 o gartrefi newydd â’i rwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff
- Ymatebodd i 6826 o ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio, gan gefnogi dros 99% o’r cartrefi newydd a gynigiwyd ynddynt
- Gosododd neu mabwysiadodd dros 42,000m o brif bibellau newydd
- Gosododd neu mabwysiadodd dros 51,000m o garthffosydd a draeniau ochrol newydd
- Hwylusodd dros 2,000 o geisiadau i ehangu/gwella cartrefi yn ddiogel er mwyn adeiladu’n agos at neu dros ben ein carthfosydd cyhoeddus, gan gynnwys rhai oedd yn ymwneud ag addasiadau i wella safonau byw pobl ag anabledd personol.
Yn ogystal, darparodd gyngor arbenigol a gwasanaethau seilwaith dŵr/dŵr gwastraff ar gyfer yr holl brosiectau seilwaith strategol ar draws ei ardal weithredol, boed y rheiny’n brosiectau priffyrdd newydd, yn safleoedd cyflogaeth pwysig, neu’n gynlluniau adfywio. Mae hyn gyfystyr â buddsoddiad o £50m mewn seilwaith dŵr/dŵr gwastraff newydd gan y datblygwyr a Dŵr Cymru i gynorthwyo’r prosiectau critigol hyn.
Dywedodd Ian Wyatt, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Busnes Dŵr Cymru:“Rwy’n falch fod y tîm yn parhau i ddarparu cymorth hollbwysig ar gyfer pob math o ddatblygiadau economaidd ar draws ein hardal, sy’n rhywbeth wedi bod yn hanfodol ac yn dipyn o her trwy gydol cyfnod y pandemig.
“Fel cwmni, rydyn ni’n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod cartrefi a busnesau’n derbyn seilwaith a gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff hanfodol, ac wrth sicrhau bod cymunedau cyfredol a’r amgylchedd yn cael eu hamddiffyn yn hynny o beth. Rydyn ni’n parhau i fuddsoddi ac arloesi yn y gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer ein cwsmeriaid datblygu, ac un rhan allweddol o hyn yw ein digwyddiadau cyswllt a gynhelir ar draws ein hardal weithredu bob chwe mis.”