Dŵr Cymru'n cwblhau prosiect buddsoddi £8 miliwn yn Llanandras


12 Gorffennaf 2022

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi cwblhau prosiect i fuddsoddi £8 miliwn mewn gwaith i uwchraddio'r rhwydwaith dŵr gwastraff a gwella ansawdd y dŵr yn yr afon yn Llanandras.

Roedd y gwaith a gyflawnwyd gan y cwmni dŵr nid-er-elw yn cynnwys adeiladu gorsaf bwmpio newydd sbon yng ngweithfeydd trin dŵr gwastraff Norton, ac uwchraddio'r asedau yng Ngweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Llanandras. Gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, mae'r gwaith wedi caniatáu i'r gwastraff o Norton gael ei bwmpio i Lanandras i gael ei drin.

Mae gweithfeydd trin Llanandras eisoes yn trin y dŵr gwastraff y mae'n ei dderbyn o'r ardal gyfagos i safon uchel, ond mae'r gwaith uwchraddio yma wedi helpu i wella'r broses drin eto fyth.

Y prif welliant yw cyflwyno proses sy'n tynnu'r ffosffadau o'r dŵr gwastraff wedi ei drin. Mae ffosffadau'n gallu achosi gordyfiant o algâu, felly bydd eu tynnu o'r dŵr gwastraff wedi ei drin yn helpu i leihau'r lefelau yn Nant Norton ac Afon Llugwy gerllaw – a fydd, yn ei dro, yn llesol i fywyd dyfrol y nant.

Dywedodd Angela Meadows, Uwch Reolwr Prosiect Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod ein gwaith buddsoddi yn ardal Llanandras wedi cael ei gwblhau. Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ail-fuddsoddi elw'n uniongyrchol er budd cwsmeriaid a'r cymunedau a wasanaethwn, gan helpu i sicrhau ein bod ni'n darparu gwasanaeth dŵr gwastraff o'r safon uchaf, ac yn amddiffyn ein hamgylchedd gwerthfawr."

Nôl yn Chwefror 2022, daeth Rebecca Pow, gweinidog Amgylchedd y DU, a'r Aelod o'r Senedd sy'n cynrychioli'r ardal, James Evans, i ymweld â'r gweithfeydd trin yn Llanandras. Bu'r ymweliad yn rhan o'u hymdrechion i gael gwybodaeth am y prosiectau sy'n cael eu cyflawni i helpu i wella ansawdd y dŵr yn Afon Gwy. Yn ystod yr ymweliad, esboniodd Dŵr Cymru'r buddsoddiad sylweddol y maent yn ei wneud eisoes i helpu i wella ansawdd dŵr yr afon – sy'n cynnwys yr £8 miliwn a fuddsoddwyd yn Llanandras.

Yn sgil yr ymweliad â'r safle cafwyd trafodaeth bord gron am sut y gall sefydliadau a grwpiau â diddordeb yn ansawdd dŵr yr afon gydweithio i wella ansawdd dŵr yn yr afon eto fyth. Ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, yn y drafodaeth, ynghyd ag AS Aberhonddu a Sir Faesyfed, Fay Jones.

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn aelod gweithgar o’r Tasglu Gwella Ansawdd Afonydd. Mae’r tasglu, sy’n tynnu rheoleiddwyr, y llywodraeth a’r cwmnïau dŵr ynghyd, wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno dull cydweithredol o fynd ati i wella ansawdd afonydd. Dros gwrs y misoedd diwethaf, mae’r tasglu wedi bod yn gweithio i ddatblygu cynlluniau gweithredu i leihau effaith gorlifoedd storm, ac mae’r rhain bellach wedi eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ategwyd lansiad y cynlluniau gan ddatganiad ysgrifenedig gan y gweinidogion, a oedd yn nodi taw’r cam cyntaf ar siwrnai i edrych ar yr holl ffactorau y mae angen mynd i’r afael â nhw yw’r cynlluniau ar gyfer y gorlifoedd storm er mwyn helpu i wireddu gwelliannau tymor hir a chynaliadwy o ran ansawdd dŵr yr afonydd.