Dŵr Cymru yn cadarnhau cymorth ychwanegol i gwsmeriaid agored i niwed wrth i'r cynnydd mewn taliadau gael ei gyhoeddi ar gyfer 2022/23
4 Chwefror 2022
Mae Dŵr Cymru yn annog cwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau dŵr i gysylltu â'r cwmni i drafod pa gymorth a allai fod ar gael iddyn nhw.
Mae'r cwmni eisoes yn helpu dros 130,000 o gwsmeriaid i dalu eu biliau. Mae'n cynnig amrywiaeth o gymorth ariannol i'r rhai sydd ei angen fwyaf ac mae hyn wedi dod yn bwysicach oherwydd bod costau byw yn cynyddu ac effaith barhaus pandemig Covid-19.
Mae'r cwmni wedi cadarnhau y bydd y rhan fwyaf o'i gwsmeriaid sy’n aelwydydd yn gweld cynnydd yn eu biliau dŵr a gwastraff dŵr nodweddiadol o rhwng 3.8% a 6.6% o fis Ebrill nesaf. Mae hyn o ganlyniad i'r cynnydd sylweddol yng nghyfradd chwyddiant, yn enwedig costau cynyddol pŵer, cemegau a'r deunyddiau sydd eu hangen i gynhyrchu dŵr yfed a thrin gwastraff dŵr. Bydd y "Bil aelwyd cyfartalog" yn cynyddu 0.1%, fodd bynnag, mae'r ffigur hwn yn cynnwys tariffau cymdeithasol sy'n cael eu disgowntio'n sylweddol ac felly'n wahanol i'r cynnydd nodweddiadol y bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn ei weld.
Dŵr Cymru yw'r unig gwmni dŵr nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n cyflenwi gwasanaethau i dros 3 miliwn o bobl yng Nghymru a rhai rhannau cyfagos o Swydd Henffordd a Glannau Dyfrdwy. Mae model nid-er-elw y cwmni wedi ei gwneud yn bosibl clustnodi £12.4 miliwn yn 2022/23 i helpu hyd at 54,000 o gwsmeriaid cymwys ychwanegol.
Mae Dŵr Cymru yn annog cwsmeriaid a allai fod yn wynebu anawsterau i gysylltu â'r cwmni cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn galluogi cwsmeriaid i drafod yr amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael gan gynnwys cynlluniau talu hyblyg neu osod mesurydd dŵr a fyddai o fudd i aelwydydd wrth iddynt leihau eu defnydd o ddŵr.
Dywedodd Prif Swyddog Cyllid Dŵr Cymru, Mike Davis:
"Mae cost llawer o gyflenwadau sy'n hanfodol i'n busnes wedi cynyddu'n sylweddol dros y 12 mis diwethaf. Mae cynnydd o'r fath yn cael ei weld ar draws pob sector ac nid ydym ni wedi ein diogelu rhag y pwysau hyn. Fodd bynnag, rydym yn gweithio mor galed ag y gallwn i gyfyngu ar yr effaith ar ein cwsmeriaid a chadw’r cynnydd mor isel â phosibl.
"Dyma pam yr ydym yn sicrhau bod cymorth ar gael i 54,000 o gwsmeriaid ychwanegol sy'n agored i niwed, yn ogystal â'r 130,000 sydd eisoes yn elwa o'r gwahanol ffyrdd yr ydym yn helpu cwsmeriaid i dalu eu biliau. Byddem yn annog pob cwsmer sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ar yr adeg anodd hon i gysylltu â ni i weld pa gymorth y gallwn ei ddarparu.
"Rydym hefyd yn gofyn i bob cwsmer feddwl am eu defnydd o ddŵr ac i gysylltu â ni os ydynt yn credu y gallent elwa o fod ar fesurydd dŵr. Rydym yn gosod y mesuryddion hyn yn rhad ac am ddim ac mae gennym gyfrifiannell ar ein gwefan i helpu cwsmeriaid i ddeall beth allai eu biliau fod pe baent yn newid i fesurydd. Mae modd cael gwared ar y mesurydd yn rhad ac am ddim o fewn dwy flynedd ond maent yn aml yn helpu rhai cwsmeriaid i reoli eu defnydd o ddŵr ac o bosibl arbed arian, gan arbed dŵr a diogelu'r amgylchedd hefyd."
Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd Cymru y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW)::
"Mae aelwydydd yn wynebu ton o gostau byw cynyddol felly mae'n hanfodol bod cwsmeriaid yn gofyn am gymorth nawr fel y gallant gael gafael ar unrhyw gymorth nad ydynt eisoes yn ei gael gan Dŵr Cymru. Gall rhai aelwydydd arbed cannoedd o bunnoedd drwy newid i fesurydd dŵr, a gall eraill ar incwm isel fod yn gymwys i gael biliau wedi'u lleihau'n sylweddol. Gall camau syml i leihau ein defnydd o ddŵr poeth hefyd leihau costau ynni cynyddol."